Cyfarfodydd
Cynigion ar gyfer deddfwriaeth ar roi organau a meinweoedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/10/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Drafft - Sesiwn friffio ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr
Meddygol GIG Cymru a’r Dirprwy Brif Swyddog
Meddygol
Grant Duncan, Dirprwy
Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth
Feddygol, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ymgynghori’r Llywodraeth
Cofnodion:
6.1 Atebodd y swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar Fil drafft Trawsblannu
Dynol (Cymru).
Cyfarfod: 02/05/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Papur Gwyn ar Roi Organau - Sesiwn friffio ddilynol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
HSC(4)-13-12 papur 5
Cofnodion:
3.1 Atebodd y tystion gwestiynau a ofynnwyd gan Aelodau’r
Pwyllgor ynghylch y Papur Gwyn ar Roi Organau.
Cyfarfod: 19/01/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Papur Gwyn ar Roi Organau - gwybodaeth bellach gan swyddogion Llywodraeth Cymru
HSC(4)-07-09 papur 8a – Pwyntiau o eglurhad yn dilyn cyfarfod 8 Rhagfyr 2011
HSC(4)-07-09 papur 8b – Dyddiadau cyfarfodydd cyhoeddus, Ionawr 2012
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.2 The Committee agreed to seek further information from Welsh Government officials on the different groups it had consulted on the Organ Donation White Paper.
Cyfarfod: 08/12/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Papur Gwyn ar Roi Organau - Sesiwn friffio ar y materion technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru
HSC(4)-13-11 papur
3
Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG
Cymru a’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
Grant Duncan, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Feddygol, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.1 Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch y Papur Gwyn ar Roi Organau.
4.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn, y gofynnodd y Pwyllgor amdani:
· rhestr o sefydliadau yn y trydydd sector sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn;
· manylion am gyfarfodydd cyhoeddus ar y Papur Gwyn a fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol;
· eglurhad ynghylch a yw’r trefniadau presennol ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yn gymwys yng Nghymru a Lloegr yn unig, neu hefyd yn cynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal sesiwn debyg ar ddiwedd y broses o ymgynghori ar y Papur Gwyn.