Cyfarfodydd
Amserlen y Cynulliad - y Pumed Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 05/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Amserlen y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cyfarfod: 05/02/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Papurau i'w nodi - Rhestr o Gwestiynau Llafar y Cynulliad a Dogfen Cyfrifoldebau Diwygiedig y Gweinidogion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd wyth cwestiwn yn cael eu tynnu o'r balot
ar gyfer cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ac na fydd amser wedi'i
neilltuo ar gyfer cwestiynau llefarwyr ar hyn o bryd, o gofio bod 15 munud yn
cael ei neilltuo i'r eitem, ond os teimlai'r Aelodau'n gryf am hyn y gallai
ffurfio rhan o'r adolygiad o'r weithdrefn ymhen ychydig fisoedd.
Cododd
Rhun ap Iorwerth y ffaith bod cyfrifoldebau'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
wedi cael eu gwahaniaethu oddi wrth rai'r Prif Weinidog yn y ddogfen
cyfrifoldebau diwygiedig y Gweinidogion, ond nad dyna'r achos o ran Dirprwy
Weinidogion eraill. O gofio hynny, gofynnodd a ddylai llefarwyr barhau i gymryd
yn ganiataol y dylid cyfeirio eu cwestiynau i'r Gweinidog. Dywedodd y Llywydd
mai'r Llywodraeth ddylai benderfynu pwy fyddai'n ateb cwestiynau'r llefarwyr,
ac eglurodd mai'r Gweinidog ddylai eu hateb, oni bai ei bod yn amlwg ar unwaith
mai cwestiwn ar gyfer Dirprwy Weinidog oedd gan y llefarydd. Pe bai llefarwyr
yn teimlo'n gryf yr hoffent i'w cwestiynau gael eu hateb gan y Dirprwy, gallent
nodi hynny i'r llywodraeth yn breifat ymlaen llaw.
Cyfarfod: 08/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Papur i'w nodi - Amserlen Cwestiynau Llafar y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Nododd y Rheolwyr Busnes y newidiadau. Dywedodd y
Trefnydd fod Gweinidogion a Dirprwy Weinidogion yn trafod sut y byddant yn
dyrannu’r cyfrifoldebau rhyngddynt. Bydd y ddogfen 'Cyfrifoldebau'r
Gweinidogion,' yn cael ei diwygio a’i chylchredeg eto i'r Aelodau yn fuan.
Cyfarfod: 08/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Amserlen y Cynulliad
Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Amserlen y Cynulliad