Cyfarfodydd
Strategaeth Archif
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/07/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Prosiect Archif
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
gynnydd yn y broses o ddigideiddio recordiadau clyweledol o drafodion y
Cynulliad (fel yr oedd ar y pryd) rhwng 1999 a 2014. Cawsant wybod y byddai'r gwaith yn cael ei
gyflawni o dan gytundeb gyda Bow Tie.
Trafododd y
Comisiynwyr oblygiadau archifau digidol i'r Aelodau fel deiliaid swyddi unigol,
ac awgrymwyd gofyn am gyngor ar ran yr Aelodau.
Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Diweddariad am Archif y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cyfarfod: 14/07/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Strategaeth archifo
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Cyflwynodd Chris Warner gynnig i ddatblygu strategaeth
archifo, gan weithio’n agos â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i greu archif
gydlynol a hygyrch ar gyfer cadw holl gofnodion y Cynulliad yn yr hirdymor, ac
a fyddai’n cyd-fynd â’r polisïau ehangach ar gyfer rheoli gwybodaeth a diogelu
data ac yn gydnaws ag amcanion y rhaglen FySenedd.
Cydnabu’r Bwrdd Rheoli bwysigrwydd strategol datblygu
strategaeth archifo’r Cynulliad, a chytunwyd ar y camau arfaethedig i
gyflawni’r prosiect.
Cyfarfod: 20/06/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Strategaeth Archif
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Cytunodd y Bwrdd i neilltuo
cyfarfod i drafod rheoli absenoldeb, felly gohiriwyd yr eitemau eraill tan
agenda cyfarfod mis Gorffennaf.