Cyfarfodydd
P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-693 Rhowch y brechlyn llid yr ymennydd B i bob plentyn yng Nghymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y
gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y
deisebydd.
Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 38 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 05.04.17 Gohebiaeth - Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eitem 3 PDF 117 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunwyd i ofyn am sylwadau’r deisebydd ar yr ohebiaeth ddiweddar cyn cytuno
ar y camau nesaf i'w cymryd.
Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 38 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- Gohebiaeth gan Meningitis Now a’r Sefydliad Ymchwil i Lid yr Ymennydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 189 KB Gweld fel HTML (3/2) 13 KB
- Atodiad (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 328 KB Gweld fel HTML (3/3) 30 KB
- Atodiad 2 (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 388 KB Gweld fel HTML (3/4) 24 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
- ysgrifennu at y Gweinidog dros Wasanaethau
Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i rannu'r wybodaeth a dderbyniwyd gan
Meningitis Now a'r Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd a gofyn a yw
tystiolaeth bellach gan y JCVI wedi cael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru
ers yr ohebiaeth flaenorol ym mis Awst 2016, yn enwedig mewn perthynas â
brechu plant hyd at 2 oed, a rhwng 3 a 5; ac
- ceisio barn y deisebwr eto ar yr holl ohebiaeth
ddiweddaraf a dderbyniwyd ar y pwynt hwnnw.
Cyfarfod: 11/10/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 09.08.16 Gohebiaeth - Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 140 KB
- 04.10.16 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 15 KB Gweld fel HTML (3/3) 4 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Meningitis
Now a Sefydliad Ymchwil Llid yr Ymennydd i ofyn am eu barn ar ymestyn y rhaglen
frechu bresennol.
Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 3 PDF 69 KB Gweld fel HTML (3/2) 46 KB
- 09.08.2016. Gohebiaeth – Y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 140 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd cyn penderfynu a
ddylid gofyn am ddadl ar y mater yn y Cyfarfod Llawn.
Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y materion a
godwyd yn y ddeiseb.