Cyfarfodydd

Adroddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y Bumed Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-19

NDM7149 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 19 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.33

NDM7149 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 19 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

 Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 02/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-19

NDM7148 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7148 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

4

12

53

Derbyniwyd y cynnig.


Cyfarfod: 17/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Adroddiadau'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Ni chyflwynwyd cynigion

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd cynigion


Cyfarfod: 05/12/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 03-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9

NDM6890  Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-18 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

NDM6890  Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-18 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 21/11/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Creu'r Diwylliant Cywir

NDM6870 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2018

Dogfennau Ategol

Ymateb Comisiwn y Cynulliad (28 Medi 2018)

Ymateb Comisiwn y Cynulliad (30 Hydref 2018)



 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.31

NDM6870 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 26/02/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar Lobïo - ymateb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr argymhellion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas â’i ymchwiliad i’r trefniadau ar gyfer tryloywder ynghylch lobïo.

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar ymatebion i’r pedwar argymhelliad, er mwyn ymateb i’r Pwyllgor Safonau.


Cyfarfod: 27/09/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-17 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9

NDM6508 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

a) yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-17 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 3 Awst 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; ac

b) yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.31

NDM6508 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

a) yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-17 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 3 Awst 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; ac

b) yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 21/06/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)

Y Pwyllgor Safonau

·         Papur 3A - Adroddiad o dan Reol Sefydlog 22

-        Atodiad A - llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor

-        Atodiad B: Adroddiad y Pwyllgor

·         Papur 3B - Adroddiad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol

-        Atodiad A - llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor

-        Atodiad B: Adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17
  • Cyfyngedig 18
  • Cyfyngedig 19
  • Cyfyngedig 20
  • Cyfyngedig 21
  • Cyfyngedig 22

Cofnodion:

15.     Ystyriodd y Bwrdd ddau adroddiad a gyflwynwyd i’w sylw gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad.

 

i)        Adroddiad o dan Reol Sefydlog 22.9

 

16.     Nododd y Bwrdd argymhellion y Pwyllgor Safonau ynglŷn ag ymchwiliad i gwyn yn erbyn Aelod Cynulliad, a gynhaliwyd gan y Comisiynydd Safonau, o dan Reol Sefydlog 22.9.

 

17.     Byddai’r Bwrdd yn ysgrifennu at Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor i gadarnhau ei fod yn fodlon bod y dulliau diogelu presennol yn ddigon cadarn.

 

ii)       Adroddiad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol

 

18.     Bu’r Bwrdd yn trafod canfyddiadau’r Pwyllgor yn dilyn ei ymchwiliad i drefniadau’r Cynulliad o ran gweithgareddau lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol, ac ystyriodd a oedd hyn yn effeithio ar weithredu’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau ai peidio.

 

19.     Cytunai’r Bwrdd â phrif neges safiad y Pwyllgor ar ddefnyddio lwfansau ar gyfer cymryd rhan mewn Grwpiau Trawsbleidiol ac am fwy o eglurder ar y mater hwn, gan gydnabod eu bod yn ddulliau o ymgysylltu â grwpiau sydd â diddordeb o amrywiol sectorau a all chwarae rhan werthfawr i wella ymwybyddiaeth o faterion gwahanol.

 

20.     Felly, ystyriwyd bod cymryd rhan mewn grwpiau o’r fath, mewn egwyddor, yn weithgaredd priodol yn y Cynulliad ac y gallai lwfansau sy’n daladwy yn unol â’r Penderfyniad gael eu defnyddio i hwyluso’r ffordd i unigolion gymryd rhan mewn gweithgaredd ffurfiol gan y grŵp. Rhaid i Aelodau’r Cynulliad fod yn bersonol gyfrifol am yr holl wariant a ysgwyddir a rhaid iddynt arddangos synnwyr cyffredin wrth asesu pa mor berthnasol mae eu holl weithgareddau i’w dyletswyddau fel Aelodau’r Cynulliad.

 

21.     Cymeradwyodd y Bwrdd nod y Pwyllgor o wneud Grwpiau Trawsbleidiol y Cynulliad yn addas ar gyfer modelau Cymru ac i’w gwneud yn fwy atebol eu natur, a byddai hyn yn sicrhau bod eglurder ynghylch y mater hwn, a’i fod yn cyhoeddi canllawiau yn ei Benderfyniad diwygedig, os byddai angen.

 

22.     Byddai Cadeirydd y Bwrdd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor rhag blaen i gyfleu safbwyntiau’r Bwrdd ar y mater, fel bod modd i hyn lywio’r drafodaeth cyn y ddadl arfaethedig yn y Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol, sydd i’w chynnal ar 26 Mehefin.