Cyfarfodydd

Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/11/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/11/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 10 Hydref

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/11/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Diwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau am ddim yn yr ysgol yng Nghymru yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/11/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/10/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr oddi wrth Owen Smith AS - Yn ymwneud ag anghysonderau o ran marcio CBAC

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/10/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – byddwn yn canolbwyntio ar Addysg Bellach ac Addysg Uwch

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp SHELL

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog ar faterion AU ac AB.

2.2 Cytunwyd i ddarparu'r canlynol:

CLGau sydd gan Lywodraeth Cymru â darparwyr prentisiaeth;

Copi o adroddiad Greystone;

Nodyn ar bryd y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r gwaith gyda CCAUC a phrifysgolion ar eu cynllun gweithredu a'u hymagwedd strategol at iechyd meddwl gael ei gwblhau a'i roi ar waith.

 


Cyfarfod: 10/10/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Trafod y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiwn graffu

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith dilynol ar rai materion gydag Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog.


Cyfarfod: 10/10/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - sesiwn graffu gyffredinol ar 10 Hydref 2018

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 28 Mehefin

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Camau yn codi o'r cyfarfod ar 28 Mehefin

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Meini prawf cymhwysedd diwygiedig i brydau ysgol am ddim yng Nghymru oherwydd cyflwyno Credyd Cynhwysol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/07/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Cod Trefniadaeth Ysgolion

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/07/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Cod Trefniadaeth Ysgolion

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/07/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr oddi wrth Dr Hayley Roberts – Polisi Derbyn ar gyfer Plant sydd Wedi’u Geni yn yr Haf

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr oddi wrth grŵp derbyniadau hyblyg i ysgolion Cymru – Polisi Derbyniadau i Ysgolion

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Carla Lyne, Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Steve Vincent, Diprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Effeithiolrwydd Ysgolion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet.

 

2.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:

·         Nodyn ar yr achosion busnes a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer yr elfen Refeniw gwerth £16 miliwn o'r cyllid i leihau maint dosbarthiadau babanod a sut y mae'r rhain yn cymharu â'r symiau a ddyrannwyd.

·         Nodyn ar y dadansoddiad o'r dyraniad o elfen Gyfalaf y cyllid.

·         Nodyn ar delerau ac amodau elfennau Refeniw a Chyfalaf y cyllid i leihau maint dosbarthiadau babanod.

·         Ffigurau ar faint o ddosbarthiadau babanod sydd â mwy na 25 o ddisgyblion ar hyn o bryd a faint a fydd ar ôl cyfnod y cyllid ymrwymedig.

·         Nodyn ar faint o ddisgyblion fydd yn elwa ar fod mewn dosbarth llai o ganlyniad i'r cyllid.

·         I ddiweddaru'r Pwyllgor ar y dogfennau diweddaraf sydd ar gael ar gynnwys y cwricwlwm wrth iddo ddod i'r amlwg. 

·         I ddarparu copïau o'r asesiadau effaith a wnaed ynglŷn â phenderfyniadau i newid y ffordd y caiff cefnogaeth i blant Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr ei chyllido.

·         Nodyn ar sefyllfa'r gwasanaethau addysg teithwyr ledled Cymru.

 

 

 


Cyfarfod: 28/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am ragor o wybodaeth am rai materion penodol.

 


Cyfarfod: 28/02/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Cadeirydd at CBAC mewn perthynas ag argaeledd gwerslyfrau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 07/02/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/12/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Lywodraeth Cymru - camau dilynol yn sgil y sesiwn graffu gyffredinol a gynhaliwyd ar 18 Hydref ar addysg uwch ac addysg bellach

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4.5)

4.5 Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 18 Hydref

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4.6)

4.6 Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyllid ar gyfer Llywodraethwyr Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/10/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – Sesiwn Graffu

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg

Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Chris Jones, Pennaeth Rheoli Perfformiad a Cyllid Myfyrwyr

Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn holi Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwnaethant gytuno i ddarparu'r canlynol:

 

·         y cyfrifiadau sy'n sail i'r £10 miliwn ychwanegol a fyddai ar gael i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn dilyn y datganiad ar 18 Hydref ar Gyllid i Fyfyrwyr;

 

·         nodyn am farn Prifysgolion ar Fagloriaeth Cymru. 

 

 

 


Cyfarfod: 04/10/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Ymchwiliad i Athrawon Cyflenwi

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch Ysgolion Bro

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 14 Mehefin

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/06/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gyffredinol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Steve Davies, Cyfarwyddwr - yr Is-Adran Addysg

Huw Morris, Cyfarwyddwr - yr Is-Adran Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar nifer yr unigolion y disgwylir iddynt gael budd o'r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i anfon ymatebion ysgrifenedig at y Pwyllgor ar gyfer y cwestiynau na chawsant eu gofyn.

 

 

 


Cyfarfod: 06/10/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr Oddi Wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 13 Gorffennaf

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/09/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 13 Gorffennaf

Papur i'w nodi 9

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/07/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Trafod blaenoriaethau'r portffolio

Kirsty Williams AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Owen Evans - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol Group Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Steve Vincent - Dirprwy Cyfarwyddwr, Yr Is-adran Rheolaeth ac Effeithiolrwydd Ysgolion

Huw Morris – Cyfarwyddwr Grŵp, SAUDGO

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

O dan Reol Sefydlog 17.24, datganodd Llyr Gruffydd AC fuddiant perthnasol, sef ei fod yn llywodraethwr ysgol.  Datganodd Hefin David ei fod yn uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a bod gan Goleg Cymraeg safle yn y brifysgol.

Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:

 

Mwy o fanylion am yr ymchwil annibynnol gan Brifysgol Caerdydd ar y grant amddifadedd disgyblion.

 

Rhaglen gwerthuso Her Ysgolion Cymru, pan fydd ar gael.

 

Nodyn am ddyfodol gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru.