Cyfarfodydd

Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant - llythyr yn dilyn y sesiwn graffu ar 20 Gorffennaf

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Lywodraeth Cymru - camau dilynol pellach yn sgil y sesiwn graffu gyffredinol a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4.2)

4.2 Llythyr oddi wrth y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - Gwaith dilynol pellach yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar 20 Gorffennaf

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/10/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod yr ymateb i'r sesiwn graffu gyffredinol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Yn dilyn trafodaeth cytunodd y Pwyllgor y byddai llythyr yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet.

 


Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth yn dilyn y sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar 20 Gorffennaf

Ymateb i'r camau gweithredu a godwyd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 20 Gorffennaf. 

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - sesiwn graffu gyffredinol

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr - Cymunedau a Threchu Tlodi

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ychwanegol am y canlynol:

 

  • Proses yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau'r Plentyn, gan gynnwys y system sydd ar waith i fonitro ei ddefnydd ac enghreifftiau o newidiadau i bolisi sydd wedi digwydd o ganlyniad i Asesiad;
  • Annibyniaeth gymharol model comisiynwyr statudol Cymru o gymharu â'r rhai mewn gwledydd eraill (yn canolbwyntio ar y Comisiynydd Plant yn arbennig);
  • Yr amserlenni sy'n gysylltiedig â meysydd arloesedd Rhoi Plant yn Gyntaf;
  • Y diweddaraf am pryd y caiff y strategaeth gweithlu gofal plant ei chyflwyno, a rhagor o fanylion am ei chynnwys a'r cynllun ar gyfer ei gweithredu;
  • Y gwaith a wneir gan ei dîm mewn perthynas â phlant a phobl ifanc wrth baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr UE;
  • Manylion am werthusiadau (academaidd) diweddar Dechrau'n Deg a chynlluniau tebyg eraill sy'n seiliedig ar god post, gyda chymariaethau penodol o ganlyniadau ar gyfer y plant hynny sy'n cael mynediad i'r cynlluniau a'r rhai nad ydynt.

 

Yn gynnar yn nhymor yr hydref, aeth Ysgrifennydd y Cabinet ati hefyd i ddarparu ymateb pendant i'r cwestiwn ynghylch a fydd yn ailsefydlu'r Grŵp Cynghori Allanol ar Eiriolaeth.

 

 

 


Cyfarfod: 19/10/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar gymorth i ffoaduriaid o Syria ac ar gyflwyniad arfaethedig Llywodraeth y DU o’r Ddeddf Hawliau Prydeinig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar gymorth i ffoaduriaid o Syria ac ar gyflwyniad arfaethedig Llywodraeth y DU o’r Ddeddf Hawliau Prydeinig.

 


Cyfarfod: 12/10/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – rhagor o wybodaeth yn dilyn y llythyr a anfonwyd ar 15 Medi ynglŷn â’r cam gweithredu yng nghyfarfod 13 Gorffennaf

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/09/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - trafod blaenoriaethau cynnar y Gweinid

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Jo-anne Daniels,  Cyfarwyddwr, Cymmunedau & Trechu Tlodi
John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan::

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         Jo-anne Daniels,  Cyfarwyddwr, Cymmunedau & Trechu Tlodi

·         John Howells, Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio

3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ysgrifennu at y Pwyllgor:

 

  • ynghylch canlyniad ei drafodaeth a drefnwyd gyda Gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ffoaduriaid Syria ar rôl Llywodraeth Cymru o ran adsefydlu ffoaduriaid, yn enwedig plant ar eu pennau'u hunain.
  • a gyda manylion amseroedd ar gyfer y bwriad i gyflwyno Bil Hawliau Prydain gan Lywodraeth y DU cyn gynted ag y byddant ar gael, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dylanwadu ar ddatblygiad Bil o'r fath

Cyfarfod: 14/09/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 13 Gorffennaf

Papur i'w nodi 10

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/07/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Trafod blaenoriaethau'r portffolio

Carl Sargeant AC – Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Albert Heaney - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Jo-Anne Daniels - Cyfarwyddwr, Cymmunedau ac Trechu Tlodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu'r canlynol:

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am amserlenni ar gyfer cyhoeddi'r cynlluniau 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu gofal plant a blynyddoedd cynnar.

 

Nodyn am gyhoeddi asesiad o'r effaith ar hawliau plant (CRIA).