Cyfarfodydd
EU Referendum
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Paratoadau Comisiwn y Cynulliad ar gyfer gadael yr UE
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr
bapur yn adrodd ar y cynnydd o ran ymdrin ag effaith gadael yr UE ar y
Cynulliad. Roedd yn amlinellu’r gwaith sy’n cael ei wneud i asesu'r goblygiadau
a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgarwch y Cynulliad sy’n gysylltiedig
â gadael yr UE. Roedd hefyd yn rhoi asesiad o'r goblygiadau i'n gwasanaethau
corfforaethol a pha mor barod ydynt yn y maes hwn.
Gofynnodd y Comisiynwyr
sut y mae agweddau penodol ar weithrediad y Comisiwn, er enghraifft gofynion
Iechyd a Diogelwch, yn cael eu monitro o ran goblygiadau. Nodwyd y papur.
Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 19/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 19/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Dwy Flynedd ers Refferendwm yr UE
NDM6741 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi y bydd dwy flynedd wedi pasio ers y Refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin 2018.
2.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymagwedd at y trefniadau pontio wrth ymadael
â’r UE sydd yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth
Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac yn credu mai dyma’r ffordd orau o
hyd i sicrhau canlyniad boddhaol i’r negodiadau ar Brexit.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
cydnabod bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ar y penderfyniad a wnaed yn
refferendwm yr UE i adael yr UE ac na ddylid tanseilio ei safbwynt mewn
trafodaethau gyda'r UE.
[Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb
Ewropeaidd.
Yn
galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu
dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a rhoi'r gorau i geisio tanseilio
proses Brexit.
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen
orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau.
Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU i
gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er ei bod
wedi dweud yn glir yn 'Diogelu dyfodol Cymru' y byddai "unrhyw ymgais o’r
fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn" ganddi.
Gwelliant 4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at y ffaith bod mwyafrif o Aelodau Seneddol Llafur wedi ymatal mewn
pleidlais ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl drwy aelodaeth o’r Ardal
Economaidd Ewropeaidd, yn groes i 'Diogelu dyfodol Cymru' sy'n dweud, "Nid
oes modd i ni gefnogi cytundeb i ymadael â’r UE a fyddai’n golygu nad yw’r DU
yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl".
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.43
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6741 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi y bydd dwy flynedd wedi pasio ers y Refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin
2018.
2.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymagwedd at y trefniadau pontio wrth ymadael
â’r UE sydd yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth
Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac yn credu mai dyma’r ffordd orau o
hyd i sicrhau canlyniad boddhaol i’r negodiadau ar Brexit.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 -
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
cydnabod bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ar y penderfyniad a wnaed yn
refferendwm yr UE i adael yr UE ac na ddylid tanseilio ei safbwynt mewn
trafodaethau gyda'r UE.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 -
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn
cydnabod mai ewyllys pendant y bobl yw bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb
Ewropeaidd.
Yn
galw ar wleidyddion y Deyrnas Unedig sydd yn erbyn gadael yr UE i barchu
dymuniadau pleidleiswyr Cymru a Phrydain a rhoi'r gorau i geisio tanseilio
proses Brexit.
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen
orau i Gymru a'r DU, y tu allan i'r UE, y farchnad sengl a'r undeb tollau.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
35 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i Lywodraeth y DU i
gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er ei bod
wedi dweud yn glir yn 'Diogelu dyfodol Cymru' y byddai "unrhyw ymgais o’r
fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn" ganddi.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
8 |
3 |
40 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 -
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
gresynu at y ffaith bod mwyafrif o Aelodau Seneddol Llafur wedi ymatal mewn
pleidlais ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl drwy aelodaeth o’r Ardal
Economaidd Ewropeaidd, yn groes i 'Diogelu dyfodol Cymru' sy'n dweud, "Nid
oes modd i ni gefnogi cytundeb i ymadael â’r UE a fyddai’n golygu nad yw’r DU
yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl".
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
43 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM6741 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi y bydd dwy flynedd wedi pasio ers y Refferendwm ar yr UE ar 23 Mehefin
2018.
2.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymagwedd at y trefniadau pontio wrth ymadael
â’r UE sydd yn y Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth
Cymru a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017, ac yn credu mai dyma’r ffordd orau o
hyd i sicrhau canlyniad boddhaol i’r negodiadau ar Brexit.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
15 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 11/07/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Goblygiadau canlyniad Refferendwm yr UE
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7