Cyfarfodydd

Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Trafod ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i lythyr y Pwyllgor ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau'r risg o strôc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.    Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w lythyr.

 

2.2.    Cytunodd aelodau'r Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y materion canlynol:

  • i ofyn am eglurhad ynghylch yr amserlenni ar gyfer cynnal llawdriniaethau carotid;
  • i fynegi gobaith y Pwyllgor y byddai'r Gweinidog yn ystyried dwyn ymlaen y dyddiad dechrau ar gyfer yr ymgyrch benodol ar ymwybyddiaeth strôc, a amlinellwyd fel 2014/15 yn y llythyr.

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Trafod ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i lythyr y Pwyllgor ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau'r risg o strôc.

 

8.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n trafod camau gweithredu yn ei gyfarfod cyhoeddus ar 20 Mawrth 2014.

 


Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Lleihau’r risg o strôc: ymchwiliad dilynol - Trafod y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr ymchwiliad dilynol: lleihau'r risg o strôc, a derbyniwyd y llythyr hwnnw.

 


Cyfarfod: 21/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gwybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd i’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc yn dilyn y sesiwn ar 23 Hydref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3a.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc.

 


Cyfarfod: 21/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Trafod y materion allweddol sy’n codi o’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sy’n codi o’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc a chytunodd i ysgrifennu’n fuan at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan amlinellu ei gasgliadau.

 


Cyfarfod: 23/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 3 - Byrddau Iechyd Lleol / Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mrs Jan Smith, Cyfarwyddwr Gweithredol ac Arweinydd Gweithredol ym maes Strôc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Yaqoob Bhat, Meddyg Strôc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Hugo van Woerden, Cyfarwyddwr Arloesi a Datblygu, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Amanda Smith, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddorau Iechyd, Ansawdd a Diogelwch, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu cynrychiolwyr o fyrddau iechyd lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

4.2 Nododd Dr van Woerden fod darn o waith penodol yn mynd rhagddo ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ynghylch adsefydlu dioddefwyr dementia fasgwlaidd, ac y byddai manylion y gwaith hwn yn cael eu hanfon at y Pwyllgor.

4.3 Cytunodd Jan Smith, o Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor am y gost i Rwydweithiau’r Galon a’r Rhwydweithiau Canser o gyflogi rheolwyr sy’n goruchwylio’r ffordd y caiff pob rhwydwaith ei redeg. 


Cyfarfod: 23/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 2 - Cynghrair Strôc Cymru

Dr Anne Freeman, yr Arweinydd Clinigol ym maes Strôc yng Nghymru, yr Uned Gyflawni Genedlaethol

Dr Hamsaraj Shetty, Meddyg Ymgynghorol ym maes Strôc, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro  

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Oherwydd materion technegol, cafodd eitemau 2 a 3 eu trafod gyda’i gilydd.

3.2 Bu cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Strôc a Chynghrair Strôc Cymru yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

 


Cyfarfod: 23/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 1 - Y sector gwirfoddol

Jo Jerrome, y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd

Ana Palazon, Cyfarwyddwr Cymru, y Gymdeithas Strôc

Paul Underwood, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru, y Gymdeithas Strôc

Lowri Griffiths, y Gymdeithas Strôc

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Oherwydd materion technegol, cafodd eitemau 2 a 3 eu trafod gyda’i gilydd.

2.2 Bu cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Strôc a Chynghrair Strôc Cymru yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

2.3 Nododd Lowri Griffiths o’r Gymdeithas Strôc fod yr Athro Marcus Longley o Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cytuno i weithio gyda’r Gymdeithas i ddatblygu asesiad economaidd o wasanaethau strôc yng Nghymru. Hefyd, nododd Ms Griffiths fod Canolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi nodi bod cyllid ar gael ei wneud yr asesiad. Cytunodd Ms Griffiths i gyflwyno’r gwaith hwn i’r Pwyllgor ar ôl iddo gael ei gwblhau.


Cyfarfod: 23/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 4 - Cyrff proffesiynol

Nicola Davis-Job, Cyfarwyddwr Cyswllt Dros Dro (Arfer Proffesiynol), y Coleg Nyrsio Brenhinol 

Carole Saunders, Nyrs Glinigol Arbenigol Strôc, Ysbyty Singleton

Dr Amer Jafar, BMA Cymru Wales ac Arbenigwr Cyswllt ym maes Meddyginiaeth Adsefydlu, Ysbyty Gwynllyw

Dr Phil White, BMA Cymru Wales, Meddyg Teulu, Gogledd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu cynrychiolwyr o’r Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain Cymru yn ymateb i gwestiynau gan aelodau’r pwyllgor. 


Cyfarfod: 23/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Lleihau’r risg o stôc - ymchwiliad dilynol: Panel 5 - Llywodraeth Cymru

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Chris Jones, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (Gwasanaethau Iechyd)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dr Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, yn ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor.

 


Cyfarfod: 08/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Leihau’r Risg o Strôc

NDM4911 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Rhagfyr  2011.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2012.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.01.

 

NDM4911 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Rhagfyr  2011.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 08/12/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc - Adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i leihau’r risg o strôc.


Cyfarfod: 16/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i leihau'r risg o strôc - trafodaeth breifat am y prif faterion

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor brif negeseuon ac argymhellion yr ymchwiliad i leihau'r risg o strôc.


Cyfarfod: 10/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i leihau'r risg o strôc - trafodaeth breifat am y prif faterion

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y papur ar y prif faterion ar gyfer yr ymchwiliad i leihau’r risg o strôc. Cytunodd y byddai’n ystyried prif negeseuon ac argymhellion y papur yn y cyfarfod nesaf.  


Cyfarfod: 02/11/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Leihau'r Risg o Strôc - Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

HSC(4)-09-11 papur 4

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol
Chris Tudor-Smith, Pennaeth yr Is-adran Gwella Iechyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Swyddog Meddygol a Dr Chris Jones gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch lleihau'r risg o strôc.


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i leihau'r risg o strôc - Tystiolaeth gan y Coleg Nyrsio Brenhinol

HSC(4)-05-11 papur 6

          Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus

Nicola Davis-Job, Cynghorydd Gofal Acíwt

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar leihau’r risg o strôc.

 


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i leihau'r risg o strôc - Tystiolaeth gan BMA Cymru a Chymdeithas Ffisigwyr Strôc

HSC(4)-05-11 papur 3- BMA Cymru

Dr Charlotte Jones, Is-gadeirydd, Pwyllgor Ymarfer Meddygol Cymru

Dr Richard Lewis, Ysgrifennydd Cymru, BMA Cymru

 

HSC(4)-05-11 papur 4 – Cymdeithas Ffisigwyr Strôc Prydain

HSC(4)-05-11 papur 5 – Cynghrair Strôc Cymru

Yr Athro Pradeep Khanna

Dr Anne Freeman, Cymdeithas Ffisigwyr Strôc Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar leihau’r risg o strôc.

 

3.2 Cytunodd Dr Jones i ddarparu copi o erthygl ar sgrinio am ffibriliad atrïaidd a gyhoeddwyd yn y British Journal of General Practice.

 

3.3 Gofynnodd y Pwyllgor i’r Gwasanaeth Ymchwil ddarparu papur ar warfarin.

 


Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i leihau'r risg o strôc - Tystiolaeth gan gynrychiolwyr y GIG

HSC(4)-05-11 papur 1- Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

HSC(4)-05-11 papur 2- Iechyd Cyhoeddus Cymru

Denise Llewellyn, Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Dros Dro, Canolbarth a Gorllewin Cymru / Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

TORIAD (10.15 - 10.20)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar leihau’r risg o strôc.

 

2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth am y modd y mae byrddau iechyd yn datblygu cynlluniau strôc ledled Cymru.


Cyfarfod: 22/09/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i leihau’r risg o strôc - tystiolaeth gan y Gymdeithas Strôc (10.30 - 11.30)

HSC(4)-03-11 papur 2

·         Ana Palazòn, Cyfarwyddwr Cymru

·         Paul Underwood, Dirprwy Cyfarwyddwr Cymru

·         Lowri Griffiths, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Allanol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar leihau’r risg o strôc.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai ofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol am bapur ar roi’r Cynllun Gweithredu i Leihau’r Risg o Strôc ar waith.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor y dylai geisio gwybodaeth am gyfranogiad darparwyr gwasanaethau cymdeithasol i’r byrddau partneriaeth strôc.

 

3.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Gynghorydd Fferyllol i roi gwybod iddo am yr ymchwiliad i leihau’r risg o strôc.


Cyfarfod: 22/09/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i leihau’r risg o strôc - tystiolaeth gan y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd (09.30 - 10.30)

HSC(4)-03-11 papur 1

·         Jo Jerrome, Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tyst i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar leihau’r risg o strôc.