Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Heddlua a Throsedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plismona a Throsedd
NDM6098 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Plismona a Throsedd sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Troseddau
Rhywiol 2003, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 22 Mehefin 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).
Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
16.41
NDM6098 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau
yn y Bil Plismona a Throsedd sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf
Troseddau Rhywiol 2003, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 15/09/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Plismona a Throseddu: ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/1)
Cofnodion:
3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r llythyr
oddi wrth Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 3.2 Trafododd
y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a fydd yn cael ei osod cyn y dyddiad olaf ar
gyfer cyflwyno adrodd ar 22 Medi 2016.
Cyfarfod: 14/07/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Plismona a Throseddu: ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/1)
- Cyfyngedig 8 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/2)
Cofnodion:
3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon.