Cyfarfodydd

Gwaith Presennol - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Trafodaeth ar adroddiadau cynnydd ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd.

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y canlynol:

 

Trefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a'r adolygiad ar y cyd rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sydd i'w gynnal yn ystod tymor y gwanwyn 2017. Cytunwyd i ailystyried a hoffent archwilio'r fframwaith ar y trefniadau dwysáu ac ymyrraeth wedi i'r adroddiad dan sylw ddod i law.

 

Gofal heb ei drefnu

Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a chytunwyd mai'r ffordd orau o symud y mater hwn yn ei flaen fyddai drwy'r ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

 

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG:

Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a nodwyd y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn edrych ar sut y mae pob bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â hawliadau ar ôl iddo ddychwelyd o Bowys lle'r oedd yn cynnal adolygiad blynyddol o fyrddau iechyd.

 

Adolygiad o effaith practis preifat ar ddarpariaeth y GIG;

Nododd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf, a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran rhoi'r argymhellion a dderbyniwyd o adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar waith, a gofyn hefyd i gael gwybod beth yw dyddiad cyhoeddi'r Cylchlythyr Iechyd Cymru diwygiedig a chanllawiau i gleifion sy'n trosglwyddo o bractis preifat i restrau aros y GIG.

 

Gwasanaethau Orthopedig

Cytunodd yr Aelodau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru o ran rhoi argymhellion Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar amseroedd aros y GIG mewn Gofal Dewisol yng Nghymru (a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015) ar waith, a byddant yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf ynghyd â'r diweddariadau o ran y gwasanaethau orthopedig.