Cyfarfodydd
Dyddiadau toriadau - Y Bumed Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor y papur
Cododd
Darren Millar y ffaith bod gwyliau ysgolion yn aml yn wahanol ar draws
Awdurdodau Lleol a bod rhai ysgolion wedi trefnu gwyliau hanner tymor o 2
wythnos ym mis Hydref i wneud iawn am agor yn ystod wythnos ychwanegol ym mis
Gorffennaf. Gofynnodd i'r Pwyllgor Busnes ystyried ymhellach yr oblygiadau
amserlennu toriad pythefnos ym mis Hydref oherwydd materion gofal plant i'r
Aelodau, yn enwedig o gofio ein bod wedi lleihau toriad y Pasg eleni. Bydd
yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno nodyn ynghylch pa Awdurdodau Lleol sydd wedi
trefnu toriad o bythefnos ym mis Hydref ac yn egluro unrhyw effaith ar
ddeddfwriaeth pe bai'r toriad yn cael ei ymestyn.
Cyfarfod: 02/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y
gwanwyn a thoriad y Pasg 2020, a chytunwyd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer
hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf 2020.
Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Dyddiadau toriadau'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Cytunodd
Rheolwyr Busnes ar y dyddiadau arfaethedig.