Cyfarfodydd

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 21/06/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymateb gan Gynghrair Ffoaduriaid Cymru i Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, Cenedl Noddfa – Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Gynghrair Ffoaduriaid Cymru i Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, Cenedl Noddfa – Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches.

 


Cyfarfod: 21/09/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.7.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd ynghylch Gweithredu Deddf Cymru 2017.

 


Cyfarfod: 21/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

NDM6334 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin 2017.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

NDM6334 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 15/06/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Paratoi ar gyfer dadl ar yr adroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y gwaith paratoi ar gyfer dadl ar yr adroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 06/04/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gwybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 


Cyfarfod: 29/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau. 

 


Cyfarfod: 29/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Adroddiad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol: Adroddiad Naratif bob chwe mis ar Wasanaethau Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol: Adroddiad Naratif bob chwe mis ar Wasanaethau Plant.

 


Cyfarfod: 29/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gwybodaeth Ychwanegol gan Bartneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Bartneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 09/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 09/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 


Cyfarfod: 01/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ymwneud â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 


Cyfarfod: 01/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gyngor Ffoaduriaid yr Alban ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gyngor Ffoaduriaid yr Alban mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches. 

 


Cyfarfod: 01/03/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 16/02/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Gwybodaeth ychwanegol am Clearsprings Ready Homes Ltd mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.2. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol am Clearsprings Ready Homes Ltd mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 


Cyfarfod: 08/02/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches - Trafod y prif faterion

 

 

 

                                       

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sydd i'w cynnwys yn ei adroddiad.

 

 


Cyfarfod: 08/02/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 


Cyfarfod: 02/02/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 


Cyfarfod: 02/02/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo mewn cysylltiad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 


Cyfarfod: 19/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is Adran Cydraddoldeb a fyniant

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is Adran Galluogi Pobl

John Davies, Uwch Rheolwr Cynhwysiant yr Is Adran Cydraddoldeb a Ffyniant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cydraddoldeb a Ffyniant

·         Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Galluogi Pobl

·         John Davies, Uwch Rheolwr Cynhwysiant yr Is-adran Cydraddoldeb a Ffyniant

 

2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu:

·         Manylion cyswllt Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, yn dilyn yr arolwg a gynhaliwyd mewn perthynas ag integreiddio a chydlyniant cymunedol a'r sesiwn adborth ddilynol a gynhaliwyd gyda'r Ysgrifennydd Cabinet;

·         Gwybodaeth ynghylch canlyniadau'r pum rhaglen gyfathrebu sy'n cael eu cynnal gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, neu unrhyw sefydliadau perthnasol eraill sy'n cael cyllid ar gyfer eu rhaglenni gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 19/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod y dystiolaeth o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 


Cyfarfod: 19/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin ar y rhaglen adsefydlu pobl o Syria sy’n agored i niwed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.5.1. Nododd y Pwyllgor adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin ar y rhaglen adsefydlu pobl o Syria sy’n agored i niwed.

 


Cyfarfod: 19/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4.1. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 19/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gwladol dros Fewnfudo ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 

 


Cyfarfod: 19/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Clearsprings ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at Clearsprings ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 


Cyfarfod: 19/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan City of Sanctuary UK and Ireland a Chadeirydd Cyfiawnder Lloches ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1. Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan City of Sanctuary UK and Ireland a Chadeirydd Cyfiawnder Lloches ynghylch yr ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3 a 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth o dan eitemau 2,3 a 4

 


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 7

Dr Mike Chick, Prifysgol De Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Dr Mike Chick, Prifysgol De Cymru

 


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Oxfam ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Oxfam mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 9

Canon Aled Edwards, Alltudion ar Waith

Faruk Ogut, Cydgysylltydd y Prosiect Ailsefydlu, Alltudion ar Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Canon Aled Edwards, Alltudion ar Waith

·         Faruk Ogut, Cydgysylltydd y Prosiect Adleoli, Resettlement Project Co-ordinator, Alltudion ar Waith

 

4.2 Cytunodd Alltudion ar Waith i ddarparu:

·         Gwybodaeth am brosiect mentora sy’n cael ei redeg gan Sova sy’n rhoi cyfle i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches ddweud eu hanes mewn amgylchedd diogel;

·         Gwybodaeth am drafodaethau Partneriaeth Mudo Strategol Cymru yn ymwneud â thrin ffoaduriaid fel pobl eraill sydd mewn perygl o fod yn ddigartref a’u gorfodi i symud ymlaen ar ôl 56 o ddiwrnodau.

 


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Weinidog Mewnfudo Llywodraeth y DU ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.5 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog Mewnfudo Llywodraeth y DU mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Bartneriaeth Mudo Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.7 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Gymdeithas Seicolegol Prydain mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

 


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref ynghylch ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.4 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cadeirydd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches.


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 8

Alicja Zalesinska, Cyfarwyddwr, Tai Pawb

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Alicja Zalesinska, Cyfarwyddwr Tai Pawb

 

3.2 Cytunodd Tai Pawb i ddarparu:

·         Manylion am effaith archwiliadau Hawl i Rentu ar y rhai y gwrthodwyd rhoi lloches iddynt ac nad yw arian cyhoeddus ar gael iddynt;

·         Gwybodaeth am y rhesymau dros y nifer gynyddol o geiswyr lloches sy’n cael eu troi allan o’u llety yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi i’w cais am statws ffoaduriaid gael ei wrthod. 

 


Cyfarfod: 15/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: Nodyn ar yr ymweliad â Chyngor Ffoaduriaid yr Alban

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a. Nododd y Pwyllgor y nodyn am yr ymweliad â Chyngor Ffoaduriaid yr Alban.

 


Cyfarfod: 15/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 6

Yr Athro Bill Yule, Cymdeithas Seicolegol Prydain

Dr Gill Richardson, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Roisin O’Hare, Nyrs Ceiswyr Lloches, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Yr Athro Bill Yule, Cymdeithas Seicolegol Prydain

·         Dr Gill Richardson, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

·         Roisin O'Hare, Nyrs Ceiswyr Lloches, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

4.2 Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddarparu gwybodaeth am yr asesiadau iechyd a gynhaliwyd nyrsys plant sy'n derbyn gofal ar ffoaduriaid ifanc sydd eu pen eu hunain.

 


Cyfarfod: 15/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod y dystiolaeth o dan eitemau 2, 3 a 4

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 


Cyfarfod: 15/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 4

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Anne Hubbard, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·         Anne Hubbard, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru

 

2.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu:

·         gwybodaeth am gynlluniau'r Swyddfa Gartref ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches y gall awdurdodau lleol yng Nghymru gymryd rhan ynddynt, y tu allan i'r Cynllun Adsefydlu Ffoaduriaid Syria;

·         enghreifftiau gan gydgysylltwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol o bobl leol yn y gymuned yn cefnogi ffoaduriaid, fel "cyfeillio" a darparu cymorth ieithyddol.

 

2.3 Cytunodd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru i ddarparu copi o'r ymchwil a wnaed yn ddiweddar gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (UNHCR) ar ffoaduriaid yng Nghymru sydd ar y cyfan wedi cael profiadau cadarnhaol o gael eu hadleoli yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 15/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 5

Catriona Williams OBE, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru

Cheryl Martin, Swyddog Datblygu, Tlodi Plant, Plant yng Nghymru

Rocio Cifuentes, Cyfarwyddwr, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig

Shehla Khan, Rheolwr, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Catriona Williams OBE, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru

·         Cheryl Martin, Swyddog Datblygu, Tlodi Plant, Plant yng Nghymru

·         Rocio Cifuentes, Cyfarwyddwr, Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig

·         Shehla Khan, Rheolwr, Tîm Cefnogi Ieuenctid Ethnig

 


Cyfarfod: 07/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 1

Sian Summers-Rees, Prif Swyddog, Dinas Noddfa y DU ac Iwerddon a Chadeirydd Asylum Justice

Yr Athro Helen Stalford, Prifysgol Lerpwl

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Siân Summers-Rees, Prif Swyddog, Dinas Noddfa y DU ac Iwerddon a Chadeirydd Asylum Justice

 

2.2 Cytunodd Siân Summers-Rees i ddarparu enghreifftiau o dystiolaeth ynghylch ansawdd llety Lynx House.

 


Cyfarfod: 07/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: nodyn ar yr ymweliad ag Oasis a Chanolfan y Drindod yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7.a. Nododd y Pwyllgor y nodyn ar yr ymweliad ag Oasis a Chanolfan y Drindod yng Nghaerdydd.

 


Cyfarfod: 07/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: nodyn ar yr ymweliad â Chanolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6.a. Nododd y Pwyllgor y nodyn ar yr ymweliad â Chanolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe.

 


Cyfarfod: 07/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 3

Cynrychiolydd Prosiect ‘Lloches yng Nghymru’ Oxfam Cymru

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd prosiect ‘Lloches yng Nghymru’ Oxfam Cymru.

 


Cyfarfod: 07/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: ystyried y dystiolaeth o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 


Cyfarfod: 07/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru: sesiwn dystiolaeth 2

Hayley Richards, Swyddog Polisi ac Eiriolaeth, Oxfam

Galiya Idrisova

 

Neil McKittrick, Rheolwr Cymorth Gweithrediadau Ffoaduriaid, Y Groes Goch Brydeinig

Elinor Harris, Rheolwr Gwasanaethau ar gyfer Olrhain Teulu a Chymorth i Ffoaduriaid, Y Groes Goch Brydeinig.

 

Tracey Sherlock, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Salah Rasool, Gweithiwr Achos Cynghori, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Hayley Richards, Swyddog Polisi ac Eirioli, Oxfam

·         Neil McKittrick, Rheolwr Cymorth Gweithrediadau Ffoaduriaid, Y Groes Goch Brydeinig

·         Elinor Harris, Rheolwr Gwasanaethau ar gyfer Olrhain Teulu a Chymorth i Ffoaduriaid, Y Groes Goch Brydeinig

·         Tracey Sherlock, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

·         Salah Rasool, Gweithiwr Achos Cynghori, Cyngor Ffoaduriaid Cymru

 

3.2 Cytunodd Hayley Richards, Oxfam, i ddarparu:

·         gwybodaeth gan gydweithwyr yn Oxfam y DU mewn perthynas â heriau cyfreithiol sy'n wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches o ran tlodi;

·         gwybodaeth ynghylch yr arbedion gwariant cyhoeddus a wnaed gan Lywodraeth yr Alban yn sgil gweithredu'r model gwarcheidiaeth ar gyfer pobl ifanc sydd ar eu pen eu hunain.

 

3.3.      Cytunodd Neil McKittrick, Y Groes Goch Brydeinig, i ddarparu gwybodaeth ynghylch yr arbedion gwariant cyhoeddus a wnaed gan Lywodraeth Gogledd Iwerddon yn sgil gweithredu'r model gwarcheidiaeth.

 


Cyfarfod: 01/12/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 1.)

Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru – ymweliad anffurfiol â Glasgow a Chaeredin

Bydd y Pwyllgor yn cynnal ymweliad anffurfiol â Glasgow a Chaeredin i gasglu gwybodaeth am ei ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.


Cyfarfod: 19/10/2016 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - Ystyried dull yr ymchwiliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei ddull cychwynnol i'r ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru a chytunodd ar y dull hwnnw.