Cyfarfodydd
Gwasanaethau Orthopedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/01/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
5 Gwasanaethau Orthopedig: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil
PAC(5)-03-17
Papur 3 – Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
Dr Andrew
Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Weithredwr GIG Cymru
Simon Dean - Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru
Frank Atherton - Prif Swyddog Meddygol
Andrew Carruthers - Cyfarwyddwr Cyflawni Rhaglen
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.1 Craffodd y Pwyllgor ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol a
Phrif Weithredwr y GIG; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; Dr Frank
Atherton, Prif Swyddog Meddygol; ac Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Rhaglen
Welliannau Llywodraeth Cymru ynghylch gwasanaethau
orthopedig.
Cyfarfod: 09/01/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 Gwasanaethau Orthopedig: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil
PAC(5)-01-17 Papur 2 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru
PAC(5)-01-17 Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd
Cyffredinol Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
- PAC(5)-01-17 P2 - Adroddiad ACC ar wasanaethau orthopedig, Eitem 4 PDF 2 MB
- PAC(5)-01-17 P3 - Ymateb LlC ar wasanaethau orthopedig (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 408 KB
Cofnodion:
4.1
Trafododd yr Aelodau wybodaeth ddiweddaraf Llywodraeth Cymru am fwrw ymlaen â'r
argymhellion a geir yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ym
mis Mehefin 2015, a nodwyd fod Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG, yn
mynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 23 Ionawr er mwyn archwilio'r wybodaeth
ddiweddaraf ymhellach.
4.2
Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Dr Goodall cyn y cyfarfod yn rhoi gwybod
iddo am feysydd y mae'r Aelodau wedi mynegi diddordeb yn eu trafod gydag
ef.