Cyfarfodydd

Rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Pumed Cynulliad - Symud Cymru Ymlaen 2016-2021

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a Rhaglen Ddeddfwriaethol

NDM7265 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) addroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019;

b) y rhaglen ddeddfwriaethol.

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro i ba raddau y mae'r addewidion ym maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinydd Llafur Cymru bellach yn rhan swyddogol o strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, Ffyniant i Bawb.

Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol

Maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinydd Llafur Cymru - copïau ar gael yn Llyfrgell yr Aelodau.

Gwelliant 2 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am restr glir a syml o ddangosyddion y gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu herbyn.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.24

NDM7265 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019;

b) y rhaglen ddeddfwriaethol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro i ba raddau y mae'r addewidion ym maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinydd Llafur Cymru bellach yn rhan swyddogol o strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, Ffyniant i Bawb.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 2 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am restr glir a syml o ddangosyddion y gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu herbyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

1

28

47

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7265 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

1. Yn nodi:

a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019;

b) y rhaglen ddeddfwriaethol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro i ba raddau y mae'r addewidion ym maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinydd Llafur Cymru bellach yn rhan swyddogol o strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, Ffyniant i Bawb.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

10

47

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.


Cyfarfod: 05/04/2019 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer gweddill y Pumed Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar flaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer gweddill y Pumed Cynulliad.

 


Cyfarfod: 18/11/2016 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer y Pumed Cynulliad - Symud Cymru Ymlaen 2016-2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.1 Bu'r Pwyllgor yn holi'r Prif Weinidog ynghylch rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.

 

2.1.2 Gwnaeth y Prif Weinidog rannu â'r Pwyllgor lythyr dyddiedig 14 Gorffennaf 2016 a oedd yn ymdrin ag aelodaeth y Grŵp Diwygio Deddfwriaethol.

 

 


Cyfarfod: 18/11/2016 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

Jo Salway - Pennaeth Is-Adran y Cabinet

Will Whiteley - Pennaeth Uned y Rhaglen Ddeddfwriaethol a Llywodraethiant