Cyfarfodydd

Materion amserol a phynciau o bwysigrwydd lleol - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/02/2020 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 

Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu gwybodaeth bellach am yr oedi wrth roi pasys bws newydd i bobl hŷn yng Nghymru

 


Cyfarfod: 25/10/2019 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 

Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu’r canlynol:

·         nodyn ar y trafodaethau y mae ei swyddogion yn eu cael gyda Vertex Pharmaceuticals ar argaeledd y cyffur ffibrosis systig Orkambi yng Nghymru; a

·         chadarnhad a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o effaith ansicrwydd mewn perthynas â buddsoddiad gan Gronfa Bensiwn Byddin Twrci ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 12/07/2019 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC - Prif Weinidog Cymru

 

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 


Cyfarfod: 05/04/2019 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru - Ymateb i Ddyfarniad yr Uchel Lys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.   Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau posibl, gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer eitem 2.1.

 

2.   Enwebwyd David Rees gan Mick Antoniw a chafodd ei ethol yn Gadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

3.   Esgusododd Ann Jones, AC, ei hun o'r cyfarfod ar gyfer eitem 2.1.

 

4.   Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Prif Weinidog am ei Ddatganiad Ysgrifenedig.

 

 

 


Cyfarfod: 05/04/2019 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Materion Amserol

Cofnodion:

Gan fod nifer o faterion amserol wedi codi mewn busnes cynharach, ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau o dan yr eitem hon.

 


Cyfarfod: 16/11/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

Jo Salway - Pennaeth Swyddfa’r Cabinet

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 

Cytunodd y Prif Weinidog i ysgrifennu at y Swyddfa Gartref yn gofyn iddynt ailystyried ceisiadau fisa i'r actorion ifanc sydd am deithio i Gymru o India i ffilmio Jungle Cry.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Weinidog a Jo Salway am ddod i'r cyfarfod.  Diolchodd hefyd i'r Prif Weinidog am ei ymgysylltu â'r Pwyllgor ac am gefnogi polisi'r Pwyllgor o gynnal cyfarfodydd y tu allan i Gaerdydd.

 


Cyfarfod: 06/07/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

 

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 


Cyfarfod: 16/02/2018 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Materion Amserol

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru

 

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 


Cyfarfod: 27/10/2017 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Cofnodion:

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 


Cyfarfod: 14/07/2017 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

 


Cyfarfod: 17/02/2017 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu ar y Gweinidog – Materion Amserol a Phynciau o Bwysigrwydd Lleol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i’r Prif Weinidog am bynciau amserol a materion allweddol o bwysigrwydd lleol.

 


Cyfarfod: 18/11/2016 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

Trafodaeth ar Faterion Cyfoes

Cofnodion:

2.2.1 Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch materion cyfoes.

 

2.2.2 Cytunodd y Prif Weinidog i roi nodyn ynghylch y sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas â thollau Pont Hafren, yn benodol ynglŷn â'r union adeg y bydd y bont yn cael ei throsglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus.