Cyfarfodydd
Cyflog Uwch Reolwyr
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 Cyflogau Uwch-reolwyr: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (8 Tachwedd 2017)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 25/09/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 10)
10 Cyflogau Uwch-reolwyr: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(5)-23-17 Papur 9 – Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd
Parhaol, Llywodraeth Cymru (17 Awst
2017)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
10.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar gyflog uwch
reolwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru 2015-16.
10.2 Gofynnodd yr aelodau i'r Cadeirydd ysgrifennu i Lywodraeth Cymru yn
diolch iddynt am yr adroddiad ac yn gofyn bod adroddiadau blynyddol yn y
dyfodol yn cynnwys manylion am sefydliadau addysg bellach a landlordiaid
cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.
Cyfarfod: 13/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 Cyflogau Uwch-reolwyr: Adroddiad Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 28/11/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 Cyflogau Uwch-reolwyr: y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
PAC(5)-11-16 Papur 1
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Nododd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Lywodraeth Cymru
a chytunwyd eu bod yn fodlon â'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar y materion, ac
na ofynnir am ddiweddariadau pellach. Fodd bynnag, gwnaeth yr Aelodau gais bod
y Pwyllgor yn derbyn copi o Adroddiad y Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus
ar Dryloywder Tâl uwch aelodau staff, pan gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach
eleni