Cyfarfodydd
Tasglu Digidol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 04/12/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Argymhellion y Tasglu Digidol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cyfarfod: 06/11/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Ymateb i argymhellion y Tasglu Digidol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cyfarfod: 23/10/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Argymhellion y Tasglu Digidol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Cyflwynodd Non Gwilym yr ymateb drafft i
argymhellion y Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol, a baratowyd mewn
ymgynghoriad ag Anna a James er mwyn sicrhau ei fod yn asio'n strategol.
Byddai'r ymateb yn cael ei gyflwyno i'r Comisiynwyr yn eu cyfarfod ar 6
Tachwedd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hyd yn hyn, ac er mwyn
iddynt allu ystyried yr adnoddau a'r goblygiadau ariannol o gyflawni'r
argymhellion a nodi'r prif flaenoriaethau.
Nododd y Bwrdd fod gwaith eisoes ar y gweill mewn
perthynas â'r rhan fwyaf o'r argymhellion, a chyfeiriodd at newidiadau i'r
papur i wella eglurder ynghylch faint o waith a gyflawnwyd eisoes a'r adnoddau
sydd eu hangen i gyflawni'r uchelgeisiau, a'r costau.
Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Argymhellion y Tasglu Digidol - ein hymateb
Papur I ddilyn
Cofnodion:
Rhoddwyd cyflwyniad i'r Comisiynwyr ar 17 Gorffennaf i adolygu argymhellion
y Tasglu Digidol. Mae gwaith pellach yn cael ei wneud yn awr i ystyried y gost
a'r adnoddau angenrheidiol i weithredu argymhellion unigol. Byddai gwybodaeth
fanylach ar agweddau ymarferol a goblygiadau adnoddau yn cael eu cyflwyno i'r
Comisiynwyr yn yr hydref er mwyn galluogi iddynt ymateb.
CAM I’W GYMRYD: Non Gwilym i ddosbarthu'r gwaith
hwnnw maes o law er mwyn cael sylwadau.
Cyfarfod: 17/07/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Argymhellion y Tasglu Digidol
Eitem lafar
Cofnodion:
Cyflwynwyd
argymhellion y Tasglu Gwasanaethau Newyddion Digidol i'r Comisiynwyr. Croesawyd
yr adroddiad a thrafodwyd sawl agwedd, gan gynnwys yr angen i ymateb yn fwy
manwl i argymhellion unigol.
Trafodwyd
y posibilrwydd o newid deinameg o ran cynnwys diddorol, a'r berthynas rhwng y
Cynulliad fel sefydliad a'i gyfansoddiad gwleidyddol.
Gofynnodd
y Comisiynwyr am i waith pellach gael ei wneud fel y gallent ddychwelyd at y
materion a nodwyd yn y cyfarfod yn nhymor yr hydref.
Cyfarfod: 22/06/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)
Argymhellion y Tasglu Digidol
Eitem Lafar
Cofnodion:
Rhoddodd Non Gwilym amlinelliad o'r
adroddiad a lansiwyd ar 21 Mehefin gan y Tasglu Digidol, a oedd yn cynnwys
nifer o argymhellion ynghylch sut y cyflwynodd y Cynulliad gymaint o'r
wybodaeth a'r cynnwys a gynhyrchwyd i'n cynulleidfaoedd. Roedd y pwyslais yn adlewyrchu'r ffordd y mae
pobl bellach yn cymryd eu newyddion a’u gwybodaeth mewn gwahanol ffyrdd ac i
raddau helaeth ar lwyfannau digidol.
Diolchodd Non i'r sawl a gyfrannodd
at yr adroddiad. Ynhyd â'i thîm, roeddent yn ystyried sut y cafodd y wybodaeth
ei chrynhoi'n effeithiol i adlewyrchu anghenion cynulleidfaoedd y Cynulliad a
sut i gynllunio a gweithredu'r argymhellion. Byddai grid cyfathrebu yn cael ei
ddefnyddio yn holl gyfarfodydd y Bwrdd Rheoli yn y dyfodol.
Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad y Tasglu Digidol
Eitem
lafar
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad drwy grynodeb byr o rôl a gwaith y
Tasglu. Trafodwyd rhai o’r argymhellion a ragwelir yn yr adroddiad sydd i’w
gyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn, a chytunwyd i ystyried eu hymateb yn y
cyfarfod ar 17 Gorffennaf.
Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Tasglu digidol
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Llywydd fod y Tasglu wedi dechrau ar ei waith, a'i bod wedi mynychu'r
cyfarfod cyntaf.