Cyfarfodydd
NDM6144 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6144
Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd)
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Vikki Howells (Cwm
Cynon)
Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Dai Lloyd (Gorllewin
De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) bod lefelau gordewdra yng Nghymru yn parhau i godi ac mae
gordewdra yn fwy cyffredin ymysg cymunedau tlawd;
b) bod newid arferion
bwyta pobl yn gymhleth ac yn golygu cyfuniad o sicrhau bod bwyd da ar gael ac
yn fforddiadwy a sgiliau coginio;
c) nad yw Deddf Teithio
Llesol (Cymru) 2013 wedi cael effaith sylweddol hyd yma ar faint o ymarfer
corff y mae pobl yn ei wneud;
d) mai dim ond drwy
ddegawdau o addysg a chamau gweithredu caled y llywodraeth y mae cyfraddau
ysmygu wedi disgyn, a bod hyn wedi digwydd yn erbyn ymdrechion y diwydiant
tybaco i wadu'r wyddoniaeth a rhwystro camau gweithredu'r llywodraeth; ac
e) bod angen cyfuniad o
addysg, deddfwriaeth a chaffael cyhoeddus i fynd i'r afael â phroblem gynyddol
yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
15.27
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6144
Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd)
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Angela Burns (Gorllewin
Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi:
a)
bod lefelau gordewdra yng Nghymru yn parhau i godi ac mae
gordewdra yn fwy cyffredin ymysg cymunedau tlawd;
b)
bod newid arferion bwyta pobl yn gymhleth ac yn golygu cyfuniad o sicrhau bod
bwyd da ar gael ac yn fforddiadwy a sgiliau coginio;
c)
nad yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi cael effaith sylweddol hyd yma ar
faint o ymarfer corff y mae pobl yn ei wneud;
d)
mai dim ond drwy ddegawdau o addysg a chamau gweithredu caled y llywodraeth y
mae cyfraddau ysmygu wedi disgyn, a bod hyn wedi digwydd yn erbyn ymdrechion y
diwydiant tybaco i wadu'r wyddoniaeth a rhwystro camau gweithredu'r
llywodraeth; ac
e)
bod angen cyfuniad o addysg, deddfwriaeth a chaffael cyhoeddus i fynd i'r afael
â phroblem gynyddol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.