Cyfarfodydd
NDM6181 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6181
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Gareth
Bennett (Canol De Cymru):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynigion gan
Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau gosod i denantiaid yn
Lloegr.
2. Yn gresynu bod
tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
(a) cymryd camau i
ystyried effaith dileu'r ffioedd hyn, sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban;
(b) cyflwyno
deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wahardd ffioedd rhentwyr, gan sicrhau na
ellir codi'r costau hyn, wedyn, ar:
(i) tenantiaid, drwy
godi rhenti artiffisial uwch; a
(ii) landlordiaid
preifat, gan nodi eu bod yn rhan werthfawr o'r broses o helpu rhentwyr ar yr
ysgol eiddo.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â manteisio
ar y cyfle yn y Cynulliad blaenorol i wahardd ffioedd gormodol gan asiantau
gosod.
Gwelliant 2. Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu lle:
(a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes hwn
weithio yng ngoleuni
tystiolaeth ar effaith dileu'r ffioedd hyn yn yr Alban a'r ymatebion i'r
ymgynghoriad yn Lloegr.
(b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad, a
rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru.
Gwelliant 3. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â thaliadau gwasanaeth
gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn taliadau gwasanaeth, a
gaiff eu gosod ar lesddeiliaid.
Gwelliant 4. Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, os yw Llywodraeth Cymru wedi llunio cyngor
cyfreithiol yn awgrymu y byddai Bil ar wahardd ffioedd gormodol asiantau y tu
allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, y dylai'r cyngor hwn gael ei
gyhoeddi.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6181
Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru):
Gareth Bennett (Canol De
Cymru):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi cynigion gan Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau
gosod i denantiaid yn Lloegr.
2.
Yn gresynu bod tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a)
cymryd camau i ystyried effaith dileu'r ffioedd hyn, sydd eisoes wedi digwydd
yn yr Alban;
(b)
cyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wahardd ffioedd rhentwyr, gan
sicrhau na ellir codi'r costau hyn, wedyn, ar:
(i)
tenantiaid, drwy godi rhenti artiffisial uwch; a
(ii)
landlordiaid preifat, gan nodi eu bod yn rhan werthfawr o'r broses o helpu
rhentwyr ar yr ysgol eiddo.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
11 |
31 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â
manteisio ar y cyfle yn y Cynulliad blaenorol i wahardd ffioedd gormodol gan
asiantau gosod.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn
eu lle:
(a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes
hwn weithio yng ngoleuni
tystiolaeth ar effaith dileu'r ffioedd hyn yn yr Alban a'r ymatebion i'r
ymgynghoriad yn Lloegr.
(b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad,
a rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
6 |
6 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â
thaliadau gwasanaeth gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn
taliadau gwasanaeth, a gaiff eu gosod ar lesddeiliaid.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn):
Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu, os yw Llywodraeth Cymru wedi llunio cyngor cyfreithiol yn awgrymu y
byddai Bil ar wahardd ffioedd gormodol asiantau y tu allan i gymhwysedd
deddfwriaethol y Cynulliad, y dylai'r cyngor hwn gael ei gyhoeddi.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
11 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6181
Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru):
Gareth Bennett (Canol De
Cymru):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi cynigion gan Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau
gosod i denantiaid yn Lloegr.
2.
Yn gresynu bod tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes
hwn weithio yng ngoleuni
tystiolaeth ar effaith dileu'r ffioedd hyn yn yr Alban a'r ymatebion i'r
ymgynghoriad yn Lloegr.
(b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad,
a rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru.
(c) ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â
thaliadau gwasanaeth gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn
taliadau gwasanaeth, a gaiff eu gosod ar lesddeiliaid.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.