Cyfarfodydd
Diwygio Cyfansoddiadol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diweddariad ar Sesiynau Pwyllgor
Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad
llafar byr i’r Comisiynwyr ar sesiynau cychwynnol y Pwyllgor yn ymwneud â Bil
Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a
chawsant wybod bod disgwyl y Bil yn ymwneud â chwotâu rhyw ym mis Rhagfyr.
Cyfarfod: 25/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Llythyr oddi wrth y Prif Weinidog at y Llywydd ynglŷn â: Costau Diwygio'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
llythyr a gafwyd oddi wrth y Prif Weinidog yn ymwneud ag amcangyfrifon costau
ar gyfer Diwygio’r Senedd.
Cyfarfod: 25/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diwygio'r Senedd (diweddariad ar lafar)
Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad
llafar i’r Comisiynwyr yn dilyn cyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac
Etholiadau). Fe'u hysbyswyd bod darpariaethau'r Bil wedi bod yn unol â'r
disgwyl i raddau helaeth, yn cyd-fynd yn fras ag argymhellion y Pwyllgor Diben
Arbennig a/neu'r Pwyllgor Busnes, er bod rhai darpariaethau wedi'u cynnwys nad
oedd Swyddogion wedi bod yn ymwybodol ohonynt o'r blaen (e.e. dyletswydd a
osodwyd. ar y Llywydd mewn perthynas ag adolygiad o rannu swyddi ar ddechrau’r
Seithfed Senedd).
Roedd y
darpariaethau’n cynnwys cynyddu maint y Senedd i 96 Aelod; cynyddu’r terfyn
deddfwriaethol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru; cynyddu uchafswm nifer y
Dirprwy Lywyddion y caniateir eu hethol o’r tu mewn i’r Senedd i ddau; newid
system etholiadol y Senedd fel bod pob Aelod yn cael ei ethol drwy system
rhestr gyfrannol gaeedig, gyda phleidleisiau'n cael eu trosi'n seddi drwy
fformiwla D'Hondt; ac ailbwrpasu ac ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth
Leol Cymru, gan gynnwys rhoi iddo'r swyddogaethau angenrheidiol i sefydlu
etholaethau newydd yn y Senedd, ac i gynnal adolygiadau parhaus o ffiniau
etholaethau'r Senedd.
Hysbyswyd y
Comisiynwyr bod darpariaethau ychwanegol yn cynnwys y canlynol:
·
Dychwelyd i’r amser
arferol rhwng etholiadau cyffredinol arferol y Senedd, sef pedair blynedd;
·
ei gwneud yn ofynnol i
ymgeiswyr i’r Senedd ac Aelodau o’r Senedd fod yn preswylio yng Nghymru;
·
adolygiad o
weithrediad ac effaith y darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn
etholiadau 2026 a 2030; a
·
mecanwaith ar gyfer
ystyriaeth y Senedd o rannu swyddi sy'n ymwneud â'r Senedd, yn y Seithfed
Senedd.
O fewn yr amserlen ar
gyfer ystyried y Bil byddai'r Comisiwn yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid
ar 11 Hydref ac i Bwyllgor y Bil Diwygio ar 26 Hydref.
Cyfarfod: 27/03/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Diwygio’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
- Cyfyngedig 11
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Fe wnaeth y
comisiynwyr ystyried gwybodaeth a baratowyd mewn ymateb i lythyr gan y Prif
Weinidog a oedd yn gofyn i Gomisiwn y Senedd ddarparu amcangyfrif gorau o'r
gost fyddai'n codi ar gyfer Comisiwn y Senedd o Fil Diwygio'r Senedd
Llywodraeth Cymru.
Roedd y Comisiwn wedi
cytuno y dylai sefyllafa – y newid lleiaf a newid mwyaf – fod yn sail i
amcangyfrif y Comisiwn o'r costau y byddai'n eu hysgwyddo o ganlyniad i'r Bil.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar lythyr, ac atodiadau, i’w hanfon at y Prif Weinidog i ddarparu’r canlynol:
· Esboniad o'r sail ar gyfer amcangyfrif o gostau; a hefyd
· tablau sy'n cyflwyno proffil o 10 mlynedd o'r costau, yn
ôl y ddwy senario a gytunwyd gan Gomisiwn y Senedd yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr
2022, ac a baratowyd yn unol â'r dull safonol o ymdrin â chost amcangyfrifon
fel rhan o broses ddeddfwriaethol.
Atgoffwyd y
Comisiynwyr y byddai amcangyfrifon o gostau yn rhan o’r wybodaeth esboniadol i
gyd-fynd ag unrhyw Fil a gyflwynir – ac a gyhoeddir – gan Lywodraeth Cymru. Yr
amser priodol ar gyfer trafodaeth gyhoeddus ar y costau a nodwyd fyddai fel
rhan o'r broses graffu seneddol.
Gofynnodd un Comisiynydd
iddo gael ei gofnodi nad oedd yn gefnogol mewn egwyddor i gynigion Diwygio’r
Senedd, a’u costau cysylltiedig, er bod y Comisiynydd yn cydnabod bod pleidlais
wedi’i chynnal yn y Senedd o blaid y gwaith sy’n cael ei wneud gan y
Llywodraeth.
Diolchodd y
Comisiynwyr am y gwaith manwl a’r broses helaeth a oedd wedi dwyn y wybodaeth y
gofynnodd y Llywodraeth amdani ynghyd, a gofyn cwestiynau am y berthynas rhwng
yr amcangyfrifon a gynhyrchwyd a phenderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol.
Cyfarfod: 07/11/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Diwygio'r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr wahoddiad gan y Pwyllgor Busnes i
rannu safbwyntiau ar argymhellion penodol y Pwyllgor Diben Arbennig ar
Ddiwygio’r Senedd, yn enwedig mewn perthynas ag Argymhelliad 6 ar nifer y
Comisiynwyr.
Cytunodd y Comisiynwyr i ysgrifennu at y Pwyllgor i
fynegi’r farn nad oedd achos amlwg a chryf dros symud o’r sefyllfa bresennol, oherwydd ni ragwelir y bydd diwygio’r Senedd
yn newid swyddogaethau statudol Comisiwn y Senedd fel ag y maent ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, wrth i waith y
Senedd barhau i ddatblygu yn ystod y blynyddoedd i ddod, nodwyd y gallai themâu
ddod i'r amlwg y byddai’n rhaid i'r Comisiwn roi sylw iddynt, ac efallai y
byddai angen ailystyried capasiti’r Comisiwn bryd hynny.
Pe bai sefyllfa
o’r fath yn codi, nid oedd y Comisiynwyr yn rhagweld y byddai angen mwy nag un
aelod ychwanegol, gan arwain at Gomisiwn o chwech, gan gynnwys y Llywydd.
Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diwygio’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth yn nodi goblygiadau lefel uchel i'r Comisiwn
mewn ymateb i gynigion i ddiwygio'r Senedd.
Mae'r rhain yn ymwneud â chyfrifoldebau'r Comisiwn i ddarparu eiddo, staff
a gwasanaethau ar gyfer y Senedd, a'r fframwaith llywodraethu lefel uchel y
byddai gwaith y Comisiwn yn digwydd ynddo i roi sicrwydd i'r Comisiwn.
Nododd y Comisiynwyr:
·
yr angen i ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth i
lywio'r broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys argymhelliad y Pwyllgor Diben
Arbennig mewn perthynas â’r nifer o Gomisiynwyr y Senedd;
·
y dull rhaglen arfaethedig i gefnogi penderfyniadau
effeithiol gan y tair ffrwd waith wahanol (Diwygio'r Comisiwn, Diwygio'r
Senedd, a Diwygio Penderfyniadau) a galluogi goruchwyliaeth effeithiol o
faterion trawsbynciol, megis materion yn y gyllideb sy’n ymwneud â diwygio'r
Senedd, ymgysylltu ag Aelodau a chyfathrebu â rhanddeiliaid;
·
sefydlu Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru i
roi sicrwydd i'n Swyddogion Cyfrifyddu perthnasol a'r rhai sy'n gwneud
penderfyniadau ar yr elfennau hynny o Raglen Ddiwygio'r Senedd lle mae
cyd-ddibyniaeth ar fuddiant a gwneud penderfyniadau yn bodoli;
y trefniadau risg a
sicrwydd a'r adborth gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
Cyfarfod: 28/09/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd – Adroddiad
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
yr adroddiad, sy'n cynnwys 32 o argymhellion ar gyfer Gweinidogion Cymru, y
Senedd, Comisiwn y Senedd, pleidiau gwleidyddol, y Bwrdd Taliadau a'r Comisiwn
Etholiadol.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Senedd
Y wybodaeth
ddiweddaraf, ar lafar
Cofnodion:
Diweddarwyd y
Comisiynwyr yn fras ynghylch rhoi newid enw’r Senedd ar waith, ac agor y broses
o gofrestru pleidleisiau i bobl ifanc.
Cyfarfod: 04/05/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i'r Comisiynwyr cyn dyddiad gweithredu’r newid enw.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diwygio’r Cynulliad - materion newid enw
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y
cynnydd hyd yma gyda’r gwaith o fwrw ymlaen â'r newid enw. Fe wnaethant drafod
cyfres o benderfyniadau sy'n angenrheidiol i weithredu’r newid enw yn
effeithiol erbyn 6 Mai 2020, pan ddaw'r darpariaethau i rym.
· Brandio dangosol i'w
ddefnyddio ar logo ac arwyddion ac ati;
· Confensiwn enwi
ysgrifenedig, y datganiad diwygiedig o ddiben, sôn am y tro cyntaf/yr ail dro o
fewn y testun;
· Termau’r Cynulliad -
cyfeiriadau hanesyddol ac yn y dyfodol;
· Y wefan, cyfeiriadau
e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol;
· Cyfeiriad a chod post;
· Diweddaru’r Cynllun
Ieithoedd Swyddogol;
· Nodi’r newid ffurfiol
o’r Cynulliad i’r Senedd;
· Sêl newydd y Comisiwn.
Cyfarfod: 27/01/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Diwygio’r Cynulliad - Diweddariad addysg a chodi ymwybyddiaeth Pleidleisiau @16
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y
cynlluniau i greu adnoddau addysgol ac adnoddau codi ymwybyddiaeth y gall
addysgwyr, gweithwyr ieuenctid, ac eraill sy’n gweithio â phobl ifanc eu
defnyddio. Aeth y Comisiynwyr ati i wirio bod yr adnoddau sy’n cael eu datblygu
yn addas ar gyfer y cwricwlwm newydd. Nododd y Comisiynwyr hefyd y diweddariad
a gafwyd yn dilyn cytundeb y Comisiwn ynghylch pennu dull cyffredinol a
chynulleidfaoedd allweddol ym mis Tachwedd.
Cyfarfod: 04/11/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diwygio'r Cynulliad: Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) – y wybodaeth ddiweddaraf
Eitem lafar
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sawl mater yn ymwneud â Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn dilyn trafodion Cyfnod 2 a chyn Cyfnod 3.
Trafodwyd y gwelliannau’n ymwneud â phryd y bydd pobl ifanc 16/17 oed yn cael
yr hawl i bleidleisio, a materion yn ymwneud ag anghymwyso’r rhai sydd â mandad
deuol, a hynny er mwyn creu mwy o eglurder yn unol argymhellion y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y Pedwerydd Cynulliad.
Trafododd y Comisiynwyr y broses welliannau, a’r ffaith bod y Bil yn awr yn
ymdrin â materion nad oedd y Comisiwn wedi’u cynnwys yn niwyg gwreiddiol y Bil,
a hynny oherwydd gwelliannau y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod 2.
Bydd y Llywydd yn adlewyrchu'r drafodaeth yn nadl Cyfnod 3.
Nododd y Comisiynwyr y
llythyr a anfonwyd gan y Llywydd at arweinwyr y pleidiau, y Rheolwyr Busnes, y
Comisiynwyr, a’r Aelodau a gyflwynodd welliannau.
Cyfarfod: 23/09/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diweddariad ar Ddiwygio’r Cynulliad
·
Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) – y
Comisiwn Etholiadol
·
Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) –
Materion nad ydynt yn ymwneud â’r Comisiwn Etholiadol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40
- Cyfyngedig 41
Cofnodion:
4A - Diweddariad ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) -
Y Comisiwn Etholiadol
Cafodd y Comisiynwyr
ddiweddariad ar gynigion sy’n ymwneud â’r gwelliannau arfaethedig mewn
perthynas ag ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd yn y Bil a
diweddariad i’r amserlen ddeddfwriaethol.
Gwnaethant drafod
model arfaethedig y Cwnsler Cyffredinol ar gyfer ariannu'r Comisiwn Etholiadol
a goblygiadau dulliau gweithredu gwahanol fel y nodwyd yn ei ohebiaeth â'r
Pwyllgor Cyllid. Gwnaethant nodi hefyd y byddai angen cydsyniad Gweinidog y
Goron yn Llywodraeth y DU ar y gwelliannau arfaethedig ac y byddai angen ei
gael ymhell o fewn yr amserlenni arferol er mwyn osgoi unrhyw oedi cyn cael
Cydsyniad Brenhinol i'r Bil.
Cytunodd y Comisiynwyr
mai eu ffafriaeth o hyd yw gweld y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu'n
uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru. Bydd y Llywydd yn trafod y mater ymhellach
â'r Comisiynwyr i gytuno ar eu hymateb yn ystod Cyfnod 2 ar ôl cael barn y
Pwyllgor Cyllid a rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru.
4A - Diweddariad ar y
Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) - materion nad ydynt yn gysylltiedig â’r
Comisiwn Etholiadol
Roedd y Comisiwn wedi
gofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’r posibilrwydd o anghymhwyso staff
y Comisiwn rhag sefyll etholiad i'r Cynulliad, a chyhoeddi gwariant
etholiadau'r Cynulliad.
Trafododd y
Comisiynwyr sut y dylai'r Llywydd ymdrin â'r materion hyn yn ystod gwaith
craffu Cyfnod 2 ar y Bil a hefyd sut i ymateb i ddiwygiadau eraill y gellid eu
gosod.
Nododd y Comisiynwyr y
cynnydd ynghylch cynigion i godi ymwybyddiaeth mewn perthynas â chyflwyno
pleidleisiau yn 16 oed ar gyfer etholiadau’r Cynulliad a chroesawyd y newyddion
y byddent yn cael rhagor o wybodaeth yn eu cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diwygio'r Cynulliad - y wybodaeth ddiweddaraf
A.
Bil Senedd ac
Etholiadau Cymru: Cyllido ac Atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol
B.
Bil Senedd ac
Etholiadau Cymru: Gwelliannau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr
ddwy brif thema parthed diwygio'r Cynulliad. Yn gyntaf, trafodwyd materion
ynghylch ariannu'r Comisiwn Etholiadol a'i atebolrwydd yng nghyd-destun Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru). Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y
gwaith a wnaed hyd yma ac, wedi trafod y mater, cytunasant i barhau i weithio
gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i fireinio'r polisi a'r cynigion
deddfwriaethol.
Yn ail, trafododd y
Comisiynwyr argymhellion gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol, y Pwyllgor Cyllid, a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol
a Chymunedau mewn perthynas a Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Trafodwyd yr
ymatebion i'r argymhellion, a chytunwyd i drafod ymhellach y posibiliad o
anghymwyso Staff y Comisiwn rhag ymgeisio mewn etholiad.
Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diwygio’r Cynulliad – y wybodaeth ddiweddaraf
Papur 3a
Diwygio’r Cynulliad: Bil Senedd ac Etholiadau, Atodiad 1-4
Papur 3b
Cam 2 rhaglen diwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48
- Cyfyngedig 49
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Trafododd y Comisiwn y trefniadau ar gyfer ymateb i
adroddiadau pwyllgor yn y dyfodol sy’n ymwneud â Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Cytunodd y Comisiynwyr mai’r Llywydd sydd i benderfynu ar y dull a’r amserlen
ar gyfer ymateb i adroddiadau pwyllgorau ac y trafodir ymhellach â hwy cyn y
ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn.
O ran trefniadau ariannu’r Comisiwn Etholiadol ac atebolrwydd y sefydliad, trafododd y Comisiynwyr y
dull arfaethedig a nodwyd y cyngor. Roeddent yn cytuno y dylai’r Llywydd, mewn
ymgynghoriad â Suzy Davies a chan ystyried safbwyntiau a fynegwyd gan y
Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn
nhrafodion Cyfnod 1, fynd ati i drafod â’r Cwnsler Cyffredinol i gymeradwyo’r
dull.
O ran gwaith pellach
ar ddiwygio’r Cynulliad, yn ymwneud â maint y Cynulliad a diwygio’r system
etholiadol, penderfynodd y Comisiynwyr nad oedd yn bosibl deddfu yn y Cynulliad
hwn. Fodd bynnag, byddai’r
gwaith o ystyried materion sy’n ymwneud â maint y Cynulliad a sut y dylid ethol
Aelodau yn parhau er mwyn hwyluso’r ddadl gyhoeddus a chynorthwyo’r pleidiau
gwleidyddol wrth iddynt ystyried eu barn ar y materion hyn.
Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio’r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Tynnodd y Llywydd sylw at sesiwn dystiolaeth
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y bu’n bresennol ynddi, a
soniodd wrth y Comisiynwyr am y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt mewn perthynas
â chydweithio â Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth am addysg
dinasyddiaeth. Trafododd y Comisiynwyr y
wybodaeth gan nodi bod trafodaethau'n mynd rhagddynt yng Nghyfnod 2 ynglŷn
â'r dull o ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd.
Cyfarfod: 04/03/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Cynulliad
Eitem lafar
Cofnodion:
Rhoddodd y Llywydd
wybodaeth i'r Comisiynwyr am y datblygiadau diweddaraf ers cyflwyno Bil Senedd
ac Etholiadau (Cymru) ar 12 Chwefror. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno ar yr
amserlen ar gyfer y Bil, gan gynnwys cwblhau cyfnod 1 cyn toriad yr haf a
chwblhau’r cyfnod diwygio dros dymor yr hydref. Byddai'r Llywydd yn rhoi
tystiolaeth i bwyllgorau fel rhan o'u gwaith craffu deddfwriaethol - i'r
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 11 Mawrth ac i'r Pwyllgor
Cyllid ar 4 Ebrill.
Gofynnodd y Llywydd i'r
Comisiynwyr i fod yn rhagweithiol a rhoi gwybod am unrhyw bryderon sy’n codi
neu sy’n cael eu trafod mewn fforymau eraill mewn perthynas â’r Bil wrth i’r
broses ddeddfwriaethol fynd rhagddi.
Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diwygio etholiadol – y wybodaeth ddiweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 58
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y gwaith ar raglen ddiwygio'r Cynulliad, gan
ganolbwyntio’n benodol ar faterion polisi sy'n ymwneud â Bil y Senedd ac
Etholiadau (Cymru).
Cytunodd y Comisiynwyr ar
y dull o ddeddfu ar drefniadau ariannol ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol,
gan nodi ei fod yn destun barn Pwyllgor(au) a'r Cynulliad yng Nghyfnod 1.
Trafodwyd datblygiadau
pellach yng nghynnwys arfaethedig y Bil, a thrafodwyd a nodwyd ffordd ymlaen y
Llywydd, i gwblhau'r Bil cyn ei gyflwyno.
Nododd y Comisiynwyr
hefyd yr amserlen ar gyfer cyflwyno a chraffu ar y Bil a'r mater yn ymwneud â
chymhwysedd; yr asesiad ariannol wedi'i ddiweddaru o'r Bil a'u rolau a’u
cyfrifoldebau cytunedig mewn perthynas â rhaglen ddiwygio'r Cynulliad ac yn
arbennig y cyfnod craffu ar gyfer Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru).
Cyfarfod: 05/11/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Diwygio etholiadol – y wybodaeth ddiweddaraf
Diweddariad
llafar gan y Llywydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 61
- Cyfyngedig 62
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr nifer o faterion yn ymwneud â dilyniant eu gweithgarwch diwygio
etholiadol:
Trafododd
y Comisiynwyr agweddau ar y gwaith sy'n ymwneud â gwybodaeth gyhoeddus a chodi
ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o ran gallu adlewyrchu hyn yn y Memorandwm
Esboniadol a fydd yn cyd-fynd â'r Bil pan gaiff ei gyflwyno. Trafodwyd y
pwysigrwydd o sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hannog a'u cefnogi i arfer eu
hawl i bleidleisio. Cytunodd y Comisiynwyr y dylai swyddogion weithio gyda
Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol i ddatblygu cynllun ar gyfer codi
ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc cyn etholiadau 2021, ac yn enwedig mynd i'r
afael â hyn mewn ysgolion. Gwnaethant ofyn am gael eu diweddaru wrth i'r gwaith
hwn fynd rhagddo.
O
ganlyniad i ddatganoli pwerau yn Neddf Cymru 2017, mae'r Comisiwn Etholiadol
wedi cysylltu â'r Llywydd a Llywodraeth Cymru i gynnig bod y Cynulliad yn
deddfu i wneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i'r Cynulliad a chael ei ariannu
gan Gomisiwn y Cynulliad, mewn perthynas ag etholiadau datganoledig yng Nghymru
(etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad). Trafododd y
Comisiynwyr rai o'r materion cymhleth ynghylch sut a phryd y gellid gwneud
newidiadau deddfwriaethol. Teimlai'r Comisiynwyr fod gwerth yn y Comisiwn
Etholiadol yn bod yn atebol i'r Cynulliad am ei waith yng Nghymru. Cytunwyd i
gael barn ar yr egwyddor gan eu grwpiau ar y cynnig hwn gan y Comisiwn
Etholiadol, i ddatblygu newidiadau yn y Bil diwygio, a gefnogir gan Lywodraeth
Cymru.
Rhoddodd y
Llywydd ddiweddariad ar lafar ar yr adborth a gafodd ar ddisgrifwyr i'r Aelodau
a'r sefydliad yn y dyfodol, a'r cynigion y mae'n bwriadu eu gwneud o ganlyniad
i hyn.
Trafododd y Comisiynwyr
yr opsiynau a chytunodd fod angen gwneud penderfyniad er mwyn cyflwyno'r Bil.
Cytunodd y Comisiwn i'r Llywydd benderfynu hyn, fel yr Aelod Cyfrifol, a
dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen â'r newid enw yr ymddengys ei
fod yn adlewyrchu barn y mwyafrif o grwpiau'r Cynulliad ar hyn o bryd. Cadarnhawyd
pe bai opsiynau eraill yn dod i'r amlwg wedyn, y gellid ystyried y rhain yng
Nghyfnod 2. Felly, y cynllun yw y
dylai'r newid enw a gyflwynir yn y Bil fod yn enw uniaith "Senedd";
ac y cyfeirir at Aelodau fel "Aelodau'r Senedd (AS)/Members of the Senedd
(MS)" ac yn unigol fel "Aelod o'r Senedd"/Member of the
Senedd". Teitl byr cysylltiedig y Bil fyddai "Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru)". Byddai'r Comisiwn yn cael ei alw'n "Comisiwn y
Senedd".
Cyfarfod: 24/09/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 65
Cyfarfod: 09/07/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Rhaglen diwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Ystyriodd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ar raglen ddiwygio'r Cynulliad
a chrynodeb o ganfyddiadau'r ymgynghoriad yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a
gynhaliwyd rhwng 12 Chwefror a 6 Ebrill.
Ystyriodd y
Comisiwn ganfyddiadau'r ymgynghoriad a gwnaeth nifer o benderfyniadau wrth
baratoi ar gyfer gwneud cynigion deddfwriaethol, neu lunio eu dull o wneud y
cynigion hynny. Cytunodd:
·
mewn
egwyddor, i gydweithio â Llywodraeth Cymru drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth
ynghylch cynigion i newid rhyddfraint y Cynulliad.
·
i
gynnig deddfwriaeth ar y rhyddfraint a'r newid enw ar gyfer ei weithredu cyn
etholiad 2021. Gallai ail Fil ar y system etholiadol a'r maint ddilyn os yw
consensws trawsbleidiol ar y materion hynny yn dod i'r amlwg;
·
gostwng
yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16; ac
·
eithrio
rhai materion polisi o gwmpas gwaith diwygio'r Cynulliad: pleidlais
carcharorion, hawliau pleidleisio i drigolion cyfreithlon Cymru waeth beth yw
eu cenedligrwydd neu eu dinasyddiaeth, a rhannu swyddi i'r Aelodau.
Gofynnodd y
Llywydd i'r Comisiynwyr gymryd dau fater penodol i'w trafod gyda'u grwpiau a
rhoi adborth cyn diwedd y tymor. Y rhain oedd:
• y disgrifydd ar gyfer Aelodau ar ôl
newid yr enw; a'r
• mater o anghymwyso mewn perthynas ag
aelodaeth o Dŷ'r
Arglwyddi. Cafodd hyn ei argymell gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
a Deddfwriaethol presennol.
Cytunodd y
Comisiynwyr y byddai'r Llywydd yn gwneud datganiad ysgrifenedig yn cyfleu
penawdau'r ymgynghoriad, a'r penderfyniadau a wnaeth am ei strategaeth
ddeddfwriaethol, ynghyd â chwmpas eang y Bil cyntaf ar ddiwygio etholiadol, cyn
diwedd y tymor. Cytunwyd y bydd crynodeb o brif ganfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi o fewn ychydig wythnosau,
gydag adroddiad llawn ar yr ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.
Cyfarfod: 22/01/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Diwygio Etholiadol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 74
Cofnodion:
Rhoddodd Adrian Crompton amlinelliad o'r papur sy'n cael ei gyflwyno i
gyfarfod y Comisiwn ar 22 Ionawr, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Bwrdd am waith y rhaglen Diwygio Etholiadol y Cynulliad a'r penderfyniadau i'w
gwneud ar y cwmpas olaf a'r dull ymgynghoriad cyhoeddus ar argymhellion y Panel
Arbenigol, a materion eraill ynghylch diwygio deddfwriaeth. Byddai'r
Comisiynwyr yn ystyried yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf p'un ai i gyflwyno Bil
Diwygio'r Cynulliad a chwmpas cyffredinol unrhyw ddeddfwriaeth.
Trafododd y Bwrdd yr amserlen ar gyfer y gwaith ymgynghori a pharatoi sy'n
cael ei wneud. Roedd swyddogion yn edrych ar yr adnoddau ehangach fyddai eu hangen
er mwyn helpu i gyflawni Bil diwygio, er, heblaw am hynny, nid oedd hi'n bosibl
rhagweld beth fyddai'r penderfyniadau polisi a'r effaith ar adnoddau yn sgil
hynny.
Roedd y Llywydd yn cael trafodaethau gyda phleidiau gwleidyddol a'r
Pwyllgor Busnes ynghylch y dull a'r amseriad ar gyfer ceisio mandad penodol gan
y Cynulliad ar gyfer gwaith diwygio'r Cynulliad.
CAMAU I’W CYMRYD:
·
Argymhellodd y Bwrdd egluro'r
effaith ar adnoddau lle y bo'n hysbys, ac amlygu'r goblygiadau ynghylch
amserlen y cyfnod ymgynghori.
·
Sulafa Thomas i ychwanegu gofyniad
am oblygiadau adnoddau i'w cynnwys yn nhempled papur y Comisiwn a'i
ail-ddosbarthu gyda'r canllawiau ar baratoi papur.
Cyfarfod: 06/11/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diwygio’r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 77
Cyfarfod: 23/10/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 10)
Cynlluniau deddfwriaethol ar gyfer diwygio'r Cynulliad
Oral
item
Cofnodion:
Rhoddodd Adrian Crompton y wybodaeth
ddiweddaraf am y cynlluniau deddfwriaethol ar gyfer diwygio'r Cynulliad, gan
gynnwys nifer o newidiadau posibl i drefniadau mewnol y sefydliad yn ogystal â
chyflwyno argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad.
Gofynnwyd i'r Panel gynghori'r Comisiwn ar nifer yr Aelodau sydd eu hangen ar y
Cynulliad, y system etholiadol a'r oedran pleidleisio isaf a byddai'n
cyflwyno'i adroddiad maes o law.
Hefyd, byddai Adrian yn rhoi cyflwyniad i'r
Comisiynwyr yn ddiweddarach yn yr wythnos, cyn eu cyfarfod ar 6 Tachwedd pan
fyddent yn trafod ac yn rhoi arweiniad ar sut i fwrw ymlaen â'r gwaith. Roedd y
Comisiwn yn arwain rhaglen ddiwygio'r Cynulliad i archwilio sut y gellid
defnyddio'r pwerau hyn.
Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Rhaglen ddiwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 82
Cofnodion:
Yn y cyfarfod blaenorol, wedi ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus
ar enw y Cynulliad, cytunodd y Comisiynwyr y byddent yn dychwelyd at fater
rhaglen ddiwygio’r Cynulliad, a’r cynigion deddfwriaethol y gallai’r Comisiwn
ddymuno eu dilyn yn ystod y tymor Cynulliad hwn o ganlyniad i bwerau newydd a
ddatganolir o dan Ddeddf Gymru 2017.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddent yn trafod cwmpas llawn y rhaglen ddiwygio
bosibl a’r cynigion deddfwriaethol y maent yn bwriadu eu cyflwyno ar ôl i
adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad ddod
i law yn hydref 2017. Gallai’r trafodaethau hyn gwmpasu pecyn ehangach o ran
diwygio trefniadau gweithredol megis y rheolau anghymwyso, trefniadau
etholiadol a’r system bwyllgora.
Cytunodd y Comisiynwyr i gynnig deddfwriaeth i newid enw’r Cynulliad yn
Senedd Cymru/Welsh Parliament cyn diwedd y Cynulliad hwn. Bydd yr Aelodau yn
cael eu galw’n Aelodau o Senedd Cymru/Welsh Parliament Members. Wrth arwain y
gwaith hwn ar ran y sefydliad, bydd y Comisiwn yn ceisio sicrhau’r consensws
gwleidyddol mwyaf ar draws y pleidiau i gyd.
Yn y cyfamser, bydd y Cynulliad yn parhau i gael ei alw yn swyddogol wrth
ei enw statudol presennol, sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn osgoi
dryswch ac i leihau costau ac anghyfleustra.
Bydd y Comisiwn yn cynllunio’r newid er mwyn sicrhau bod y gost cyn lleied
ag y bo modd, gan newid enw’r Cynulliad yn unig a pheidio â chynnal unrhyw
ailfrandio cyffredinol na newid y logo.
Cytunodd y Comisiynwyr i gyhoeddi crynodeb o ganfyddiadau’r ymgynghoriad,
ynghyd â datganiad ysgrifenedig ffurfiol i’r Cynulliad gan y Llywydd yn
egluro’r penderfyniad a wnaed a sut y mae’r Comisiwn yn bwriadu symud ymlaen.
Cyfarfod: 15/05/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Rhaglen Diwygio'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 85
- Cyfyngedig 86
Cofnodion:
Rhoddwyd
gwybodaeth i'r Comisiynwyr am ganlyniadau eu hymgynghoriad ar newid enw'r
Cynulliad. Trafodwyd nifer o opsiynau ar gyfer y camau nesaf gan gynnwys
materion ymarferol ac ariannol cysylltiedig a materion yn ymwneud ag enw da.
Cytunodd
y Comisiynwyr i ddychwelyd at y mater yn eu cyfarfod nesaf, ar ôl rhoi
ystyriaeth bellach i'r berthynas â chwmpas y cynigion deddfwriaethol y gallai'r
Comisiwn ddymuno ei dilyn yn ystod tymor y Cynulliad hwn o ganlyniad i
ddatganoli pwerau newydd o dan Ddeddf Cymru 2017 .
Cyfarfod: 26/01/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y Panel Arbenigol ar ddiwygio trefniadau cyfansoddiadol
Cofnodion:
Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod diwethaf y Comisiwn, roedd y Comisiynwyr
yn fodlon bod gwaith i sefydlu Panel Arbenigol ar ddiwygio trefniadau
etholiadol yn mynd rhagddo.
Gan barhau â'u gwaith i fynd i'r afael â chapasiti'r Cynulliad, rhoddwyd y
wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn ynglŷn â'r camau a gymerwyd i benodi
aelodau'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad.
Bydd y Panel yn
gweithredu'n annibynnol, a'i rôl fydd gwneud argymhellion i Gomisiwn y
Cynulliad erbyn hydref 2017 ynglŷn â nifer yr Aelodau y mae eu hangen ar y
Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf ar
gyfer etholiadau'r Cynulliad.
Er y bydd y Panel yn gweithredu'n
annibynnol, ni all weithio'n llwyr ar wahân i wirioneddau'r sefyllfa
wleidyddol. Bydd y Llywydd hefyd yn sefydlu, ac yn cadeirio, Grŵp Cyfeirio
Gwleidyddol a fydd yn cyflawni rôl ymgynghorol er mwyn cynorthwyo'r Panel i
sicrhau bod argymhellion ymarferol yn deillio o'i waith.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r Llywydd fwrw ymlaen â'r cyhoeddiadau.
Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Panel arbenigol ar ddiwygio cyfansoddiadol
Cofnodion:
Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod diwethaf y
Comisiwn, roedd y Comisiynwyr yn fodlon bod gwaith i sefydlu Panel Arbenigol ar
ddiwygio etholiadol yn symud yn ei flaen.
Roeddent yn cefnogi'r dull o benodi Cadeirydd â lefel addas o hygrededd
academaidd (yr Athro Laura McAllister), a cheisio panel o unigolion amrywiol â
phrofiad priodol.
Cyfarfod: 03/11/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Comisiwn y Pedwerydd Cynulliad "Dyfodol y Cynulliad: sicrhau capasiti i gyflawni ar gyfer Cymru” a Bil Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 93
Cofnodion:
Cafodd y
Comisiynwyr eu briffio ynghylch gwaith y Comisiwn yn y Cynulliad diwethaf o ran
y cyfyngiadau ar gapasiti'r sefydliad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt. Hefyd,
fe'u hysbyswyd am y sefyllfa bresennol ac am hyd a lled y pwerau sy'n cael eu
datganoli o dan Fil Cymru sydd ar hyn o bryd yn cael ei drafod yn San Steffan.
Cytunodd
y Comisiynwyr y dylai'r Llywydd drafod y materion hyn ymhellach o ran ceisio eu
symud ymlaen.