Cyfarfodydd

P-05-739 Achub Gwasanaethau TWF

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-739 Achub Gwasanaethau TWF

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried boddhad y deisebwyr gydag ehangu'r rhaglen Twf o fis Ebrill 2017, cytunwyd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebwyr am eu cyfraniad.

 

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-739 Achub Gwasanaethau TWF

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i holi ym mha ardaloedd awdurdod lleol y mae’r cynllun Cymraeg i Blant ar waith ar hyn o bryd, ac i gael rhagor o fanylion

am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu elfen genedlaethol Twf; ac

·         aros am farn y deisebwyr.