Cyfarfodydd
Replacement Finance System
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 02/02/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
System Gyllid Newydd – Cyflwyno Microsoft Dynamics NAV
Cyflwyniad
Cofnodion:
Croesawodd y Bwrdd Robin Parkin ac Yvonne Jennings i'r cyfarfod i arddangos
y system gyllid newydd, sef Microsoft Dynamics NAV. Bydd y system hon yn
disodli'r system bresennol ar ddechrau mis Ebrill 2017. Bydd y system yn
ddwyieithog a bydd ganddi nodwedd hunanwasanaeth integredig at ddibenion
adrodd, a'r gallu i ddarparu gwybodaeth fanwl am wariant ymrwymedig. Bydd ail
becyn adrodd ar gael yn ystod cam II o'r broses gyflwyno. Bydd data trafodaethol o'r system bresennol sydd
wedi'u cysoni yn cael eu mewnforio at ddibenion cadw gwybodaeth sy'n ymwneud
â'r gorffennol ac er mwyn hwyluso'r broses o adrodd ar dueddiadau tymor hir.
Yn ogystal â bod yn haws ac yn well i'w defnyddio, gyda nodweddion
effeithlonrwydd fel system awtomataidd ar gyfer casglu anfonebau a thaliadau
electronig, bydd y system hon yn caniatáu i feysydd gwasanaeth gael mynediad at
wybodaeth eu hunain, ac yn galluogi'r tîm Cyllid i newid ei ffocws o gyflawni
tasgau llaw i wneud gwaith dadansoddi a darparu cymorth.
Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn destun profion ymhlith defnyddwyr
arfaethedig y system newydd. Bydd staff ym maes gwasanaeth cyllid yn cael eu
hyfforddi ym mis Mawrth, yn nes at yr adeg pan fydd angen iddynt ddefnyddio'r
system, a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ymhlith timau unigol er mwyn
diwallu eu hanghenion penodol.