Cyfarfodydd

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/01/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Cyfoeth Naturiol Cymru: Llythyr gan Clare Pillman, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru (21 Rhagfyr 2020)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/03/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyfoeth Naturiol Cymru: Llythyr oddi wrth Clare Pillman, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu, Cyfoeth Naturiol Cymru (20 Chwefror 2020)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/01/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Cyfoeth Naturiol Cymru: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch nifer o faterion sy’n codi.

 


Cyfarfod: 20/01/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyfoeth Naturiol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-03-20 Papur 1 – Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-03-20 Papur 2 – Memorandwm Atodol Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Ionawr 2020)

PAC(5)-03-20 Papur 3 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (13 Ionawr 2020)

 

Clare Pillman – Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu, Cyfoeth Naturiol Cymru

Sir David Henshaw - Cadeirydd, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Cyfoeth Naturiol Cymru yn fanwl ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu'r argymhellion a oedd wedi’u cynnwys yn Adroddiad y Pwyllgor (Tachwedd 2018) ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18.

 


Cyfarfod: 16/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyfoeth Naturiol Cymru: llythyr gan Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (11 Gorffennaf 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/04/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyfoeth Naturiol Cymru: Diweddariad gan Lywodraeth Cymru ar weithrediad argymhellion yr adroddiad (Ebrill 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 11/02/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2017-18

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-04-19 Papur 1 – Llythyr gan Clare Pillman, Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru (4 Chwefror 2019)

PAC(5)-04-19 Papur 2 – Llythyr gan Sir David Henshaw, Cadeirydd, Cyfoeth Naturiol Cymru (4 Chwefror 2019)

PAC(5)-04-19 Paper 3 – Cylch gorchwyl yr Adolygiad Annibynnol ar weithrediadau coedwigaeth masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru (Awst 2018)

PAC(5)-04-19 Papur 4 – Adolygiad Annibynnol Grant Thornton o weithrediadau coedwigaeth masnachol Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-04-19 Paper 5 – Strwythur Tîm Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru (Chwefror 2019)

 

Clare Pillman – Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

Syr David Henshaw - Cadeirydd, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd Aelodau dystiolaeth gan Clare Pillman, Prif Weithredwr a Syr David Henshaw, Cadeirydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, fel rhan o'u hymchwiliad i Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18.

 


Cyfarfod: 28/01/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Cyfoeth Naturiol Cymru: Ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-02-19 Papur 5 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-02-19 Papur 6 – Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau'r ymatebion i'r adroddiad a nodwyd y trefnwyd i Gyfoeth Naturiol Cymru ddod i'r Pwyllgor ar 11 Chwefror.

 


Cyfarfod: 05/11/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 - Gohebiaeth gan Clare Pillman (17 Hydref 2018)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Cyfoeth Naturiol Cymru: trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-29-18 Papur 4 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau un rhan o'r adroddiad unwaith eto ac, ar ōl ystyriaeth, bydd y Clercod yn newid geiriad a chylchredeg fersiwn ddiwygiedig trwy e-bost i'w gytuno. 

 


Cyfarfod: 22/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Cyfoeth Naturiol Cymru: trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-28-18 Papur 6 - Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft a chytuno arno.

 


Cyfarfod: 01/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cyfoeth Naturiol Cymru: craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.


Cyfarfod: 01/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Cyfoeth Naturiol Cymru: craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

David Sulman - Cymdeithas Cynhyrchion Coedwig y DU

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd yr Aelodau'r dystiolaeth gan David Sulman, Cymdeithas Cynhyrchion Coedwig y DU, fel rhan o waith craffu'r Pwyllgor ar adroddiad a chyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18.

 


Cyfarfod: 24/09/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 24/09/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-24-18 Papur 1 – Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2017-18

PAC(5)-24-18 Papur 2 – Memorandwm Atodol Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Contractau Gwerthiant Pren a ddyfarnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-24-18 Papur 3 – Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Blynyddol 2015-16: Cynllun gweithredu wedi’i diweddaru.

 

Clare Pillman – Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru

Peter Garson, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Aelodau'n craffu ar Clare Pillman, Prif Weithredwr, Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, a Peter Garson, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghylch Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18.

2.2 Cytunodd Clare Pillman i anfon manylion am:

·        faint o’r pren a gynhyrchwyd yng Nghymru a broseswyd yng Nghymru yn 2017-18; a

·        sut y cyfrifwyd cytundeb setliad y Prif Weithredwr blaenorol a phwy a gymeradwyodd y cytundeb hwn.

 

 

 


Cyfarfod: 16/04/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Gyfrifon Blynyddol 2015-16

PAC(5)-10-18 Papur 1 – Craffu ar Gyfrifon Blynyddol 2015-16 - Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd yr Aelodau y llythyr a'r ffaith y bydd diweddariad pellach cyn toriad yr haf.

 


Cyfarfod: 11/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Craffu ar Gyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyfoeth Naturiol Cymru (29 Tachwedd 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon 2015-16

NDM6366 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2017.

Nodyn: Cafodd ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i'r adroddiad ei dderbyn a'i gyhoeddi ar wefan y pwyllgor ar 5 Gorffennaf 2017 (Saesneg yn unig).

Dogfen ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

NDM6366 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 10/07/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyfoeth Naturiol Cymru: Ymateb i adroddiad y Pwyllgor

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/06/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-18-17 Papur 5 – Gwybodaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-18-17 Papur 6 – Llythyr drafft i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwnaethant gytuno ar y llythyr drafft a gaiff ei anfon at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

 


Cyfarfod: 05/06/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (26 Mai 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/06/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 - Gwybodaeth ychwanegol gan Cymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y Deyrnas Unedig (24 Mai 2017)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/06/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-16-17 Papur 3 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafodwyd yr adroddiad drafft. Gofynnodd Aelodau i rywfaint o newidiadau drafftio gael eu gwneud, a fydd yn cael eu trafod y tu allan i'r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 22/05/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Cyfoeth Naturiol Cymru: Sesiwn dystiolaeth 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-15-17 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-15-17 Papur 4 – Gwybodaeth ychwanegol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

PAC(5)-15-17 Papur 5 - Cyfoeth Naturiol Cymru – Adroddiad Archwilio Mewnol: Contractau Hirdymor ynghylch Gwerthu Pren (Mai 2017)

 

Dr Emyr Roberts, Prif Weithredwr

Kevin Ingram – Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar Dr Emyr Roberts, y Prif Weithredwr, a Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru.

6.2 Craffodd yr Aelodau ar Dr Emyr Roberts a Kevin Ingram ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Ddatblygu Cyfoeth Naturiol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2016.

6.3 Cytunodd Dr Roberts i anfon diweddariad ar ddangosyddion perfformiad CNC a chynnwys cymhariaeth blwyddyn wrth flwyddyn er mwyn galluogi'r Pwyllgor i asesu tueddiadau mewn perfformiad.

 


Cyfarfod: 22/05/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Bu'r Aelodau yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law wrth graffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid oedd rhai Aelodau'n fodlon ar y dull a gymerwyd gan CNC at yr ymarfer tendro yn 2012 a nodwyd bod gwrthdaro o ran tystiolaeth gan y ddwy set o dystion ynghylch y mater hwn. Gofynnwyd i'r Clercod archwilio ymhellach gyda Mr Sulman beth oedd cyflwr y farchnad bren a beth oedd e'n teimlo y gallai CNC fod wedi'i wneud i ehangu cwmpas y tendr.

7.2 Nododd yr Aelodau y bydd yr adroddiad drafft ar gael iddynt i'w drafod yng Nghyfarfod y Pwyllgor ar 5 Mehefin.

7.3 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn craffu ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig â materion y mae'r Pwyllgor yn dymuno iddynt gael eu cynnwys yng ngwaith craffu blynyddol y Pwyllgor ar CNC yn nhymor yr hydref.

 


Cyfarfod: 22/05/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a dderbyniwyd gan Mr Sulman.

 


Cyfarfod: 22/05/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16: Sesiwn dystiolaeth 2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-15-17 Papur 1 – Cyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16

PAC(5)-15-17 Papur 2 - Archwilydd Cyffredinol Cymru Memorandwm

 

David Sulman - Cyfarwyddwr Gweithredol, Cymdeithas Cynnyrch Coedwigoedd y Deyrnas Unedig

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Sulman, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cymdeithas Cynhyrchion Coedwig y DU fel rhan o'i ymchwiliad i'r gwaith craffu ar  Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru.

 


Cyfarfod: 28/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Gyfrifon Blynyddol 2015-16

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-11-17 Papur 1 – Cyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16

PAC(5)-11-17 Papur 2 - Archwilydd Cyffredinol Cymru Memorandwm

 

Dr Emyr Roberts – Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

Kevin Ingram - Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Dr Emyr Roberts, y Prif Weithredwr, a Kevin Ingram, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran Cyfrifon Cyfoeth Naturiol Blynyddol Cymru 2015-16.

3.2 Cytunodd Dr Roberts i:

·       Roi eglurhad am yr amrywiad yn y pris a dalwyd am goed yng Nghymru, ynghyd â phrisiau cyfredol y farchnad

·       Darparu cost y cyngor cyfreithiol mewn perthynas ag adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol

·       Paratoi nodyn ar yr arfer da a fabwysiadwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer rheoli salwch staff

 

3.3 Yn ogystal, nododd y Pwyllgor ei fod am gael gweld yr adroddiad sydd ar ddod gan Reolwr Archwilio Mewnol a Sicrwydd Risg Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr adolygiad o risgiau rheoli ynghyd â chopi o'r achos busnes a baratowyd ar gyfer y contract i ymateb i ledaeniad y clefyd coed P. ramorum.

 

 


Cyfarfod: 28/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cyfoeth Naturiol Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 28/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Cyfoeth Naturiol Cymru: Sesiwn friffio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor wybodaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac fe drafodwyd materion cyfrinachol cyfredol.

 


Cyfarfod: 06/03/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Cyfrifon Cyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2015-16: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cofnodion:

7.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddiweddariad llafar ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran Cyfrifon Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru 2015-16.