Cyfarfodydd
NDM 6245 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 01/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 01/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru
NDM6245 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad amlwg
Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl
arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd.
2. Yn gresynu:
a) at ystadegau diweddar
gwerth ychwanegol gros (GVA) a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2016 sy'n dangos mai 71
y cant o gyfartaledd GVA y pen y DU oedd GVA y pen Cymru yn 2015, sef yr isaf
ymysg y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr;
b) y bydd cleifion yng
Nghymru yn aros yn sylweddol hirach i gael diagnosis a thriniaeth nag y byddent
am yr un cyflyrau yn Lloegr a'r Alban; ac
c) at berfformiad
diweddaraf Cymru yn Rhaglen Asesiadau Myfyrwyr Rhynglwadol 2015 Y Sefydliad ar
gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a gyhoeddwyd ym mis
Rhagfyr 2016, a oedd yn dangos bod sgorau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth
2015 yn is nag yn 2006, ac yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU.
3. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol addysg a
sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru;
b) yr angen am wella
cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac
c) potensial yr economi
las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.
'Gwerth ychwanegol crynswth rhanbarthol a gwerth
ychwanegol crynswth isranbarthol, Rhagfyr 2016'
'OECD Programme for International Student Assessment
2015' (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%,
sy'n is na chyfartaledd y DU;
b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd
gan yr OECD yn ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol
neu well na gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion;
c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn
dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi
ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i
gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6245 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r
Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth
addysg uwchradd.
2. Yn gresynu:
a) at ystadegau diweddar gwerth ychwanegol gros (GVA) a ryddhawyd ym mis
Rhagfyr 2016 sy'n dangos mai 71 y cant o gyfartaledd GVA y pen y DU oedd GVA y
pen Cymru yn 2015, sef yr isaf ymysg y gwledydd datganoledig a rhanbarthau
Lloegr;
b) y bydd cleifion yng Nghymru yn aros yn sylweddol hirach i gael diagnosis
a thriniaeth nag y byddent am yr un cyflyrau yn Lloegr a'r Alban; ac
c) at berfformiad diweddaraf Cymru yn Rhaglen Asesiadau Myfyrwyr
Rhynglwadol 2015 Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd
(OECD), a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn dangos bod sgorau
mathemateg, darllen a gwyddoniaeth 2015 yn is nag yn 2006, ac yn is na'r
cyfartaledd ar gyfer y DU.
3. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau
cynhyrchiant economaidd Cymru;
b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a
thriniaeth; ac
c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant
economaidd Cymru yn y dyfodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliant a galyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na
chyfartaledd y DU;
b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn
ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na
gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion;
c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn
dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi
ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i
gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
23 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6245 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r
Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth
addysg uwchradd.
2. Yn nodi:
a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na
chyfartaledd y DU;
b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn
ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na
gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion;
c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn
dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi
ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i
gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau.
3. Yn cydnabod:
a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau
cynhyrchiant economaidd Cymru;
b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a
thriniaeth; ac
c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau
ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
7 |
16 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio.