Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil (Cofrestru) Pedolwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/03/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pedolwyr (Cofrestru)

NDM6269 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau yn y Bil Pedolwyr (Cofrestru), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(ii).

‘Bil Pedolwyr (Cofrestru)’

Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.07

NDM6269 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau yn y Bil Pedolwyr (Cofrestru), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 16/03/2017 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Craffu ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pedolwyr (Cofrestru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pedolwyr (Cofrestru) a chytunodd i baratoi adroddiad ar y mater hwn.