Cyfarfodydd

Amcangyfrifon ariannol sy’n mynd gyda deddfwriaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth

NDM6632 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2018.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.04

NDM6632 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru

Papur 10 - Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 27/09/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 2 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i gymeradwyo unrhyw newidiadau pellach drwy e-bost.

 


Cyfarfod: 21/09/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 PTN10 - Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol – Tystiolaeth ychwanegol ar Gostau Deddfwriaeth - 21 Gorffennaf 2017

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/09/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Trafod yr adroddiad drafft

Papur 3 – Adroddiad drafft

 

Cofnodion:

7.1 Gohiriwyd yr eitem tan ddydd Mercher 27 Medi 2017.

 


Cyfarfod: 19/07/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a'r materion allweddol a oedd wedi codi o'r ymchwiliad.

 


Cyfarfod: 19/07/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 10 (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol)

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Jonathan Price - Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru

Andrew Hobden - y Tîm Arfarnu a Dadansoddi Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru; ac Andrew Hobden, y Tîm Arfarnu a Dadansoddi Economaidd, Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 13/07/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 9 (Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol (SOLACE))

Dilwyn Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd

 

Papur 2 - Tystiolaeth ysgrifenedig - Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dilwyn Williams, Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd.

 


Cyfarfod: 13/07/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 8 (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru))

Alwyn Jones, Swyddog Arweiniol Gwasanaethau Oedolion, Cyngor Sir Ynys Môn a Chadeirydd Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan

Jenny Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Is-lywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

Papur 1 - Tystiolaeth ysgrifenedig - Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alwyn Jones, Swyddog Arweiniol Gwasanaethau Oedolion, Cyngor Sir Ynys Môn a Chadeirydd Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan; a Jenny Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Is-lywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

 


Cyfarfod: 05/07/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 7 (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Cymru)

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Michael Palmer - Cyfarwyddwr ar gyfer Gweithredu a Pherfformiad, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

 

Papur 3 - Tystiolaeth ysgrifenedig - Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru; a Michael Palmer - Cyfarwyddwr Gweithredu a Pherfformiad, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer Cymru.

 


Cyfarfod: 29/06/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 29/06/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 6

Bethan Jones, Rheolwr Gweithredol, Rhentu Doeth Cymru

 

Papur 5 – Tystiolaeth ysgrifenedig – Rhentu Doeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bethan Jones, Rheolwr Gweithredol Rhentu Doeth Cymru.

 


Cyfarfod: 29/06/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 5

Philip Blaker, Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru

Kerry Price, Pennaeth Cyllid, Cymwysterau Cymru

Alison Standfast, Cyfarwyddwr Gweithredol – Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cymwysterau Cymru

 

Papur 4 – Tystiolaeth ysgrifenedig – Cymwysterau Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru; Kerry Price, Pennaeth Cyllid Cymwysterau Cymru; ac Alison Standfast, Cyfarwyddwr Gweithredol – Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Cymwysterau Cymru.

 


Cyfarfod: 29/06/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 4

Dr Clive Grace OBE, UK Research and Consultancy Services Ltd

Dan Bristow, Dirprwy Gyfarwyddwr, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru

 

 

Papur 3 – Reducing Complexity and Adding Value: A Strategic Approach to Impact Assessment in the Welsh Government – Chwefror 2016

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Clive Grace, UK Research and Consultancy Services Ltd; a Dan Bristow, Dirprwy Gyfarwyddwr, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru.

 


Cyfarfod: 21/06/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: sesiwn dystiolaeth 3

Jon Rae, Rheolwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dave Street, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Chris Moore, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin

 

Papur 1 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru  - Tystiolaeth ysgrifenedig

Briff Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

3.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu nodyn ar y broses o roi adborth i Lywodraeth Cymru ynghylch Asesiadau Effaith Rheoleiddiol arfaethedig.

 


Cyfarfod: 21/06/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Digwyddiad anffurfiol i randdeiliaid

Cofnodion:

1.   Cymerodd y Pwyllgor ran mewn digwyddiad cynhyrchiol i randdeiliaid ynglŷn â'r ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth.

 


Cyfarfod: 07/06/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 07/06/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 2

Johnathan Price - Prif Economegydd, Llywodraeth Cymru

Andrew Hobden - y Tîm Arfarnu a Dadansoddi Economaidd, Llywodraeth Cymru

 

Papur 2 - Llywodraeth Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

4.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am gostau gwirioneddol y pedair Deddf sy'n cael eu cynnwys yn yr ymchwiliad:

·         Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

·         Deddf Cymwysterau Cymru 2015;

·         Deddf Tai (Cymru) 2014; a

·         Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

 


Cyfarfod: 07/06/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth: Sesiwn dystiolaeth 1

Matthew Mortlock  - Cyfarwyddwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru

Martin Peters - Rheolwr Moeseg a'r Gyfraith, Swyddfa Archwilio Cymru

 

Papur 1 - Swyddfa Archwilio Cymru - tystiolaeth ysgrifenedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru.

3.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn rhoi manylion am y costau llawn sy'n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod y flwyddyn 2016-17.

 


Cyfarfod: 03/05/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Papur yn trafod dulliau gweithio – Costau deddfwriaeth

Papur 1 – Y dull ar gyfer gwaith craffu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad hwn i gostau deddfwriaeth.

 


Cyfarfod: 29/03/2017 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Papur cwmpasu'r ymchwiliad - Costau deddfwriaeth

Papur 4 - Papur cwmpasu yr ymchwiliad - Costau deddfwriaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar gostau deddfwriaeth a chytunodd i gynnal ymchwiliad.