Cyfarfodydd
Corporate Communications
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/11/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Cyfarfod i’r holl staff
Eitem lafar
Cofnodion:
Amlinellodd
Manon y bwriad ar gyfer y cyfarfod i'r holl staff ar 15 Rhagfyr. Hwn fyddai'r
cyfle cyntaf i staff ymateb i'r adolygiad capasiti ac i'r uwch dîm gydnabod
anawsterau penodol yr wythnos ddiwethaf ar y cyd, ynghyd â phwysau tymor yr
hydref, a gadael neges gadarnhaol i'r staff ynghylch y ffordd ymlaen. Trafododd
y Bwrdd fformat y cyfarfod.
Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Blaenoriaethu corfforaethol a chyfathrebu - trafodaeth
Eitem lafar
Cofnodion:
Yn gysylltiedig â sefyllfa'r gyllideb, arweiniodd Dave Tosh drafodaeth ar
syniadau cychwynnol ar sut i wella blaenoriaethu buddsoddiad, yn dilyn
ceisiadau gan y Comisiwn a'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ACARAC) am fwy
o dryloywder wrth wneud penderfyniadau. Roedd ef a Gareth Watts yn datblygu
cyfres o feini prawf i ddangos dull blaenoriaethu arfaethedig - ffordd o
wahaniaethu ar y cyd rhwng blaenoriaethau a'u rhoi mewn trefn.
Byddai cyfres o gynigion yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Rheoli eu hystyried,
gan gynnwys proses ansoddol o wneud penderfyniadau i helpu i flaenoriaethu a
rhoi sicrwydd i randdeiliaid ar sut penderfynwyd ar y blaenoriaethau.
CAM I’W GYMRYD: Penaethiaid i adolygu sut maent yn
cyflawni eu cynlluniau gwasanaeth ar hyn o bryd, i weld a ellid gwneud pethau'n
wahanol i ryddhau adnoddau, neu beidio â'u gwneud o gwbl er mwyn rhoi lle i
flaenoriaethau newydd, gan ystyried effaith ar wasanaethau eraill.
Yna trafododd y bwrdd y cynllun ar gyfer y cyfarfod i'r holl staff i'w
gynnal ar 21 Gorffennaf.
Cyfarfod: 06/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 3.)
Cynlllunio Strategol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
Cyfarfod: 06/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6.)
All Staff Meeting
Cyfarfod: 25/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Cyfathrebu Corfforaethol
Eitem lafar
Cofnodion:
Cyflwynodd Anna Daniel a Non Gwilym
amlinelliad i'r Bwrdd o'r opsiynau ar gyfer cynllun cyfathrebu corfforaethol ar
gyfer gweddill y Cynulliad a fyddai'n cefnogi strategaeth uchelgeisiol y
Comisiwn i gyflawni maint y newid sydd ar y gweill.
Trafododd y Bwrdd amserlen o'r prif
ffrydiau gwaith, gan gynnwys yr holl waith yn ymwneud â diwygio etholiadol,
Brexit, materion capasiti, ymgysylltu cyhoeddus fel gyda'r senedd ieuenctid a
gweithgareddau gwella eraill, ac wedi ychwanegu pethau eraill i'w hystyried,
fel absenoldeb staff. Byddai'r gwaith hwn yn helpu i hwyluso blaenoriaethu
effeithiol, cyfathrebu, cynllunio cyllideb a chapasiti ar gyfer digwyddiadau
mawr, tra'n parhau i ddarparu busnes o ddydd i ddydd i safon uchel.
Er mwyn cyflawni'r cynlluniau,
byddai angen eu cyfleu yn effeithiol ac yn amserol a chafodd y Bwrdd gyflwyniad
i'r cyflawniadau terfynol er mwyn rhoi cyd-destun i'r heriau ychwanegol a
gweledigaeth i weithio gyda hi.
Cytunodd y Bwrdd y byddai Non ac
Anna yn arwain trafodaeth ddyfnach a nodi'r risgiau cydberthynol yng nghyfarfod
estynedig y Bwrdd Rheoli ar 6 Gorffennaf.