Cyfarfodydd
NDM6339 Dadl: Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/06/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Datgarboneiddio yn y Sector Cyhoeddus
NDM6339 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i
ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau
statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
2.
Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector
cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel.
3.
Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n
garbon niwtral erbyn 2030.
4.
Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau
ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus.
'Deddf
yr Amgylchedd (Cymru) 2016'
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
gresynu mai araf yw'r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ei
hymdrechion i bennu Cyllideb Garbon ar gyfer 2016-2020.
Gwelliant 2.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn
credu bod angen i'r darpariaethau yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 sy'n
ymwneud â datblygu cynaliadwy gael mwy o ddylanwad dros Lywodraeth Cymru o ran
pennu ei chyllideb ei hun.
Gwelliant 3.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol di-ddifidend, hyd
braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda'r diben o gynyddu effeithlonrwydd ynni
a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus fel rhan o'i gylch
gwaith.
Gwelliant 4.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer fel rhan o'i
ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus.
Gwelliant 5.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau
gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.
Gwelliant 6.
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio
trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol
tebyg.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am
16.34
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
NDM6339 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o
safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus
Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd
(Cymru) 2016.
2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r
gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r
economi carbon isel.
3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o
sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030.
4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y
gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r
sector cyhoeddus.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu mai araf yw'r cynnydd y mae
Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ei hymdrechion i bennu Cyllideb Garbon ar
gyfer 2016-2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
7 |
30 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn credu bod angen i'r darpariaethau yn Neddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy gael mwy o
ddylanwad dros Lywodraeth Cymru o ran pennu ei chyllideb ei hun.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
30 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni
cenedlaethol di-ddifidend, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda'r diben
o gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y sector
cyhoeddus fel rhan o'i gylch gwaith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
8 |
10 |
29 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i
leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector
cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r
sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle
at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
5 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i
gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau
hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
5 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6339 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o
safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus
Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd
(Cymru) 2016.
2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r
gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r
economi carbon isel.
3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o
sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030.
4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y
gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r
sector cyhoeddus.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau
i leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector
cyhoeddus.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r
sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle
at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i
gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau
hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
5 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio.