Cyfarfodydd
Introductions, apologies and declaration of interests
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cofnodion cyfarfod 22 Tachwedd, camau gweithredu a materion yn codi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
ARAC (22-01) Papur 1 - Cofnodion drafft 22 Tachwedd 2021
ARAC (22-01) Papur 2 - Crynodeb o'r camau gweithredu
2.1 Cytunwyd yn ffurfiol ar gofnodion y cyfarfod ar 22
Tachwedd gydag un gwelliant i baragraff 18.1 i'w nodi.
2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am y
prosiect archif ddigidol. Roedd Manon Antoniazzi wedi cyfarfod ag archifydd yn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac roedd cynlluniau ar y gweill i ail-leoli'r
tapiau mewn amodau archif gyda'r bwriad o ddigideiddio yn y dyfodol. Roedd hyn
ond yn berthnasol i dapiau darlledu gan fod cofnodion papur eisoes yn cael eu
harchifio fel mater o drefn.
2.3 Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am y papurau a
ddosbarthwyd ers cyfarfod mis Tachwedd a chroesawodd yn arbennig yr adroddiad
sicrwydd seiberddiogelwch drafft newydd a manylion y Strategaeth Ystadau
arfaethedig a welwyd. Croesawodd yr Aelodau'r cynnig i gynnal sesiwn friffio ar
y Strategaeth Ystadau a gofynnodd am ddiweddariadau rheolaidd pan oedd hynny'n
briodol.
Camau i’w cymryd
· Bydd Ed Williams yn darparu sesiwn friffio
i aelodau ARAC am hynt y Strategaeth Ystadau.
Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod estynedig. Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2
Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf Suzy Davies, diolchodd y
Cadeirydd yn fawr iddi ar ran yr holl Bwyllgor am ei chyfraniad, ei
mewnwelediad a’i hadborth adeiladol yn ystod ei chyfnod fel aelod o’r Pwyllgor.
Ychwanegodd y byddai’n edrych ymlaen at glywed ei sylwadau ar ei haelodaeth yn
nes ymlaen yn y cyfarfod.
Cyfarfod: 10/07/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a nododd
fod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Gareth Watts ac Ann-Marie Harkin.
1.2
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a
nododd fod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru.
1.2
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
1.3
Er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod enw Comisiwn y
Cynulliad wedi newid i Gomisiwn y Senedd, a bod hynny wedi dod i rym ar 6 Mai,
cytunwyd y tu allan i’r Pwyllgor y byddai enw llawn y Pwyllgor yn newid i
Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Senedd (SCARAC) ac mai’r enw a
fyddai’n cael ei ddefnyddio’n fewnol fyddai ARAC.
Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a
nododd y derbyniwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC, Comisiynydd y Cynulliad
ac aelod o'r Pwyllgor. Roedd Julian Luke, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau
Polisi a Deddfwriaeth, yn bresennol fel arsylwr.
1.2
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan
nodi y cafwyd ymddiheuriadau gan Ann-Marie Harkin a Gareth Lucey, ill dau o
Swyddfa Archwilio Cymru, a chroesawyd Jon Martin a oedd yn bresennol ar eu
rhan.
1.2
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1
Cafwyd dau ymddiheuriad gan Suzy Davies AC, Comisiynydd ac Ann-Marie
Harkin, Swyddfa Archwilio Cymru.
1.2
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a gofynnodd i'r aelodau
ystyried cofnodion y cyfarfod ym mis Mehefin a lywiodd yr argymhelliad bod y
Prif Weithredwr a'r Clerc yn llofnodi'r cyfrifon.
Cyfarfod: 17/06/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1
Cafwyd ymddiheuriad gan Hugh Widdis, Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor.
1.2
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gyda chroeso arbennig i Aled Eirug,
a oedd yn arsylwi'r cyfarfod cyn ymuno â'r Pwyllgor yn ffurfiol ym mis Hydref
2019.
1.3
Nid oedd buddiannau i'w datgan.
Cyfarfod: 25/03/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datgan buddiannau
Cofnodion:
1.1
Cafwyd ymddiheuriad gan Ann-Marie Harkin.
1.2
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a diolchodd i'r tîm clercio am
eu cymorth gyda’i gyfarfod cyntaf fel Cadeirydd.
1.3
Nid oedd buddiannau i'w datgan.
Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Introductions, apologies and declarations of interest
Cofnodion:
1.1
Cafwyd ymddiheuriadau gan
Gareth
Lucey (Swyddfa Archwilio Cymru) a Buddug Saer,
Dirprwy Glerc y Pwyllgor.
1.2
Croesawodd y Cadeirydd
Clive Fitzgerald o TIAA a Siwan Davies, a gafodd ei phenodi'n ddiweddar yn
Gyfarwyddwr Busnes y Cynulliad, i'r cyfarfod.
1.3
Datganodd y Cadeirydd ei
fod yn aelod o Grŵp Ymgynghorol Adolygiad Pensaernïaeth Ddigidol GIG
Cymru.
Cyfarfod: 26/11/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1
Derbyniwyd un
ymddiheuriad gan Ann-Marie Harkin (Swyddfa Archwilio Cymru).
1.2
Croesawodd y Cadeirydd
ddau Gynghorwr Annibynnol newydd i'r cyfarfod, sef Ann Beynon a Bob Evans. Amlinellodd Ann a Bob eu cefndiroedd
proffesiynnol a'u portffolio swyddogaethau presennol.
1.3
Dywedodd y Cadeirydd, yn
dilyn yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ei fod
bellach yn cefnogi'r adolygiadau o'r trefniadau Pensaernïaeth Ddigidol a
Llywodraethu.
Cyfarfod: 09/07/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1
Ni
chafwyd ymddiheuriadau ac ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
Cyfarfod: 18/06/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Suzy Davies, Aelod Cynulliad a
Chomisiynydd. Cytunwyd y byddai'r tîm clercio yn casglu unrhyw sylwadau ar y
papurau gan Suzy ynghyd ag ymatebion gan swyddogion.
1.2
Croesawodd y Cadeirydd
Craig Stephenson ar gyfer dwy eitem benodol - 7 a 12.
1.3
Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 1)
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant
Cofnodion:
1.1
Cafwyd ymddiheuriadau gan
Ann-Marie Harkin, Swyddfa Archwilio Cymru.
1.2
Croesawodd y Cadeirydd Mark Neilson (Pennaeth
TGCh a Darlledu) a Richard Coombe (Pennaeth Seilwaith a Rheoli Gweithrediadau).
1.3
Nododd Eric Gregory ei
fod yn parhau i fod yn rhan o'r tîm gweithredu ar gyfer yr Adolygiad Seneddol o
Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
1.4
Ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau eraill.