Cyfarfodydd

Corporate Prioritisation

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/09/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Diweddariad ynghylch Blaenoriaethau Corfforaethol

Eitem lafar

 

Cofnodion:

Rhoddodd Manon Antoniazzi y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Rheoli ynghylch deilliannau'r Comisiwn o'r diwrnod cwrdd i ffwrdd a gafwyd ar 12 Medi lle trafododd y Comisiynwyr, ymhlith pethau eraill, eu blaenoriaethau a dull strategaeth y gyllideb. Clywodd y Bwrdd fod y Comisiynwyr wedi cytuno i barhau â strategaeth y gyllideb a baratowyd yr adeg hon y llynedd, ar yr amod y gellir trafod ymhellach a chytuno'n derfynol ar bethau yng nghyfarfod y Comisiwn ar 25 Medi.

Wrth drafod strategaeth y gyllideb, roedd y Comisiynwyr am gael dealltwriaeth well o'r niferoedd staffio presennol. Mae'r Llywydd wedi gofyn i Manon gynnal adolygiad capasiti rhwng nawr a diwedd y flwyddyn er mwyn sicrhau y gall y Cynulliad ddal i gefnogi blaenoriaethau'r Comisiwn yn wyneb pwysau allanol cynyddol.

Byddai'r adolygiad hefyd o gymorth i'r Comisiynwyr ddeall sut y mae adnoddau wedi'u dyrannu o fewn y sefydliad ar hyn o bryd, a gwerthuso ai dyma'r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o adnoddau i gyflawni amcanion y Comisiwn ar gyfer y Pumed Cynulliad a thu hwnt.

Dywedodd Manon mai tîm y Dadansoddwyr Busnes fyddai'n arwain yr adolygiad, â chymorth gan gydweithwyr yn y Gwasanaeth Adnoddau Dynol, Trawsnewid Strategol a'r Undebau Llafur. Byddai'r argymhellion a ddaw yn sgil yr adolygiad yn cael eu trafod yn eu tro yng nghyfarfod y Bwrdd Rheoli, lle caiff yr holl wasanaethau eu cynrychioli.

Byddai'r adolygiad yn un byr ag iddo ffocws, gan fwriadu i unrhyw argymhellion gael eu cyflwyno i'r Comisiwn erbyn diwedd y flwyddyn.

 

 


Cyfarfod: 15/08/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)

Blaenoriaethau corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4
  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7
  • Cyfyngedig 8
  • Cyfyngedig 9
  • Cyfyngedig 10
  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Rheoli'r pwysau y mae'r sefydliad yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ran staffio ac adnoddau, gan gynnwys newidiadau cyfansoddiadol, effaith gadael y UE, a blaenoriaethau a nodau strategol. Trafododd y Bwrdd y rhestr o adnoddau a nodwyd a heriodd y dadleuon ar gyfer pob un.

Camau i’w cymryd:

·                Y Penaethiaid i gysoni crynodebau'r Cyfarwyddiaethau â'r rhestr adnoddau i ddangos yr hyn sy'n cael ei gyfrif eisoes mewn cyllidebau, a diweddaru'r rhestr cyn trafodaeth y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau ar 17 Awst.

·                Y Penaethiaid i ddarparu rhestr o 'anghenion' i'r adran Adnoddau Dynol, gan amlinellu sut y gallai trefniant partneriaeth arfaethedig gyda Chynulliad Gogledd Iwerddon weithio o ran prosiectau neu dasgau penodol yn eu meysydd.

·                Manon Antoniazzi i baratoi cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad staff sy'n adlewyrchu'r drafodaeth a'i ddosbarthu i'r Bwrdd Rheoli er mwyn cael sylwadau.

·                Non Gwilym i baratoi cynllun ar gyfer cyfathrebu â staff ac Aelodau Cynulliad ym mis Medi.