Cyfarfodydd

P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor wybodaeth bellach a chytunodd i nodi’r oedi i’r broses ailasesu yn sgil y pandemig Covid-19, ac i ofyn am ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys syniad o’r amserlen bosibl ar gyfer cwblhau’r ailasesu.

 


Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach a chytunodd i ofyn am ddiweddariad pellach gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol unwaith y bydd y broses o asesiadau annibynnol wedi cael ei chwblhau, i gynnwys dadansoddiad o'r newidiadau sydd wedi deillio ohonynt.

 


Cyfarfod: 17/09/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ymhellach a chytunodd i:

·         nodi’r cynnydd a wnaed ac aros am ddiweddariad pellach gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol unwaith y bydd yr asesiadau annibynnol o anghenion gofal pobl wedi'u cwblhau; a

·         llongyfarch y deisebydd ar y cynnydd a wnaed gan ei ymgyrch hyd yma.

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Sesiwn dystiolaeth – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd

Gareth Griffiths, Pennaeth Talu am Ofal, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gareth Griffiths.

 


Cyfarfod: 05/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafod Sesiynau Tystiolaeth Blaenorol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ofyn mewn chwe mis am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y broses bontio a chanlyniadau'r adolygiadau a gynhaliwyd gan weithwyr cymdeithasol annibynnol.

 


Cyfarfod: 12/02/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Adroddiad drafft - P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi adroddiad interim o'r dystiolaeth a gafwyd cyn gynted â phosibl ac i wahodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor cyn gynted â phosibl.

 


Cyfarfod: 11/12/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • lunio crynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd, gyda'r bwriad o baratoi adroddiad neu lythyr manwl i'r Gweinidog yn nodi'r dystiolaeth a gafwyd a chasgliadau neu argymhellion y Pwyllgor; a
  • gofyn am gopi o ganlyniadau'r adolygiad at wraidd y mater o bob achos lle mae bwriad i leihau cymorth uniongyrchol yr awdurdod lleol i dderbynwyr Grant Byw'n Annibynnol Cymru, a manylion am unrhyw gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ganlyniad i hyn.

 

 


Cyfarfod: 23/10/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan nifer o randdeiliaid a chytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i wneud y canlynol:

 

  • ceisio diweddariad manwl ar gynnydd y trefniadau pontio hyd yn hyn, gan gynnwys canlyniad yr adolygiad o'r holl anghenion cymorth y disgwyliwyd ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi; a
  • gofyn a fydd, fel ffordd ganol rhwng clustnodi arian a darparu cyllid drwy'r Grant Cynnal Refeniw, yn ystyried ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu adroddiad sy'n manylu ar wariant gwirioneddol ar becynnau gofal ar gyfer derbynwyr blaenorol Grant Byw'n Annibynnol Cymru, gan gynnwys nifer y derbynwyr, y swm cyfartalog a gafodd pob un a'r cyfanswm a ddyfarnwyd.

 

 


Cyfarfod: 05/07/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Grant Byw'n Annibynnol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Grant Byw'n Annibynnol Cymru.

 


Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Trafodaeth o'r sesiwn dystiolaeth flaenorol – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth a chytunodd i ofyn am dystiolaeth ychwanegol gan ystod o randdeiliaid mewn perthynas â phwnc y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Sesiwn dystiolaeth – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Huw Irranca-Davies, Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

 

Gareth Griffiths, Pennaeth Talu am Ofal, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol a chan Gareth Griffiths.

 


Cyfarfod: 07/06/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Grant Byw’n Annibynnol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Plant, Pobl Hyn a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â Grant Byw’n Annibynnol Cymru.

 


Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Sesiwn dystiolaeth – P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Nathan Lee Davies, Deisebydd

 

Adam Samuels, Cefnogwr

 

Angie Evans, Cefnogwr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Deisebydd, Angie Evans ac Adam Samuels.

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ynghyd â'r sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ynghylch cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru gan sefydliadau sy'n cefnogi pobl anabl;

·         gwahodd y deisebydd a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 06/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebydd ymlaen at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a gofyn am:

  • ei ymateb i'r pryderon a godwyd ynghylch gallu rhai awdurdodau lleol i ddarparu'n ddigonol y cymorth sydd ei angen ar bobl ag anableddau er mwyn byw'n annibynnol; a
  • manylion y gwaith monitro sy'n cael ei wneud wrth i awdurdodau lleol weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

 


Cyfarfod: 03/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-771 Ailystyried cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru a chefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn

 

·         Ystyried y ddeiseb ymhellach yng nghyd-destun y cyhoeddiad ar y gyllideb yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw; ac yn y cyfamser

 

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu pryderon y deisebydd a gofyn:

 

o   a fydd hi'n cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a chofnodion y grŵp rhanddeiliaid fel gofynnodd y deisebydd;

o   p'un ai a wnaed Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac a ellir rhoi hwn i’r Pwyllgor a’r deisebydd; ac

am ei barn ynghylch a fydd y trefniadau trosiannol arfaethedig yn sicrhau y bydd amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) wedi cael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol cyn cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru.