Cyfarfodydd
P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 118 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 15.11.18 Gohebiaeth - Cyngor Sir Gâr at y tîm clercio (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 25 KB Gweld fel HTML (3/2) 5 KB
- 19.11.18 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/3) 4 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Sir Gâr ynghyd â sylwadau pellach gan y
deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r ffaith bod y deisebwyr
bellach yn fodlon â'r sefyllfa a'r cynnydd a wnaed wrth annog awdurdodau lleol
yng Nghymru i fabwysiadu polisi sganio am ficrosglodion.
Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-779: Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3 PDF 117 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 22.02.18 Gohebiaeth - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/2) 4 KB
- 14.03.18 Gohebiaeth - Cyngor Gwynedd at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 380 KB
- 15.02.18 Gohebiaeth - Cyngor Caerdydd at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 173 KB
- 07.02.18 Gohebiaeth - Cyngor Dinas Casnewydd at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 85 KB Gweld fel HTML (3/5) 13 KB
- 20.02.18 Gohebiaeth - Cyngor Sir Ynys Môn at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 138 KB
- 18.03.18 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 135 KB Gweld fel HTML (3/7) 22 KB
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn trafod ymatebion gan bum awdurdod lleol a nododd yn
flaenorol nad oeddent yn sganio carcasau anifeiliaid anwes fel mater o drefn,
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr.
Yn sgil cyfeiriad diweddar at awdurdod lleol arall mewn perthynas â'r
mater hwn, cytunodd Aelodau i ofyn am eglurhad pellach ynghylch pa awdurdodau
lleol nad ydynt yn sganio carcasau anifeiliaid anwes gyda'r bwriad o bosibl i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i
awgrymu ei bod hi'n cyhoeddi canllawiau pellach ar y mater.
Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 117 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 15.11.17 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 707 KB
- 07.12.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 54 KB Gweld fel HTML (3/3) 10 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig, ynghyd â sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at yr
awdurdodau lleol nad ydynt ar hyn o bryd yn sganio carcasau anifeiliaid anwes
fel mater o drefn, gan ofyn am fanylion eu polisïau cyfredol ac a ydynt wedi
ystyried pa mor ymarferol yw cyflwyno sganio fel mater o drefn. Dywedodd y
Pwyllgor hefyd y gallai ddymuno cau'r ddeiseb ar ôl cael yr ymatebion.
Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 117 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- Briff Ymchwil, Eitem 2 PDF 252 KB Gweld fel HTML (2/2) 57 KB
- 19.09.17 Gohebiaeth – gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 137 KB
- 04.10.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 31 KB Gweld fel HTML (2/4) 10 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a fydd yn
ystyried cynnig y deisebydd i Lywodraeth Cymru gyflwyno gofyniad i sganio
carcasau anifeiliaid anwes sy'n cael eu canfod a hysbysu perchnogion mewn
contractau newydd ar gyfer gwasanaethau gwastraff, neu roi canllawiau pellach i
awdurdodau lleol ar y mater hwn.