Cyfarfodydd
Adolygiad capasiti Comisiwn y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/03/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Capasiti Adnoddau’r Comisiwn – y wybodaeth ddiweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am wybodaeth bellach
ynghylch y swyddi a nodwyd i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu strategaeth
gyfathrebu ac ymgysylltu sydd newydd ei chytuno.
Roedd y Comisiynwyr eisoes
wedi cytuno ar yr egwyddor o ddyrannu adnoddau ychwanegol i gefnogi eu
blaenoriaeth strategol o ymgysylltu. Buont yn trafod y wybodaeth bellach
ac ymrwymodd y Llywydd i ddarparu briff ychwanegol i egluro'r berthynas rhwng y
rolau newydd a chyflawni'r strategaeth.
Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
lythyr a anfonwyd at Suzy Davies gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch y Cynllun
Ymadael Gwirfoddol.
Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Ymadael Gwirfoddol
Eitem lafar
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Ymadael Gwirfoddol, a chadarnhawyd y byddai
25 aelod o staff yn gadael o ganlyniad i’r cynllun.
Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Y wybodaeth ddiweddaraf am gapasiti o ran adnoddau'r Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Yn eu cyfarfod diwethaf,
trafododd y Comisiynwyr gynigion i lacio’r cap presennol o 491 o swyddi, er mwyn sicrhau adnoddau
ychwanegol, a hynny’n bennaf i fynd i'r afael â heriau Brexit. Roeddent wedi gofyn am ragor o fanylion am y
swyddi ychwanegol disgwyliedig.
Cytunodd y
Comisiynwyr i ganiatáu'r cam o gynyddu'r gweithlu mewn modd cymedrol a
rheoledig, sef creu hyd at 10 swydd newydd uwchlaw'r 491 presennol, gan
ddechrau gyda'r chwe swydd y cyflwynwyd cais amdanynt eisoes.
Cytunodd y Comisiynwyr y
dylid hysbysu'r Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 04/03/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Capasiti adnoddau'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr y
sefyllfa ddiweddaraf o ran adnoddau staffio. Yn benodol, cafwyd trafodaeth am y
risg a oedd yn wynebu’r sefydliad os na fydd digon o staff i ddiwallu
anghenion, a nodwyd yn flaenorol fel pwysau posibl, yn ymwneud â gwaith Brexit.
Cytunodd y Comisiwn i
awdurdodi swyddogion i drafod a datblygu cynllun busnes ar gyfer cynyddu nifer
y staff fel bod deg mwy na’r uchafswm presennol, a hynny drwy gadw o fewn y
gyllideb bresennol. Byddai angen trafod hyn ymhellach gyda'r Comisiwn a'r
Pwyllgor Cyllid.
Cyfarfod: 24/09/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad Cyfnod 2 yr Adolygiad Capasiti
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16
- Cyfyngedig 17
Cyfarfod: 19/03/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Capasiti
Cofnodion:
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr. Mae
Grŵp Llywio wedi’i ffurfio i ddatblygu argymhellion
yr Adolygiad. Roedd swyddogion hefyd wedi cynnal cyfres o weithdai staff i
drafod yr Adolygiad a’r gwaith parhaus sy’n digwydd, a chafwyd adborth
cadarnhaol gan staff bod y rhain wedi bod yn ddiddorol.
Rhoddwyd
gwybod i’r Comisiynwyr hefyd am y newidiadau a wneir i strwythurau uwch
reolwyr, gyda’r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn dod yn Fwrdd Gweithredol (gwneud
penderfyniadau), a’r Bwrdd Rheoli yn cael ei ailgyfansoddi fel Tîm
Arweinyddiaeth. Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynwyr hefyd y byddai trefniadau dros
dro i ymdrin â chyfrifoldebau ar lefel Cyfarwyddwr ar ymadawiad Cyfarwyddwr
Busnes y Cynulliad.
Nododd y
Comisiynwyr yr adroddiad.
Cyfarfod: 07/02/2018 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 4.)
Cylchoedd Gwaith y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cyfarfod: 07/02/2018 - Fforwm y Cadeiryddion - Y Bumed Senedd (Eitem 3.)
Adolygiad Capasiti
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cyfarfod: 22/01/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adolygiad capasiti staff y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
- Cyfyngedig 27
Cyfarfod: 04/12/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad am yr adolygiad capasiti
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30