Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/09/2017 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth - craffu cyffredinol

Julie James AM, Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Huw Morris, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Simon Jones, Cyfarwyddwr ar gyfer Seilwaith yr Economi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ynghylch nifer y bobl sydd wedi manteisio ar y cyfle i gael gwasanaeth band eang cyflym iawn ers newid y cynllun, gan gynnwys ffigurau ynghylch cyfanswm y ceisiadau a gafwyd a'r gyfradd llwyddiant (cyn ac ar ôl y newidiadau).