Cyfarfodydd

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/01/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (15 Ionawr 2019)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/12/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, gan gytuno i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn nodi eu casgliadau ac er mwyn trefnu sesiwn dystiolaeth ar gyfer tymor yr haf 2019 at ddibenion craffu ar werthusiad terfynol y Rhaglen Ariannu Hyblyg.

 


Cyfarfod: 03/12/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-32-18 Papur 1 – Papur gan Lywodraeth Cymru

PAC(5)-32-18 Papur 2 - Llythyr oddi wrth Tai Cymunedol Cymru

PAC(5)-32-18 Papur 3 - Llythyr oddi wrth Cymorth Cymru

 

Tracey Burke – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Jo-Anne Daniels – Cyfarwyddwr, Cymunedau & Trechu Tlodi, Llywodraeth Cymru

John Howells – Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn fel rhan o'u hymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus; Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi; a John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru.

 

3.2 Cytunodd Tracey Burke i:

·         anfon nodyn yn egluro'r gyllideb ar gyfer y dull dwy grant ar gyfer 2019-20,  ac yn egluro lle y dyrannwyd y £5 miliwn a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer y cynnig gofal plant;

·         gwirio sut y mae adborth ynghylch safbwyntiau awdurdodau lleol yn deillio o'r gwerthusiad interim wedi'i rannu â phob awdurdod lleol;

·         cael trafodaeth gyda'r gwerthuswyr ynghylch a fyddai modd enwi'r saith awdurdod lleol sy'n rhan o'r cynllun peilot, a hynny er mwyn rhoi cyfle i awdurdodau lleol nad ydynt yn awdurdodau braenaru drafod y dulliau a ddefnyddiwyd;

·         anfon rhestr o'r holl grantiau sy'n gysylltiedig â'r dull dau grant ynghyd â'r gyllideb a ddyrennir ar gyfer 2019-20; a

·         rhoi cyngor ar y paratoadau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â'r effaith y gallai Brexit ei chael ar y Rhaglen Cefnogi Pobl.

 

3.3 Yn ogystal, cytunodd Tracey Burke i gysylltu â Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl argymhellion yn deillio o adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cael eu hadlewyrchu'n llawn yn y canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi.

 


Cyfarfod: 01/10/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: llythyr gan Lywodraeth Cymru (24 Awst 2018)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 17/07/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-22-18 Papur 3 - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-22-18 Papur 4 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar y Rhaglen Cefnogi Pobl.

4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o ymatebion i argymhellion yr Adroddiad.

 


Cyfarfod: 23/04/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-11-18 Papur 1 - Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd arno.

 


Cyfarfod: 19/03/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-09-18 Papur 1 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu'r Aelodau yn ystyried yr adroddiad drafft a nodwyd y bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei pharatoi gan ystyried eu sylwadau.

 


Cyfarfod: 26/02/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (8 Chwefror 2018)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y dylid paratoi adroddiad byr.

5.2 Cytunwyd y dylai'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd ynghylch Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Ddigartrefedd gael eu hanfon at Lywodraeth Cymru yn ysgrifenedig.

 


Cyfarfod: 22/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Sesiwn Dystiolaeth 5

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-02-18 Papur 1 – Papur gan Lywodraeth Cymru

 

Tracey Burke - Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

John Howells – Cyfarwyddwr, Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi, John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, ac Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.

3.2 Cytunodd Tracey Burke i:

·       Ganfod a wahoddwyd sefydliadau'r trydydd sector i gymryd rhan yn y gweithdai ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod datblygiad y prosiect Pathfinder

·       Anfon rhestr o'r deg grant sy'n ffurfio'r grant integredig sengl arfaethedig

 

 


Cyfarfod: 15/01/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nodwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad.

 


Cyfarfod: 11/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafodwyd y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 11/12/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn Dystiolaeth 4

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-32-17 Papur 1 - Papur gan Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol

 

Y Cynghorydd Mark Child - Cadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol y Bae Gorllewinol

Rachel Evans - Arweinydd Cefnogi Pobl, Awdurdod Cydgysylltu Dinas a Sir Abertawe

Ian Oliver – Prif Swyddog Comisiynu, Castell-nedd Port Talbot, ac Arweinydd Rhaglen Cefnogi Pobl Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Castell-nedd Port Talbot

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cynghorydd Mark Child, Cadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Western Bay a Rachel Evans, Arweinydd Cefnogi Pobl, Awdurdod Cydlynu Dinas a Sir Abertawe fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 27/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 27/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 3

PAC(5)-30-17 Papur 3 - Papur gan Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent

 

Sam Lewis – Is-gadeirydd, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent

Angela Lee – Cydgysylltydd Datblygiad Rhanbarthol, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sam Lewis, Is-gadeirydd Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent ac Angela Lee, Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol, Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ddadansoddiad o'r costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â’r Rhaglen Cefnogi Pobl a'r grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru sy'n cael eu hystyried ar gyfer y prosiect cyllido hyblyg.

 

 


Cyfarfod: 27/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Brîff y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-30-17 Papur 2 -  Papur gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

Naomi Alleyne – Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Elke Winton – Rheolwr Grŵp - Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Nigel Stannard – Rheolwr y Rhaglen Cefnogi Pobl, Cyngor Dinas Casnewydd (a Chadeirydd Rhwydwaith Gwybodaeth y Rhaglen Cefnogi Pobl)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Elke Winton, Rheolwr Grŵp Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen; a Nigel Stannard, Rheolwr Rhaglen Cefnogi Pobl, Cyngor Dinas Casnewydd (a Chadeirydd y Rhwydwaith Gwybodaeth Cefnogi Pobl) fel rhan o'i ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 20/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gyda'r pryderon a fynegwyd ynghylch y syniad arfaethedig o roi gorau i neilltuo cyllideb y Rhaglen Cefnogi Pobl a'r effaith y gallai hyn ei chael ar yr aelodau o'r gymdeithas sy'n agored i niwed.

5.2 Nododd yr Aelodau fod yr Archwilydd Cyffredinol yn rhagweld cyhoeddi adroddiad ar sut y mae llywodraeth leol yn rheoli'r galw am wasanaethau digartrefedd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd y gellid ei ystyried fel rhan o'r ymchwiliad hwn.

 

 


Cyfarfod: 20/11/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-29-17 Papur 1 – Papur atodol gan Tai Cymunedol Cymru

PAC(5)-29-17 Papur 2 – Papur atodol gan Cymorth Cymru

 

Stuart Ropke – Prif Weithredwr, Tai Cymunedol Cymru

Enid Roberts – Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cwsmeriaid a Chymunedau, Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Katie Dalton – Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru

Rhian Stone – Cyfarwyddwr Gofal a Chefnogaeth Grŵp POBL a Chyfarwyddwr Cymorth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru; Enid Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cwsmeriaid a Chymunedau, Cartrefi Cymunedol Gwynedd; Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru a Rhian Stone, Cyfarwyddwr Gofal a Chymorth yn Grŵp POBL a Chadeirydd Cymorth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i'r Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 23/10/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru

PAC(5)-27-17 Papur 2 - Papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad i'r Rhaglen Cefnogi Pobl

4.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r ymchwiliad ganolbwyntio ar effaith datblygiadau polisi ehangach; trefniadau dosbarthu cyllid a chynllunio ariannol; a monitro a gwerthuso effaith y rhaglen. Cytunodd yr Aelodau hefyd i gynnal ymgynghoriad ysgrifenedig.

 


Cyfarfod: 25/09/2017 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-23-17 Papur 3 – Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(5)-23-17 Papur 3A – Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth ar lafar ar ganfyddiadau ei Adroddiad ar Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 31 Awst 2017.

4.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad ar y mater hwn.