Cyfarfodydd
Cynllunio cyfathrebu
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/05/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Nodiadau ar Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd 9 Mawrth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth am gyfarfod 9 Mawrth.
Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Nodiadau gan Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd, 12 Mai 2022
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad arferol ynghylch cyfarfodydd Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd.
Cyfarfod: 09/05/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Digwyddiadau'r haf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr gynlluniau ar gyfer dychwelyd i
Sioeau'r Haf am y tro cyntaf ers y pandemig a hynny wyneb yn wyneb.
Byddai'r presenoldeb hwn yn un elfen o becyn ehangach o
weithgarwch ymgysylltu fel y nodwyd yn y Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu y
cytunwyd arni.
Nododd y Comisiynwyr
gynlluniau ar gyfer elfen ddigidol gryfach i ategu presenoldeb wyneb yn wyneb a
gofynnwyd am fathau eraill o weithgareddau a digwyddiadau mawr sy'n denu
niferoedd uchel ac a allai fod yn llwybr i ymgysylltu â gwahanol
gynulleidfaoedd.
Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Nodiadau gan Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
nodiadau o gyfarfod cyntaf grŵp cyswllt y pleidiau er gwybodaeth.
Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Gwaith dilynol ar y Tasglu Digidol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Trafododd y Comisiwn
ddatblygiadau mewn perthynas ag argymhelliad a wnaed gan adroddiad y Tasglu
Newyddion a Gwybodaeth Digidol a oedd yn nodi y dylid sefydlu gwasanaeth
gwifren newyddion annibynnol, hyd braich. Trafododd y Comisiynwyr ddatblygiadau
diweddar ym maes y cyfryngau yng Nghymru, a chytunwyd ar yr adeg hon y dylai
Swyddogion y Comisiwn barhau i gefnogi'r gwasanaethau newyddion hyn sy'n dod
i'r amlwg cyn dychwelyd i ystyried a fyddai angen unrhyw gymorth ariannol.
Cyfarfod: 05/03/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Grid Cyfryngau
Oral/presentation
Cyfarfod: 08/02/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Grid Cyfryngau
Cyflwyniad
Cofnodion:
Rhoddodd Non Gwilym drosolwg o'r grid cyfredol a oedd
yn cynnwys gweithgareddau cyfathrebu corfforaethol a busnes i hwyluso gwaith
cynllunio. Roedd Brexit wedi dominyddu'r wythnos, gyda datganiad i'r wasg gan y
Cynulliad ynghylch lansio adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol yn cael llawer o sylw. Roedd llawer o waith wedi bod ynghlwm â
gwneud datganiadau, gan gynnwys y bleidlais i fenywod, is-etholiad Alun a
Glannau Dyfrdwy, y Cynnig Mandad ar ddiwygio etholiadol ac adroddiad y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar wahaniaethu ar sail mamolaeth.
Ddydd Llun 12 Chwefror bydd yr ymgynghoriad ar
ddiwygio etholiadol yn cael ei lansio, gyda chyfres o gyfarfodydd a microsafle
gyda fideos a chyfryngau cymdeithasol yn cael eu paratoi. Nododd Non lwyddiant
y tîm Cyfathrebu wrth ymateb i'r adroddiad digidol o ran sut y cyflawnwyd y
gwaith hwn.
CAMAU I’W CYMRYD:
·
ychwanegu llinell amser
cyfathrebu'r Adolygiad Capasiti a Mis LGBT i'r grid cyfryngau;
·
ymchwilio a ellid
cysylltu'r grid â'r llinell amser
Cyfarfod: 11/01/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)
Grid Cyfryngau
Cyflwyniad electronig
Cofnodion:
Rhoddodd Non Gwilym drosolwg o'r
grid cyfredol a oedd yn cynnwys gweithgareddau cyfathrebu corfforaethol a
busnes i hwyluso gwaith cynllunio. Roedd y Cynulliad wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr wythnos diwethaf, a oedd yn cynnwys nifer o ymweliadau, digwyddiad Facebook Live gyda thros
2,000 o bobl unigolyn yn edrych arno a nifer o sylwadau a chwestiynau, a
lansio'r Adroddiad Lobïo. Er bod yr wythnos ganlynol yn llai beichus, roedd
nifer o ymgynghoriadau’n cael eu lansio, ac roedd adroddiadau pwyllgor i ddod
yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Cyfarfod: 07/12/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)
Grid y Cyfryngau
Cyflwyniad
Cofnodion:
Rhoddodd Non Gwilym drosolwg cyffredinol o’r grid cyfredol a oedd yn nodi gweithgareddau
cyfathrebu corfforaethol a chyfathrebu busnes er mwyn hwyluso gwaith cynllunio.
Yn ystod yr wythnos ganlynol byddai adroddiad y
Panel Arbenigol, y bu llawer o ddiddordeb ynddo, yn cael ei lansio, a byddai
2018 yn flwyddyn brysur iawn, gyda’r Comisiwn yn ymgynghori ar yr adroddiad.
Roedd cynllunio ymlaen llaw yn bwysig iawn, yn
enwedig o ran chwilio am unrhyw bwyntiau i’w hamlygu o fis Ionawr hyd at ganol
mis Chwefror. Nododd y Bwrdd dri mater cyfredol i’w cynnwys yn y grid.
Camau i’w cymryd:
·
Ailddosbarthu’r
linc i’r grid, a’r Penaethiaid Gwasanaethau i roi
gwybod i Non Gwilym os oedd unrhyw beth ar goll.
·
Cyfarfod y Bwrdd
Rheoli ym mis Ionawr i gael ei ymestyn er mwyn cael trafodaeth lawnach.
Cyfarfod: 13/11/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 11)
Grid Cyfryngau
Cyflwyniad
Cofnodion:
Rhoddodd Non Gwilym drosolwg o'r
grid cyfredol a oedd yn cynnwys gweithgareddau cyfathrebu corfforaethol a
busnes i hwyluso gwaith cynllunio. Cafodd llawer o weithgareddau a gynlluniwyd
eu canslo yr wythnos hon, gan gynnwys Senedd@Delyn, a fyddai'n cael ei symud
i'r flwyddyn newydd a lansio adroddiad y Panel Arbenigol, i'w ail-drefnu cyn
diwedd y tymor.
Byddai busnes y Cynulliad yn cychwyn yfory, a
disgwylir llawer o ddiddordeb gan y cyfryngau. Byddai cyllideb y Comisiwn yn
cael ei thrafod ddydd Mercher. Roedd disgwyl i ddeuddeg o adroddiadau pwyllgorau gael eu
cyhoeddi cyn diwedd y tymor ac roedd y timau integredig yn ystyried trefniadau.
Byddai craffu agos iawn yr wythnos hon a gofynnodd
Non i benaethiaid wirio a oedd unrhyw beth ar goll o'r grid.
Cyfarfod: 23/10/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 9)
Y Grid Cyfathrebu
Presentation
Cofnodion:
Rhoddodd Non Gwilym drosolwg o'r
grid cyfredol a oedd yn dangos gweithgareddau cyfathrebu corfforaethol a busnes
i hwyluso'r gwaith cynllunio. Gofynnodd Non i Benaethiaid sicrhau bod eu timau
yn tynnu sylw'r Tîm Cyfathrebu at eitemau posibl o newyddion mor fuan â
phosibl.
Cyfarfod: 18/09/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)
Grid cynllunio'r cyfryngau
Papur i’w nodi
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
1.1
Cyflwynodd Non Gwilym y grid i'r Bwrdd, gan egluro y bwriedir iddo ddarparu
rhagolwg o ymrwymiadau'r tîm Cyfathrebu, gan gynnwys cyfnodau penodol o bwysau,
a hynny hyd at ddiwedd 2017. Nododd Non y byddai'r grid yn dibynnu ar
ddiweddariadau rheolaidd gan feysydd gwasanaeth er mwyn iddo fod yn offeryn
defnyddiol a chytunodd y Bwrdd i drafod ymhellach y ffordd fwyaf priodol i
sicrhau y caiff y ddogfen ei rhannu'n fwy hwylus at ddibenion cynllunio.
1.2
Cydnabu'r Bwrdd i'r Cynulliad gael ei ddangos mewn goleuni da yn sgil
digwyddiadau'r haf a dywedwyd y byddai'r grid yn helpu i sicrhau na châi cyfleoedd
eu colli yn y dyfodol drwy ddarparu trosolwg o weithgareddau ar lefel
strategol.
1.3
CAMAU
I'W CYMRYD
· Y wybodaeth ddiweddaraf am y grid cyfathrebu i
gael ei hanfon at Non Gwilym