Cyfarfodydd
NDM6530 - Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb
NDM6530 Jane Hutt (Bro
Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Fframwaith
Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i waith yn
cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws Cymru.
'Fframwaith
Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb'
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi, er y bu cynnydd cyson yng nghyfanswm nifer y
troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi
dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i siarad am eu profiad.
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cod ymarfer newydd Llywodraeth y DU ar
gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig mewn
perthynas â dileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar-lein sy'n bwlio, sy'n
fygythiol neu'n fychanol.
Llywodraeth
y DU - 'Internet Safety Strategy Green Paper' (Saesneg yn unig)
Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am gydnabod bod troseddau a gyflawnir yn erbyn
pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn droseddau casineb.
Gwelliant 4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu troseddau casineb
at y strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig.
'Llywodraeth Cymru
- Cynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig'
Gwelliant 5. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â
radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde, gan nodi gweithgarwch
terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde.
Gwelliant 6. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o swyddogion
cymorth i ddioddefwyr.
Gwelliant 7. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hyfforddiant i
athrawon ar sut i ddelio â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chasineb mewn
ysgolion, a chymryd camau i atal ysgolion rhag cadw hyn yn gudd.
Gwelliant 8. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymunedol
yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma pryd y mae troseddau casineb yn
erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.56
NDM6530 Jane Hutt (Bro
Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynnydd a wnaed
mewn perthynas â Fframwaith Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb Llywodraeth
Cymru o ganlyniad i waith yn cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws
Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi, er y bu cynnydd
cyson yng nghyfanswm nifer y troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod yr
elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr
i siarad am eu profiad.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cod ymarfer
newydd Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau dull
gweithredu cydgysylltiedig mewn perthynas â dileu neu fynd i'r afael â chynnwys
ar-lein sy'n bwlio, sy'n fygythiol neu'n fychanol.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am gydnabod bod
troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn droseddau
casineb.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ychwanegu troseddau casineb at y strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
22 |
39 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fynd i'r afael â radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde,
gan nodi gweithgarwch terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
2 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu mwy o swyddogion cymorth i ddioddefwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
3 |
23 |
40 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflwyno hyfforddiant i athrawon ar sut i ddelio â digwyddiadau sy'n
gysylltiedig â chasineb mewn ysgolion, a chymryd camau i atal ysgolion rhag
cadw hyn yn gudd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
3 |
23 |
40 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella cydlyniant cymunedol yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma
pryd y mae troseddau casineb yn erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
3 |
0 |
40 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6530 Jane Hutt (Bro
Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd a
wnaed mewn perthynas â Fframwaith Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb
Llywodraeth Cymru o ganlyniad i waith yn cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid
ar draws Cymru.
2. Yn nodi, er y bu
cynnydd cyson yng nghyfanswm nifer y troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod
yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi dweud bod angen gwneud mwy i annog
dioddefwyr i siarad am eu profiad.
3. Yn croesawu cod
ymarfer newydd Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau
dull gweithredu cydgysylltiedig mewn perthynas â dileu neu fynd i'r afael â
chynnwys ar-lein sy'n bwlio, sy'n fygythiol neu'n fychanol.
4. Yn galw am gydnabod
bod troseddau a gyflawnir yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn
droseddau casineb.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i fynd i'r afael â radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde,
gan nodi gweithgarwch terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymunedol
yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma pryd y mae troseddau casineb yn
erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
0 |
40 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.