Cyfarfodydd
Sesiwn Graffu ar waith y Gweinidog – Hawliau Plant a Phobl Ifanc
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/10/2017 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Hawliau Plant a Phobl Ifanc
Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 3 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/1)
Cofnodion:
2.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran dull Llywodraeth Cymru o
ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ei deddfwriaeth, ei
pholisïau a'i harferion.
2.2
Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth neu eglurhad i'r
Pwyllgor ynghylch y canlynol:
·
Sefydlu
mecanwaith ffurfiol, fel Pwyllgor Cynghori Pobl Ifanc, i wrando ar farn plant a
phobl ifanc fel rhan o'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd;
·
Ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddarpariaeth mynediad agored cyffredinol i bobl ifanc,
ledled Cymru.
2.3 Ymrwymodd y Cadeirydd i ddarparu unrhyw
enghreifftiau i'r Prif Weinidog o'r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu cael wrth
gael lleoliadau profiad gwaith, a gafwyd drwy waith ymgysylltu y Pwyllgor.