Cyfarfodydd

P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy’n ymgymryd ag addysg bellach

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb, gan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu'r camau y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb o fis Medi 2020. Diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am godi'r mater hwn a llongyfarchodd hi ar lwyddiant y ddeiseb.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn iddi ailystyried a ellid cyflwyno'r newid hwn o fis Medi 2019.

 

 


Cyfarfod: 19/03/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y camau gweithredu perthnasol yn 'Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' Llywodraeth Cymru a chytunodd i:

  • aros am sylwadau gan y deisebydd ynglŷn â'r ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru; ac
  • ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o fanylion am yr ymrwymiad i weithio tuag at newidiadau i'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r Gronfa Ariannol Wrth Gefn er mwyn galluogi ceiswyr lloches i fod yn gymwys o dymor Medi 2020, a gofyn a ellid gwneud hyn o dymor 2019.

 

 


Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy’n ymgymryd ag addysg bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyfredol a phenderfyniadau dilynol a wneir gan y Gweinidog cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 13/03/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf yng ngoleuni'r awgrym bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ystyried y meini prawf cymhwysedd ar gyfer LCA, yn dilyn cyfarfod diweddar rhwng Arweinydd y Tŷ a Chyngor Ffoaduriaid Cymru.

 

 


Cyfarfod: 05/12/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • aros am farn y deisebydd ar yr ymateb gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Ffoaduriaid Cymru i ofyn eu barn ar y materion a godwyd yn y ddeiseb i lywio trafodaethau'r Pwyllgor.