Cyfarfodydd
NDM6571 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 22/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6571 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad
y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y
lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion.
2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y
darperir yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u
teuluoedd yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cymorth y
mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u
teuluoedd yng Nghymru, sy’n cynnwys:
a) Dull cydweithredol y
grŵp arbenigol amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar
gymuned y Lluoedd Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r
materion hynny;
b) y £100,000 o gyllid
ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a
gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd mewn angen;
c) eglurder ynglŷn
â’r ystod eang o wasanaethau sydd ar gael yn unol â’i dogfennau polisi
allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; ac
d) penodi Swyddogion
Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y
Cyfamod ar waith.
Gwelliant 2 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am
weithredu’r Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.
Gwelliant 3 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r
penderfyniad i gynnwys cwestiynau am wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol
o Gysgu Allan ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6571 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad y
Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y
lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir
yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng
Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
32 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei
ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru, sy’n
cynnwys:
a) Dull cydweithredol y grŵp arbenigol
amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd
Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hynny;
b) y £100,000 o gyllid ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr
GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd
mewn angen;
c) eglurder ynglŷn â’r ystod eang o wasanaethau sydd
ar gael yn unol â’i dogfennau polisi allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru
a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; ac
d) penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i
sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y Cyfamod ar waith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf
i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu’r Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer
Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r penderfyniad i gynnwys cwestiynau am
wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6571 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad y
Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid o effaith cyfamod y
lluoedd arfog yng Nghymru ac yn nodi ei argymhellion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan yr adolygiad i sicrhau y darperir
yr holl gymorth sydd ar gael i bersonél milwrol, cyn-filwyr a'u teuluoedd yng
Nghymru.
3. Yn croesawu’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei
ddarparu ar gyfer personél milwrol, cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru, sy’n
cynnwys:
a) Dull cydweithredol y grŵp arbenigol
amlasiantaethol o ystyried y materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd
Arfog, a’r modd yr eir ati ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hynny;
b) y £100,000 o gyllid ychwanegol i wasanaeth Cyn-filwyr
GIG Cymru er mwyn cynyddu ei gapasiti a gwella’i allu i helpu cyn-filwyr sydd
mewn angen;
c) eglurder ynglŷn â’r ystod eang o wasanaethau sydd
ar gael yn unol â’i dogfennau polisi allweddol: y Pecyn Cymorth, Croeso i Gymru
a’r Llwybr Tai Cenedlaethol; ac
d) penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog trwy Gymru i
sicrhau cysondeb yn y modd y rhoddir y Cyfamod ar waith.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am weithredu’r Llwybr Tai
Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog.
5. Yn croesawu’r penderfyniad i gynnwys cwestiynau am
wasanaeth yn y lluoedd arfog yn Cyfrif Cenedlaethol o Gysgu Allan ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r data a gasglwyd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.