Cyfarfodydd
Polisi Urddas a Pharch
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 11/12/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diweddariad a Chanlyniadau Arolwg Urddas a Pharch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr
ddiweddariad ar y gwaith sydd wedi digwydd ers i'r Comisiwn ystyried adolygiad
o'r fframwaith Urddas a Pharch ym mis Mehefin 2023, a chytunodd ar nifer o argymhellion,
a chanfyddiadau'r arolygon Urddas a Pharch a gynhaliwyd yn ddiweddar o ran
Aelodau, staff cymorth yr Aelodau a staff y Comisiwn.
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad cynnydd ar weithgarwch a gynhaliwyd ers
mis Mehefin 2023 ac adroddiad ar ganlyniadau arolwg Urddas a Pharch 2023 y
Senedd. Gofynnodd y Comisiynwyr i rywfaint o feincnodi gael ei gynnal a’u barn
y byddai dealltwriaeth o arfer da o amgylcheddau seneddol eraill yn
ddefnyddiol.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid rhannu canfyddiadau'r
arolwg Urddas a Pharch gyda'r Bwrdd Taliadau Annibynnol a'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad,
ac y dylid cyhoeddi'r adroddiad ynghyd â gohebiaeth fewnol ac allanol briodol.
Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad Adolygu Urddas a Pharch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad ar
ganlyniad yr adolygiad urddas a pharch.
Clywodd y Comisiynwyr am gynlluniau rhai grwpiau i orfodi cyfranogiad mewn
hyfforddiant urddas a pharch a chytunwyd ar werth eirioli bod yr hyfforddiant a
gynigir gan y Comisiwn yn cael ei gymryd gan yr holl Aelodau a'u staff yn
ddieithriad.
Awgrymwyd y dylid ystyried urddas a pharch wrth i staff ryngweithio ar
ddechrau ac ar ddiwedd eu cyflogaeth. Trafodwyd hefyd bwysigrwydd darparu
gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bawb y mae materion sy'n
gysylltiedig ag urddas a pharch yn effeithio arno, ac amlygwyd ei bod wedi bod
yn ddefnyddiol pan oedd gwybodaeth yn cael ei harddangos yn gorfforol ar yr
ystâd.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr adroddiad, ei wyth argymhelliad a'r camau nesaf; yn benodol:
· ailddatgan eu hymrwymiad i gefnogi a datblygu diwylliant
o urddas a pharch ar draws y Senedd;
· gwahodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd i ystyried
canfyddiadau'r adolygiad, gan gynnwys y dylai'r Senedd roi Datganiad trosfwaol
ar y cyd ar Urddas a Pharch yn lle’r polisi tair rhan presennol;
· cytuno ar ddatganiad trosfwaol drafft ar y cyd i'w
ystyried gan y Pwyllgor Safonau;
· camau i'w cymryd o fewn y Comisiwn ynghyd â
chyfrifoldebau clir am arweinyddiaeth a gweithgareddau; ac
· eirioli ymhlith eu grwpiau, a’r Aelodau annibynnol, fod
yr hyfforddiant urddas a pharch a gynigir gan y Comisiwn yn cael ei gymryd gan
yr holl Aelodau a'u staff yn ddieithriad.
Cytunodd y Comisiynwyr
y byddai'r adroddiad yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a
fyddai'n cyhoeddi'r adroddiad fel rhan o'i waith ar y mater hwn, y Comisiynydd
Safonau, y Bwrdd Taliadau a'r Grŵp Cyswllt Gwleidyddol.
Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Polisi Urddas a Pharch - adolygiad tair blynedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Rhoddwyd gwybodaeth i'r Comisiynwyr am waith a ddechreuwyd i gynnal
adolygiad ym mlwyddyn tri o Bolisi Urddas a Pharch y Senedd, yn unol â'r
ymrwymiad yn y polisi.
Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnal ymarfer ymgynghori ddechrau 2022 a fydd yn
gofyn i Aelodau, eu staff cymorth a staff y Comisiwn am eu barn am y polisi a'r
broses gyfredol.
Gwnaethant gytuno
hefyd i ohirio'r arolwg Urddas a Pharch blynyddol 12 mis tan fis Mai/Gorffennaf
2022 unwaith y caiff polisi wedi'i adnewyddu ei gytuno.
Cyfarfod: 28/09/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Urddas a Pharch - adroddiad ar yr arolwg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
Ystyriodd y
Comisiynwyr gynnwys y trydydd adroddiad sy’n adolygu perfformiad yn erbyn
ymrwymiad y Senedd i Urddas a Pharch, yn dilyn arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym
mis Mehefin 2020. Wrth wneud hynny, cytunodd y Comisiynwyr y byddai'n amserol
adolygu'r polisi yn ei gyfanrwydd – yn barod ar gyfer y Chweched Senedd yn
enwedig – ac ochr yn ochr â gwaith y Pwyllgor Safonau o adolygu'r Cod
Ymddygiad. At hynny, cadarnhaodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth i feysydd gwaith y
dyfodol sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Caiff yr adroddiad ei
gyhoeddi ar ôl ei gwblhau.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad ar Urddas a Pharch
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau'r arolwg Urddas a Pharch a gyhoeddwyd yn
ddiweddar. Fe wnaethant drafod y duedd gadarnhaol ac roeddent yn gefnogol i'r
cynlluniau i lansio ymgyrch 'hawl i herio', gan gytuno i roi eu cefnogaeth
bersonol. Trafodwyd pwysigrwydd rhoi hyder i bobl ar bob lefel ddeall lle mae
ymddygiadau yn amhriodol.
Cyfarfod: 01/04/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Urddas a Pharch
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion
adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir'.
Nododd y Comisiynwyr hefyd y bydd yr Arolwg Urddas a Pharch blynyddol
nesaf yn cael ei anfon at Aelodau'r Cynulliad, eu staff a staff y Comisiwn ar
ôl toriad y Pasg.
Trafododd y Comisiynwyr
sut yr oeddent am ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Safonau i ganiatáu i bobl
roi gwybod am ddigwyddiadau’n ddienw.
Cytunwyd y byddent yn ailystyried y mater yn dilyn yr arolwg Urddas a
Pharch sydd ar y gweill.
Trafodwyd hefyd
ganlyniadau'r ymarfer ‘siopa dirgel’ a gynhaliwyd ddiwedd 2018, a nodwyd y
wybodaeth a ddaeth i law.
Cytunodd y Comisiynwyr i
ymateb i'r Pwyllgor yn nodi'r penderfyniad i ailystyried yr argymhelliad i
ganiatáu i bobl roi gwybod am ddigwyddiadau’n ddienw, a rhannu'r tabl diweddaru
a'r adroddiad ar yr ymarfer siopa dirgel, gan ddisgwyl y bydd yr ymateb hwn yn
cael ei gyhoeddi.
Cyfarfod: 24/09/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad y Pwyllgor Safonau - Creu'r Diwylliant Cywir
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
- Cyfyngedig 27
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
Cyfarfod: 16/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 16/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 16/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl ar bolisi Urddas a Pharch y Cynulliad
NDM6724
Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo polisi Urddas a Pharch Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
2. Yn nodi'r canllawiau ar gyfer polisi Urddas a Pharch
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Polisi
Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Polisi
Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Canllawiau cysylltiedig ar
ymddygiad amhriodol
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.34
Yn unol â Rheol Sefydlog 11.15(ii), cynhaliwyd y
bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon yn ystod y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6724 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cymeradwyo polisi Urddas a Pharch Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
2. Yn nodi'r canllawiau ar gyfer polisi Urddas a Pharch
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
2 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 04/12/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cynllun gweithredu urddas a pharch