Cyfarfodydd
NDM6617 Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni
NDM6617 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun
Cyflawni.
Ein
Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu:
a) bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul
pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r
Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o
gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn
y DU;
b) bod adroddiad Sefydliad Bevan "Tough Times Ahead?
What 2018 might hold for Wales”, yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y
DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o
fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer
na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant);
c) y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd
Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019.
Sefydliad
Bevan - "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales (Saesneg yn
unig)
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn
siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol:
Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru;
Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu
fynd yn ei flaen.
Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad
"Creu Sbarc", i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau
cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad
Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth
gyda'i gilydd.
Gwelliant 4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen am fuddsoddiad strategol ym mhob
rhan o Gymoedd De Cymru, gan gynnwys y Cymoedd gorllewinol.
Yn credu mai dim ond gyda lefel ddigonol o gyllid y caiff
y Cynllun Cyflawni ei gyflawni'n llawn.
Yn credu y bydd angen corff cyflenwi trosfwaol i fonitro,
hyrwyddo a gweithredu'r Cynllun Cyflawni.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.15
NDM6617 Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cyhoeddi Ein
Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu:
a) bod gwerth nwyddau a
gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn
is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU,
ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i
Ynys Môn fel yr isaf yn y DU;
b) bod adroddiad
Sefydliad Bevan "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales”, yn
nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y
flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny
o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful
(7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant);
c) y gohiriwyd cyflwyno
rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill
2019.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a
chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a
gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd
sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi er mwyn cael
ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad "Creu Sbarc", i greu busnesau mwy
proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd
angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac
entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant sy’n
weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen am
fuddsoddiad strategol ym mhob rhan o Gymoedd De Cymru, gan gynnwys y Cymoedd
gorllewinol.
Yn credu mai dim ond
gyda lefel ddigonol o gyllid y caiff y Cynllun Cyflawni ei gyflawni'n llawn.
Yn credu y bydd angen
corff cyflenwi trosfwaol i fonitro, hyrwyddo a gweithredu'r Cynllun Cyflawni.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
3 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6617 Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi Ein
Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni.
2. Yn gresynu:
a)
bod gwerth
nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol
Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod
ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn
ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU;
b)
bod
adroddiad Sefydliad Bevan "Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales”,
yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros
y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau
hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr
Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant);
c)
y gohiriwyd
cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan
fis Ebrill 2019.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a
chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a
gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd
sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen.
4. Yn nodi er mwyn cael
ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad "Creu Sbarc", i greu busnesau mwy
proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd
angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac
entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd.