Cyfarfodydd
Senedd Business
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Trefniadau cyflwyno a gosod ar ôl yr etholiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes bod y Swyddfa Gyflwyno yn parhau i fod ar gau, ac ni fydd yn
derbyn unrhyw fusnes tan ar ôl Cyfarfod Llawn cyntaf y Chweched Senedd, ar
wahân i dderbyn unrhyw fusnes lle mae’r amseru’n hanfodol neu ffurflenni
cofrestru buddiannau, y gellir eu cyflwyno o 7 Mai ymlaen.
Nododd y
Pwyllgor Busnes hefyd:
·
caiff cwestiynau ysgrifenedig a
gyflwynir o hynny ymlaen eu cyhoeddi yn y ffordd arferol, gan nodi mai'r
dyddiad olaf ar gyfer eu hateb fydd pum niwrnod gwaith ar ôl iddynt gael eu
cyflwyno;
·
y caiff cwestiynau ysgrifenedig a
gyflwynir i Lywodraeth Cymru eu cyflwyno i’w hateb gan y Prif Weinidog, a fydd
yn penderfynu pwy ddylai eu hateb, hyd nes y penodir Cabinet newydd; ac
·
y caiff cwestiynau ysgrifenedig a
gyflwynir i Gomisiwn y Senedd eu cyflwyno i’w hateb gan y Llywydd.
Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 02/03/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) - Effaith ar Fusnes y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes:
·
mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol
y byddai'r Senedd yn cael ei hadalw am faterion nad ydynt yn gysylltiedig â'r
Bil;
·
y dylai holl fusnes pwyllgorau’r
Senedd ddod i ben yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad;
·
y dyddiadau cau ar gyfer gosod
dogfennau, derbyn Cwestiynau Ysgrifenedig ac eitemau eraill o fusnes a
gyflwynwyd, ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw adalw’r Senedd;
·
y gall y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gwrdd yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad er mwyn
ystyried rheoliadau sy'n ymwneud â Coronafeirws (os ydynt yn ddarostyngedig i
adalw’r Senedd) neu ohirio etholiadau 2021 yn unig; ac
·
y dylid gwneud penderfyniadau
ynghylch busnes y Senedd yn ystod unrhyw wythnosau ychwanegol o'r Pumed Senedd
yn dilyn unrhyw benderfyniad i ohirio'r etholiad.
Nododd y
Pwyllgor hefyd:
·
y broses ar gyfer gohirio'r
etholiad;
·
mai’r dyddiad cau ar gyfer unrhyw
newidiadau i'r Gofrestr Buddiannau yw 6.00pm dydd Mercher 28 Ebrill;
·
bwriad y Llywydd i gau’r system ddeisebau
yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad, (yn ogystal ag yn ystod y diddymiad);
·
bwriad y Llywydd i gyfyngu ar
weithgareddau Grwpiau Trawsbleidiol ar ôl 7 Ebrill, y dyddiad cau o 6.00pm dydd
Mercher 28 Ebrill ar gyfer cyflwyno dogfennaeth yn ymwneud â gweithgareddau
Grwpiau Trawsbleidiol, ac y bydd yr holl Grwpiau Trawsbleidiol yn cael eu
dadgofrestru'n awtomatig ar ddechrau’r diddymiad (hanner nos ar 29 Ebrill).
Cyfarfod: 24/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad Nadolig 2020
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer gosod dogfennau yn ystod cyfnod y
Nadolig, gan gynnwys cytuno ar y cynnig i glercod ar ddyletswydd fod ar alwad i
gyhoeddi unrhyw ddogfennau a osodir rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Cadarnhaodd
y Pwyllgor hefyd y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn
ystod wythnos gyntaf y tymor a’r trefniadau ar gyfer cyflwyno gwelliannau i
filiau.
Cytunodd y
Pwyllgor hefyd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig.
Diolchodd y
Trefnydd i’r Comisiwn am roi trefniadau ar waith i ganiatáu i’r clercod ar
ddyletswydd ymdrin ag unrhyw faterion yn ymwneud â Brexit neu Covid yn ystod y
cyfnod y bydd y Senedd ar gau.
Cyfarfod: 24/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 03/11/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Pwyllgor y Rhanbarthau - Grŵp Cyswllt y DU
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai'r Llywydd enwebu David Rees a Russell George yn aelod a
dirprwy, yn eu drefn honno, o Grŵp Cyswllt Pwyllgor Rhanbarthau'r DU ar
gyfer gweddill y Senedd hon.
Cyfarfod: 20/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Dethol gwelliannau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
Unrhyw Ddethol
Gwelliannau eraill
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y canllawiau diwygiedig, yn amodol ar y newidiadau y
cytunwyd arnynt i'r drafft mewn perthynas â rheoli amser a chymorth.
Cyfarfod: 20/10/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Trefniadau ar gyfer busnes y Senedd yn nhymor yr hydref
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i drefnu seibiannau yfory ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ac ar
ôl y Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn
galluogi Aelodau i gyfnewid yn y Siambr.
Penderfynodd
y Pwyllgor y byddai’n gofyn i'r Aelodau Annibynnol gytuno pryd y byddent yn
bresennol yn y Siambr, ac os na allant benderfynu rhyngddynt, yna gellir cynnal
pleidlais arnynt.
Nododd y
Pwyllgor y bydd diweddariad ar opsiynau ar gyfer cynyddu nifer yr Aelodau sy’n
gallu bod yn bresennol yn y Siambr ar unrhyw un adeg yn cael ei ddarparu ar ôl
cyfarfod y Comisiwn ddiwedd mis Medi; a hefyd
nododd y
trefniadau ar gyfer treialu cyfarfodydd
hybrid o ran pwyllgorau, fel y nodir yn yr Atodiad i’r papur.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddai'n ddefnyddiol cael rhagolwg hirach o fusnes y
llywodraeth a busnes nad yw’n fusnes y llywodraeth os yw'n bosibl, er mwyn
helpu Aelodau i gynllunio eu presenoldeb.
Cyfarfod: 14/09/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf 2020
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 33
Cofnodion:
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer
cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod cyfnod toriad yr haf a chytunwyd ar y
trefniadau ar gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig.
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Dyddiadau Toriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 36
Cofnodion:
Cadarnhaodd y Pwyllgor
Busnes ddyddiadau toriad hanner tymor yr Hydref a'r Nadolig ar gyfer 2020 a
chytunodd ar ddyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a'r Pasg 2021.
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Amserlen y Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i ddychwelyd i Gyfarfod Llawn ddwywaith yr wythnos ar brynhawn Mawrth a
phrynhawn Mercher, a chytunwyd ar amserlen ddrafft y pwyllgorau.
Cadarnhaodd y Llywydd y
byddai'r Comisiwn yn ystyried materion fel faint o Aelodau a allai fod yn
bresennol yn yr adeilad, a defnydd posibl o ystafelloedd eraill, cyn tymor yr
hydref. Byddai hefyd yn ystyried a oedd modd darlledu mwy na dau bwyllgor ar yr
un pryd yn y dyfodol.
Cyfarfod: 13/07/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Senedd
Cyfarfod: 27/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Penderfyniadau yn codi o weithdrefnau brys
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
Cofnodion:
Yn y
cyfarfod yr wythnos diwethaf, cytunodd y Rheolwyr Busnes i argymell creu Rheol
Sefydlog 34 newydd, i ddarparu ar gyfer gweithdrefnau brys yn ymwneud â pharhad
busnes yn ystod y sefyllfa bresennol. Cytunodd y Cynulliad i'r Rheol Sefydlog
newydd ddydd Mawrth, a gwnaeth y Pwyllgor Busnes y penderfyniadau canlynol yn
unol â'r darpariaethau newydd:
Pleidleisio
yn y Cyfarfod Llawn a Cworwm:
Mae
Rheolau Sefydlog 34.9 a 34.10 yn darparu ar gyfer pleidleisio wedi'i bwysoli yn
y Cyfarfod Llawn, a chworwm gostyngedig o 4. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai
unrhyw bleidleisiau yn y Cyfarfod Llawn barhau ar y sail hon nes bydd hysbysiad
pellach.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes, lle defnyddir pleidleisio wedi'i bwysoli, y cynhelir y
pleidleisiau trwy alw rhestr bresenoldeb, am resymau'n ymwneud ag ymarferoldeb
a thryloywder.
Hygyrchedd
y Cyfarfod Llawn:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes, ar gyfer
cyfarfodydd rhithwir, y dylid llacio'r gofyniad i ddarlledu yn unol â Rheol
Sefydlog 34.16. Fodd bynnag, cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid sicrhau bod
recordiad o'r cyfarfod ar gael trwy sianeli darlledu arferol y Cynulliad cyn
gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod, a bod cofnod o'r trafodion yn cael ei
gyhoeddi fel arfer.
Cwestiynau
Llafar y Cynulliad:
Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.18, cytunodd y Pwyllgor Busnes na ddylid trefnu unrhyw
Gwestiynau Llafar y Cynulliad nes y rhoddir hysbysiad pellach.
Ystyried
Offerynnau Statudol:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai Rheolau
Sefydlog 21.2 a 21.3 yn cael eu datgymhwyso ac y byddai'r Cynulliad yn ymgymryd
ag unrhyw swyddogaethau perthnasol hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach. Bydd
swyddogion yn darparu nodyn ar sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol ar gyfer
y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 27/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 23/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 49
Cofnodion:
Er mwyn hwyluso busnes hanfodol yn ystod yr achosion o
COVID-19, roedd y mwyafrif o Reolwyr Busnes o blaid Senedd frys lai ar gyfer
cyfarfodydd y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bwysoli
pleidleisiau, ar fodel y Pwyllgor Busnes. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i weithio gyda’u grwpiau er mwyn lleihau
niferoedd ymhellach (6 llywodraeth, 3 Ceidwadwyr, 2 Plaid Cymru, 1 Brexit), a
lleihau’r cworwm ar gyfer y Cyfarfod Llawn i 4. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i
argymell bod angen diwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn hwyluso’r holl
benderfyniadau hyn, a chrynhoi’r holl Reolau Sefydlog newydd a brys cyfredol
mewn un Rheol Sefydlog newydd Rhif 34.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai’r Llywydd ysgrifennu
at aelodau annibynnol yn eu hysbysu bod y grwpiau gwleidyddol bellach yn dogni
ar bresenoldeb yn y Cyfarfod Llawn, a’u hanog i ddilyn y drefn honno. Bydd y
Llywydd hefyd yn nodi y bydd yn galw Aelodau annibynnol yn gymesur â’u
cynrychiolaeth.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ganslo toriad y Pasg, a
threfnu Cyfarfod Llawn bob dydd Mawrth am y dyfodol agos; y Pwyllgor Busnes
fydd yn penderfynu bob dydd Gwener cyn hynny a fydd pob Cyfarfod Llawn yn cael
ei gynnal. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i argymell atal y rhannau hynny o’r
Rheolau Sefydlog sy’n ei gwneud yn ofynnol i Gwestiynau i’r Prif Weinidog,
Cwestiynau Llafar i’r holl Weinidogion a Chwestiynau i’r Comisiwn gael eu
cynnal bob wythnos / pedair wythnos. Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar y Cwestiynau
Ysgrifenedig, ond bydd hyn yn cael ei adolygu.
Gofynnodd y Llywydd i swyddogion ganfod a fyddai’n bosibl
cynnal cyfarfod brys o’r Senedd o bell.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i argymell newidiadau i’r
Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu’r Llywydd i alw’r Senedd yn ôl gyda chytundeb
y Pwyllgor Busnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i argymell newidiadau i’r
Rheolau Sefydlog er mwyn dileu’r gofyniad i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad ystyried offerynnau statudol a chyflwyno adroddiad arnynt.
Gallai’r Senedd frys drafod unrhyw wybodaeth y byddai’r Pwyllgor wedi’i gael
fel arfer gan swyddogion. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd na ddylai’r
pwyllgorau gwrdd bellach.
Cyfarfod: 23/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 18/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 18/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
Trefniadau Busnes Dros Dro mewn ymateb i Fesurau Coronafeirws
Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Senedd Clwyd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 58
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar yr amserlen amlinellol arfaethedig ar gyfer yr wythnos yn
cychwyn ar 8 Mehefin, sy'n gyson ag amserlenni arferol y pwyllgorau a'r
Cynulliad, y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Busnes. Cytunwyd hefyd i gynnal y
gymhareb arferol o fusnes y llywodraeth a busnes nad yw'n fusnes y llywodraeth ar
gyfer y ddau Gyfarfod Llawn, ar 9 a 10 Mehefin.
Trafododd
y Rheolwyr Busnes opsiynau ar gyfer y mathau o fusnes, nad yw'n fusnes y
llywodraeth, a gaiff ei amserlennu yn ystod y ddau Gyfarfod Llawn a gaiff eu
cynnal yng ngogledd Cymru ar 9 a 10 Mehefin a chytunwyd i:
- amserlennu dadl y Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu ond gan ofyn i'r Pwyllgor a fyddai'n fodlon â slot
30 munud;
- trefnu Dadl Aelod a gwahodd Aelodau i
gyflwyno cynigion i'w dewis;
- cynnal pleidlais Dadl Fer bwrpasol ar
gyfer yr wythnos honno, yn hytrach na'i chynnwys yn y balot tymhorol;
- amserlennu 60 neu 90 munud o amser i
wrthblaid, gyda grwpiau gwrthbleidiau i drafod y tu allan i'r Pwyllgor
Busnes sut y gallai'r amser hwnnw gael ei ddyrannu a'i ddefnyddio.
Cyfarfod: 10/03/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Senedd Clwyd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 63
Cofnodion:
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a
chytunwyd i drafod â'u grwpiau a chynrychiolwyr y Comisiwn i ganfod a oes awydd
i ymestyn yr amserlen arfaethedig i gynnwys dydd Iau, a/neu newid yr amseroedd
a ddyrennir ar gyfer y cyfarfod llawn. Bydd y Rheolwyr Busnes yn dychwelyd at y
papur ar ôl hanner tymor.
Cyfarfod: 11/02/2020 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Dyddiadau Toriad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Business
Managers confirmed the recess dates for Whitsun Half Term and Summer Recess
2020, and agreed the provisional recess dates for October Half Term and
Christmas Recess 2020. They noted that the fact of Christmas and New Year’s Day
falling on a Friday meant that the recess period would fall later than has
recently been the case.
Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 26/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Trefniadau Cyflwyno
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 73
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y cyfarfod llawn a
gwelliannau yn ystod cyfnod toriad y Nadolig a chytunwyd ar y trefniadau ar
gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad.
Cyfarfod: 26/11/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 02/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 02/07/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 80
Cofnodion:
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y
cyfarfod llawn yn ystod cyfnod toriad yr haf a chytunwyd ar y trefniadau ar
gyfer cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad.
Cyfarfod: 18/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Pwyllgorau
Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 85
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur, a chytunodd Caroline Jones i gadarnhau dewisiadau
plaid Brexit ar ôl eu cyfarfod grŵp y bore yma.
Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 04/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Llythyr gan Dai Lloyd AC
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 90
Cofnodion:
Ar gais yr
Aelod, cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer 19
Mehefin mewn perthynas â Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y Gymraeg mewn
Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
Cyfarfod: 04/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 93
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i leihau maint y saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth
wyth-Aelod i chwe Aelod yr un. Gofynnwyd i swyddogion ysgrifennu at Blaid
Brexit ac Aelodau Annibynnol i ofyn am eu dewisiadau ar gyfer y lleoedd sy'n
weddill ar Bwyllgorau.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes hefyd y dylai dyraniad amser y Cyfarfod Llawn i grwpiau
gwrthbleidiau ddilyn y gymhareb 11:10:4, er mwyn cynnal adlewyrchiad manwl o
faint cymharol y grwpiau.
Nododd y Rheolwyr Busnes fod y Llywydd wedi cytuno i
ganiatáu i Grŵp Brexit ofyn dau gwestiwn Arweinydd i'r Prif Weinidog, ac
enwebu tri Gweinidog i ofyn dau gwestiwn llefarydd iddynt.
Cyfarfod: 04/06/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 98
Cofnodion:
Business
Managers discussed the paper and agreed to continue discussions outside of the
Committee and return to the matter at the next meeting.
Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 21/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Llythyr gan Mick Antoniw: Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 103
Cofnodion:
The Committee considered the letter
and received oral legal and procedural advice at the meeting of 21 May.
Business Managers agreed to defer a decision until their next meeting and to
consult with their groups in the meantime.
Cyfarfod: 14/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 14/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Aelodaeth Pwyllgorau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 108
- Cyfyngedig 109
Cofnodion:
Effaith
newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau.
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i barhau â thrafodaethau y tu allan i'r
Pwyllgor a dychwelyd at y mater yr wythnos nesaf.
Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Effaith newidiadau diweddar i aelodaeth grwpiau ar bwyllgorau.
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 112
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i barhau â thrafodaethau y tu allan i'r
Pwyllgor.
Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Amseru ar gyfer dadleuon 30 munud y gwrthbleidiau yn y Cyfarfod Llawn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 115
Cofnodion:
Trafododd
y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i ddychwelyd ato yr wythnos nesaf ar ôl
ymgynghori â'u grwpiau.
Cyfarfod: 07/05/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 30/04/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Derbyniadwyedd cynigion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 120
Cofnodion:
Nododd y
Rheolwyr Busnes y papur.
Cyfarfod: 30/04/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 6)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
Cais i drefnu dadl ar NNDM7031
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 125
Cofnodion:
Cytunodd
Rheolwyr Busnes i'r cais a chytunodd i ddychwelyd at y mater ar ôl toriad y
Pasg.
Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Sesiwn ar y Cyd rhwng y Cynulliad a Senedd Ieuenctid Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 128
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i eitem fusnes ar y cyd rhwng Senedd Ieuenctid
Cymru a'r Cynulliad ar 26 Mehefin 2019 ac, yn unol â Rheol Sefydlog 13.3,
cytunwyd y dylai'r Llywydd wahodd rhai o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i
gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad at y diben hwnnw.
Cyfarfod: 02/04/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 26/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 133
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y trefniadau cyflwyno ar gyfer toriad y Pasg, Calan Mai a
hanner tymor y Sulgwyn
Cyfarfod: 26/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Dyddiadau toriadau'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 136
Cofnodion:
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar ddyddiadau'r toriadau ar gyfer Hanner Tymor mis Hydref 2019
a Thoriad y Nadolig 2019.
Gan fod
Dydd Calan ar ddydd Mercher yn 2020, ni fydd yn bosibl cynnal shifflad o'r
cwestiynau llafar, nac i gynigion gael eu cyflwyno ar y dyddiau arferol yn
ystod wythnos olaf y toriad, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i dderbyn busnes ar gyfer 7 ac 8 Ionawr yn ystod wythnos gyntaf
y toriad, drwy gynnal balot y cwestiynau llafar ddydd Llun 16 Rhagfyr, gyda'r
terfyn amser ar gyfer shifflad y cwestiynau i'r Gweinidogion am 3:30 ddydd
Mercher 18 Rhagfyr. Er mwyn caniatáu digon o amser i ystyried gwelliannau i
gynigion ar gyfer y Cyfarfodydd Llawn cyntaf yn ôl ym mis Ionawr, cytunodd y
Rheolwyr Busnes y dylid gosod y terfyn amser ar gyfer cynigion ar 7 ac 8 Ionawr
am 6pm ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Bydd y terfynau amser ar gyfer gwelliannau i
gynigion ac ar gyfer cwestiynau i'r Prif Weinidog yn dilyn y drefn arferol.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes hefyd y gellid rhoi ystyriaeth yn nes at yr amser i drefnu
busnes ar gyfer wythnos gyntaf mis Ionawr a fyddai'n amharu leiaf ar gyflwyno.
Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y dyddiadau dros dro ar gyfer Hanner Tymor y Gwanwyn a
Toriad y Pasg 2020.
Cyfarfod: 26/03/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 22/01/2019 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Coladu Canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 141
Cofnodion:
Nododd y
Rheolwyr Busnes ddiben a chynnwys y papur, a chytunodd i drafod y papur eto
ymhen pythefnos.
Cyfarfod: 04/12/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Gweithdrefnau ar gyfer Ymddeoliad ac Enwebiad Prif Weinidog
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 144
Cofnodion:
Nododd y
Rheolwyr Busnes y papur.
Cyfarfod: 04/12/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
Busnes y Cynulliad
Cyfarfod: 27/11/2018 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 5)
Busnes y Cynulliad