Cyfarfodydd

NDM6576 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

NDM6576 Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru 2017.

Cefnogwyr:

Adam Price (Dwyrain Casnewydd a Dinefwr)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Leanne Wood (Rhondda)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Sian Gwenllian (Arfon)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

NDM6576 Steffan Lewis (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Parhad i Gymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai cadarnhau bod yr holl bynciau a oedd yn rhan o gyfraith yr UE yn parhau o fewn cyfraith Cymru lle bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Deddf Cymru 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.