Cyfarfodydd

NDM6631 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6631 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod 'Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi' gan Lywodraeth Cymru yn methu â darparu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cyflawni ffyniant economaidd yng Nghymru.

Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu:

a) na fydd Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan Lywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i ffyniant economaidd yng Nghymru;

b) y caiff ffyniant economaidd Cymru hefyd ei lesteirio gan Lywodraeth y DU yn camddyrannu gwariant cyhoeddus ar gymorth tramor nad yw'n ddyngarol, cymorthdaliadau gwyrdd, taliadau llog ar y ddyled genedlaethol a phrosiectau oferedd fel HS2; a

c) tra y gallai gwariant ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill gael ei gynyddu'n sylweddol os byddai gwariant yn cael ei ddargyfeirio o'r blaenoriaethau cyfeiliornus hyn, bydd tlodi cymharol Cymru fel cenedl dim ond yn cael ei unioni gan bolisi economaidd tymor hir sy'n seiliedig ar drethi is a rheoleiddio gweithgarwch busnes mewn ffordd fwy cymesur.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei dad-ddethol]

Gwelliant 2: Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a datgarboneiddio.

2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd.

3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru.

4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno twf economaidd cynhwysol.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.42

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6631 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod 'Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi' gan Lywodraeth Cymru yn methu â darparu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cyflawni ffyniant economaidd yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

27

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu:

a) na fydd Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan Lywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i ffyniant economaidd yng Nghymru;

b) y caiff ffyniant economaidd Cymru hefyd ei lesteirio gan Lywodraeth y DU yn camddyrannu gwariant cyhoeddus ar gymorth tramor nad yw'n ddyngarol, cymorthdaliadau gwyrdd, taliadau llog ar y ddyled genedlaethol a phrosiectau oferedd fel HS2; a

c) tra y gallai gwariant ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill gael ei gynyddu'n sylweddol os byddai gwariant yn cael ei ddargyfeirio o'r blaenoriaethau cyfeiliornus hyn, bydd tlodi cymharol Cymru fel cenedl dim ond yn cael ei unioni gan bolisi economaidd tymor hir sy'n seiliedig ar drethi is a rheoleiddio gweithgarwch busnes mewn ffordd fwy cymesur.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

1

43

49

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2: Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a datgarboneiddio.

2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd.

3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru.

4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno twf economaidd cynhwysol.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

22

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6631 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a datgarboneiddio.

2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd.

3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru.

4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno twf economaidd cynhwysol.

5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

6

15

49

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.