Cyfarfodydd

NDM6627 Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru

NDM6627 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi’r adolygiad o Amgueddfa Cymru – National Museum Wales.

2. Yn croesawu agwedd gadarnhaol yr adroddiad at safon yr Amgueddfa Genedlaethol ac ansawdd y gwaith a wneir gan y staff.

3. Yn cydnabod y materion a godwyd a bod rhaid i Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad.

Dogfen Ategol
Adolygiad o Amgueddfa Cymru

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10

NDM6627 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi’r adolygiad o Amgueddfa Cymru – National Museum Wales.

2. Yn croesawu agwedd gadarnhaol yr adroddiad at safon yr Amgueddfa Genedlaethol ac ansawdd y gwaith a wneir gan y staff.

3. Yn cydnabod y materion a godwyd a bod rhaid i Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.