Cyfarfodydd

NDM6645 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Diwygio Etholiadol y Cynulliad

NDM6645 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.

2. Yn credu:

a) ar hyn o bryd, na ddylai fod unrhyw gynnydd yn nifer aelodau etholedig y Cynulliad; a

b) bod yn rhaid i etholwyr nodi eu caniatâd ar gyfer unrhyw gynnydd yn nifer yr aelodau etholedig yn y dyfodol drwy refferendwm.

Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad - Senedd sy'n Gweithio i Gymru

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.04

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6645 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.

2. Yn credu:

a) ar hyn o bryd, na ddylai fod unrhyw gynnydd yn nifer aelodau etholedig y Cynulliad; a

b) bod yn rhaid i etholwyr nodi eu caniatâd ar gyfer unrhyw gynnydd yn nifer yr aelodau etholedig yn y dyfodol drwy refferendwm.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

48

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

6

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6645 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

6

54

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.