Cyfarfodydd
NDM6645 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Diwygio Etholiadol y Cynulliad
NDM6645
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio
Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.
2. Yn credu:
a) ar hyn o bryd, na ddylai fod unrhyw gynnydd yn nifer
aelodau etholedig y Cynulliad; a
b) bod yn rhaid i etholwyr nodi eu caniatâd ar gyfer
unrhyw gynnydd yn nifer yr aelodau etholedig yn y dyfodol drwy refferendwm.
Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad - Senedd sy'n Gweithio i Gymru
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6645 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.
2. Yn credu:
a) ar hyn o bryd, na ddylai fod
unrhyw gynnydd yn nifer aelodau etholedig y Cynulliad; a
b) bod yn rhaid i etholwyr nodi
eu caniatâd ar gyfer unrhyw gynnydd yn nifer yr aelodau etholedig yn y dyfodol
drwy refferendwm.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
48 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
6 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6645 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, 'Senedd sy'n gweithio i Gymru'.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
6 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.