Cyfarfodydd

NDM6658 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Iechyd Meddwl

NDM6658 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl da.

2. Yn gresynu bod rhai pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn wynebu anghyfiawnder a heriau wrth ddefnyddio gwasanaethau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sectorau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol ac ataliol.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn sicrhau bod plant sydd angen triniaeth ar gyfer iechyd meddwl yn ei derbyn yn brydlon cyn i'w cyflwr waethygu a bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau ar berfformiad yn erbyn yr amcan hwn.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem 17.47

NDM6658 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl da.

2. Yn gresynu bod rhai pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn wynebu anghyfiawnder a heriau wrth ddefnyddio gwasanaethau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sectorau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol ac ataliol.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6658 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl da.

2. Yn gresynu bod rhai pobl â chyflyrau iechyd meddwl yn wynebu anghyfiawnder a heriau wrth ddefnyddio gwasanaethau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sectorau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn gallu darparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol ac ataliol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

6

47

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.